Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 18 Mehefin 2019.
Rhaid imi hefyd ddiolch i Derek Vaughan a'i longyfarch am gadeirio'r cyfarfodydd yn deg a chynhwysol. Roedd ymrwymiad Derek i'r grŵp hwn a'i gred yn yr hyn y gellid ei gyflawni yn sylfaenol i gynnydd y grŵp. Roeddwn yn falch iawn o weld ei fod wedi cael y CBE yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines y mis hwn am ei gyfraniad at wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus, sy'n haeddiannol iawn.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi argymhellion y gweithgor, sy'n ymdrin â nifer o feysydd gan gynnwys cydwasanaethau, trefniadau uno gwirfoddol, pwerau a hyblygrwydd, amrywiaeth mewn llywodraeth leol, a'r agenda o barchu'r ddwy ochr. Cafwyd llawer o ddadlau adeiladol rhwng yr holl Aelodau ac roeddwn yn falch bod y grŵp yn gallu cytuno ar gyfres glir o egwyddorion ar y cyd yn gyflym fel sail i drafodaethau ac unrhyw waith rhanbarthol a gaiff ei gyflawni yn y dyfodol.
Mae'r egwyddorion yn gosod gweithio rhanbarthol yn gadarn o fewn fframwaith o reolaeth ac atebolrwydd democrataidd, gyda chynaliadwyedd yn graidd iddo a phwyslais ar sicrhau gwasanaeth cyhoeddus yn cyflawni'n well ar gyfer dinasyddion a chymunedau. Roedd hi'n amlwg o'r sgyrsiau yn y gweithgor, a'r gwaith mapio a wnaed gan lywodraeth leol, fod cryn dipyn eisoes o gydweithio ar sail wirfoddol a statudol ledled Cymru. Rwy'n croesawu ac yn cymeradwyo hyn.
Fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth yn y gweithgor hefyd fod y dirwedd hon yn gymhleth, ac y gallai'r cymhlethdod hwn gyfyngu ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y trefniadau hyn. Rwy'n benderfynol o weithio gyda'm cyd-Aelodau yn y Cabinet i ddod o hyd i ffyrdd o leihau rhywfaint ar y cymhlethdod sy'n gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru.
Drwy'r gweithgor, a chyfarfodydd eraill yr wyf wedi'u cael gydag arweinwyr, mae llywodraeth leol hefyd wedi tanlinellu'r angen am fwy o gysondeb yn ein hymagwedd at bartneriaeth. Rwyf wedi ymrwymo i geisio symleiddio lle bynnag y bo modd. Yn dilyn trafodaethau yn y gweithgor, mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a minnau wedi comisiynu adolygiad ar y cyd o'r sefyllfa o ran partneriaethau strategol i nodi'r meysydd allweddol lle y teimlir bod cymhlethdod neu ddyblygu diangen a nodi cyfleoedd ar gyfer symleiddio a rhesymoli. Bydd yr adolygiad hwn yn adrodd i'r cyngor partneriaeth ym mis Hydref eleni.
Un o brif argymhellion y gweithgor oedd yr angen am ddulliau a strwythurau mwy cyson i gefnogi gweithio a chydweithio rhanbarthol. Mae cryn dipyn o amser ac ymdrech yn mynd ar greu ac ail-greu'r trefniadau gwaith ymarferol ar gyfer gweithio ar y cyd; er enghraifft, pa awdurdod fydd yn arwain o ran y cyllid, pa awdurdod fydd y cyflogwr? Cytunodd Aelodau'r gweithgor y byddai un strwythur ar gyfer trefniadau statudol a gwirfoddol yn cadw atebolrwydd democrataidd lleol ac yn sicrhau cysondeb a symleiddio'r trefniadau cydweithio.
Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd i'w gyflwyno i'r Cynulliad hwn yn ddiweddarach eleni, yn rhoi'r cyfle i ddarparu un cyfrwng cyson, syml ac uniongyrchol ar gyfer gweithio rhanbarthol sy'n atebol yn ddemocrataidd. Rwy'n bwriadu cynnwys pwerau yn y Bil i alluogi creu math newydd o weithio ar y cyd—y cyfeirir ato ar hyn o bryd fel cydbwyllgor statudol—sef y cynllun glasbrint i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd. Bydd hyn yn dileu'r costau sefydlu sy'n gysylltiedig â sefydlu trefniadau dyblygu lluosog ac yn galluogi awdurdodau i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n bodoli wrth gydweithio. Bydd y dull newydd hwn o weithio ar y cyd yn gorff corfforaethol sy'n gallu cyflogi staff a dal asedau a chyllid.
Bydd awdurdodau lleol yn gallu gofyn am sefydlu corff o'r fath pan fyddan nhw'n dymuno gweithio gyda'i gilydd ar sail buddiannau cyffredin a budd i'r ddwy ochr. Gall hyn fod mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaeth y mae awdurdodau lleol yn credu y gellir ei ddarparu'n fwy effeithlon ac effeithiol yn y modd hwn. Rwyf hefyd yn cynnig y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu ei gwneud hi'n ofynnol i swyddogaethau awdurdodau lleol gael eu cyflawni'n rhanbarthol yn y modd hwn ar gyfer meysydd gwasanaeth penodol. Ein bwriad yw canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi trefniadau rhanbarthol ar waith—naill ai'n statudol neu'n wirfoddol—neu lle mae darpariaeth i wneud trefniadau rhanbarthol eisoes yn bodoli.
Byddai Gweinidogion Cymru yn gallu sefydlu cyrff yn y meysydd gwasanaeth hyn, pryd y byddai gwneud hynny'n darparu ffordd fwy effeithiol, effeithlon a buddiol o gyflawni'r swyddogaethau hyn. Byddai hyn yn golygu'r posibilrwydd o sefydlu gwasanaethau mewn meysydd gwasanaeth fel cynllunio, trafnidiaeth a datblygu economaidd. Mae'r atebolrwydd democrataidd a'r tryloywder a ddaw yn sgil y trefniadau statudol newydd hyn yn hanfodol ar gyfer unrhyw gydweithio, ond yn enwedig ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau dinasyddion.
I gefnogi hyn, rwy'n falch y bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu cod ymarfer cydweithredol i'w fabwysiadu gan bob awdurdod lleol. Bydd y cod yn darparu egwyddorion clir ar gyfer gweithio rhanbarthol ehangach gyda disgwyliadau eglur o ran lle mae gweithio rhanbarthol yn bwysig, a'r hyn y gall awdurdodau lleol ei ddisgwyl gan ei gilydd wrth ystyried trefniadau newydd, neu reoli'r cyd-drefniadau presennol. Rwyf hefyd yn falch o ddweud fy mod wedi ymrwymo i gefnogi, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, swyddogaeth newydd ar gyfer gwella a chefnogi, a argymhellwyd gan y gweithgor, a fydd, rwy'n credu, yn rhoi cymorth cadarnhaol i awdurdodau i sicrhau'r arloesedd a'r trawsnewidiad yn y gwasanaeth sydd eu hangen ar gyfer dyfodol ein dinasyddion a'n cymunedau.
Rwyf wedi cytuno â llywodraeth leol y crëir is-grŵp newydd o Gyngor Partneriaeth Cymru, a fydd yn gweithredu ar rai o brif argymhellion y gweithgor. Bydd yr is-grŵp hwn yn mabwysiadu'r egwyddorion a oedd yn gwneud y gwaith grŵp mor llwyddiannus—cyd-barch ac agenda ar y cyd i sicrhau'r canlyniadau gorau posib i bobl Cymru. Diolch.