Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 18 Mehefin 2019.
Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn briodol yn eich datganiad, Gweinidog, mae'n amlwg bod traffig ar y ffyrdd yn agwedd arwyddocaol iawn ar lygredd aer, ac rydym ni wedi clywed cyfeiriad eisoes at y problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod i'n croesawu penderfyniad y Prif Weinidog yn fawr i fwrw ymlaen ag ymateb integredig i'r problemau hyn o ran trafnidiaeth? Mae'n ymddangos i mi nad yw'r syniad y gallwch chi ymdrin â'r problemau a achosir gan draffig ar y ffyrdd drwy adeiladu rhagor o ffyrdd eto, sy'n llenwi â mwy fyth o deithiau traffig, yn gasgliad rhesymegol iawn i ddod iddo. Yr hyn sydd arnom ei angen mewn gwirionedd yw newid sylweddol a'r symudiad moddol hwnnw o ran dulliau teithio i weld pobl a nwyddau yn gynyddol oddi ar ein ffyrdd ac ar ein trenau a'n bysiau ac, wrth gwrs, cynyddu teithio llesol yn rhan o hynny, i ni gael gweld y manteision corfforol o ran iechyd yn ogystal ag aer glanach i'w anadlu.
A ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, fod parthau 20 milltir yr awr yn cyd-fynd yn dda iawn â'r math o gynnydd mewn teithio llesol yr ydym ni'n awyddus i'w weld, a'u bod nhw'n cyd-fynd yn dda iawn hefyd gydag anogaeth i'n plant i feicio, cerdded a sgwtera i'r ysgol, a fyddai'n gyfraniad pwysig iawn, yn fy marn i, ar gyfer ymdrin â llygredd aer ar ein ffyrdd, ar ein strydoedd? Oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod pan fo'r ysgolion ar eu gwyliau, bod llawer llai o draffig o gwmpas a llawer llai o lygredd aer. Rydym ni'n gweld yn aml yr anhrefn sydd i'w gael o gwmpas ysgolion pan fydd rhieni'n cael lleoedd annhebygol i barcio lle na ddylen nhw barcio mewn gwirionedd, mae injans yn cael eu gadael yn troi, gadewir cerbydau yn sefyll a'u hinjans yn troi, ac mae'r plant yng nghanol hyn i gyd, ynghyd â staff yr ysgol ac, yn wir, y rhieni sy'n cerdded i'r ysgol gyda'u plant.
Gellir gwneud llawer o bethau i ymdrin â'r materion hyn: bysiau cerdded, polisïau i wobrwyo plant a'i gwneud hi'n nod i'r ysgol i gynyddu cerdded, sgwtera a beicio. Yn wir, mae ysgol gynradd Ringland yn fy etholaeth i wedi cynyddu'r teithio llesol i'r ysgolion gan 20 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac erbyn hyn mae ychydig llai na hanner y disgyblion yn teithio i'r ysgol yn y dull hwnnw. Mae hi'n berffaith bosibl, ond mae'n ymddangos i mi fod angen rhywbeth mwy cynhwysfawr ledled Cymru, rhywbeth mwy systemig, Gweinidog, fel nad yw hyn yn gyfrifoldeb i ysgolion unigol nac, yn wir, i awdurdodau lleol.
Dim ond dau fater arall y byddwn i'n hoffi eu crybwyll. Un ohonyn nhw yw fflydoedd tacsis. Rwyf i wedi sôn wrthych chi o'r blaen, Gweinidog, pe byddem ni'n trawsnewid fflydoedd tacsis i redeg ar Nwy Calor, er enghraifft, byddem ni'n gweld gwelliant enfawr o ran materion llygredd aer. Ac mae cost y trawsnewidiadau fel arfer yn eu had-dalu eu hunain mewn dim ond rhyw flwyddyn neu ddwy. Mae hi'n achos dryswch i mi, mewn gwirionedd, pam nad ydym ni wedi gweld mwy o fentrau o'r fath. Hefyd, a yw eich cylch gwaith chi ar lygredd aer yn ymestyn i ysmygu mewn mannau cyhoeddus? Gan fy mod i'n gwybod bod llawer o bobl yn teimlo'n gryf iawn, yn enwedig pobl â chyflyrau fel asthma, bod anadlu mwg i mewn ym mannau awyr agored caffis a bwytai, mewn parciau, yng nghanol trefi a dinasoedd, yn wirioneddol beryglus i'w hiechyd ac yn llygryn mawr yn yr aer y maen nhw'n ei anadlu.