Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 18 Mehefin 2019.
Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. Rwy'n credu bod 24, felly, byddaf i'n gwneud fy ngorau i'w hateb.
Mae'r cynnig hwn wedi'i ddatblygu, ni allaf bwysleisio digon, mewn cydweithrediad llwyr â llywodraeth leol. Nid yw hwn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i lywodraeth leol, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud gyda'n gilydd. Mae'n deillio o'r gweithgor. Gweithiodd y gweithgor yn effeithiol iawn, oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, derbynnir yn eang gan lywodraeth leol yn ei chyfanrwydd fod y system bresennol yn gymhleth ac y gallai gael ei dyblygu, ac nad yw'n dryloyw iawn i'r dinesydd sy'n edrych i weld sut y caiff ei wasanaethau eu darparu. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw creu cyfrwng symlach a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol gael pŵer caniataol—gydag un neu ddau eithriad, ond pŵer caniataol ydyw sy'n caniatáu i lywodraethau lleol ddod at ei gilydd mewn diwyg arbennig, nad yw ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd. Byddwn yn galluogi i hynny fod ar gael drwy'r Bil, a bydd yn bwyllgor sydd yn endid cyfreithiol yn ei hawl ei hun, sy'n cael ei ffurfio gan arweinwyr yr awdurdodau lleol sy'n cydweithio. Felly, mae'n ddull democrataidd syml iawn. Bydd disgwyl i'r awdurdodau lleol ddirprwyo'r pwerau i'r pwyllgor hwnnw y maen nhw am ei wneud yn rhanbarthol yn y ffordd honno, ac wedyn gall y pwyllgor hwnnw sefydlu unrhyw strwythur y mae'n ei ddymuno o dan y drefn honno, gydag unrhyw gyfethol, unrhyw un y mae'n dymuno ei gael. Dydym ni ddim mewn unrhyw ffordd—. Dydym ni ddim yn gorfodi ein hewyllys mewn unrhyw ffordd ar hynny; mae'n fater i'r awdurdodau lleol sy'n dod ynghyd i wneud y gwaith rhanbarthol hwnnw.
Rydym ni'n gwneud hynny gan fod hynny'n caniatáu i gyrff fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru fabwysiadu'r strwythur hwnnw. Bydd yn sicr yn caniatáu i drefniadau bargen dinas Caerdydd fabwysiadu'r strwythur hwnnw. Mae'n caniatáu cynrychiolaeth o'r trydydd sector. Mae'n caniatáu cyfethol unrhyw un sy'n bartner sy'n gweithio i awdurdodau lleol o ran darparu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu.
Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol am y byrddau cynllunio rhanbarthol. Nid ydym ni wedi eu cynnwys yn benodol fel rhai gorfodol nac unrhyw beth arall ar wyneb y Bil, ond bydd yn gyfrwng sy'n agored i awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Doedd gennym ni ddim amser i wneud y gwaith polisi i'w roi ar wyneb y Bil, ond, ar y cyd ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd—ac mae'r Gweinidog Iechyd a minnau wedi cael sgyrsiau cychwynnol am hyn—byddwn yn edrych i weld a ydym ni'n credu y byddai'n fuddiol, oherwydd rydych chi'n nodi'n gywir fod rhai awdurdodau lleol yn teimlo, ar hyn o bryd, eu bod yn eistedd yn yr un cyfarfod a dim ond dau o bobl sy'n newid bob awr neu ddwy. Ac rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn defnyddio'u hamser a'u harian yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosib.
Mae tri maes yr hoffem ni eu harchwilio gyda llywodraeth leol dros yr haf. Y cyntaf o'r rheini yw maes trafnidiaeth, lle ceir Papur Gwyn eisoes yn sôn am gyd-awdurdodau trafnidiaeth. Yn hytrach na chael trefniant rhanbarthol gwahanol ar yr un pryd, rydym ni'n bwriadu rhoi hynny yn y trefniant hwn. Mae gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 eisoes drefniadau cynllunio strategol ynddi. Byddwn yn rhoi'r rheini yn y trefniant hwn. A byddem yn awyddus iawn i sicrhau bod datblygu economaidd a defnydd tir ar gyfer datblygu tai cymdeithasol yn rhan o'r trefniant hwn. Byddai hynny'n creu tair mantais, mae'n ymddangos i ni: un yw y byddai'n caniatáu i'r tir gael ei ddefnyddio ar y cyd ledled Cymru er mwyn cael y gorau o'r posibiliadau ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol, rhywbeth yr ydym ni eisiau ei wneud yn gyflym ac ar raddfa fwy. Yr ail yw y byddai'n caniatáu i bobl rannu adnoddau dynol prin. Mae'n anodd iawn cael gafael ar yr holl sgiliau sydd eu hangen i adeiladu'n gyflym ac ar raddfa fwy ym mhob ardal yng Nghymru, felly byddai'n ein galluogi ni i gronni'r adnoddau dynol prin hynny. A'r trydydd yw y byddai'n caniatáu cyllidebau cyfun. Wrth gyflwyno'r cyfrwng hwn yn y Ddeddf, byddwn yn cyflwyno fframwaith perfformiad newydd i gyd-fynd ag ef a fydd yn cwmpasu'r mater sy'n ymwneud â'r dadansoddiad cost a budd a'r hyn y mae angen ei wneud er mwyn gwneud hynny ac, ar y cyd, unwaith eto, â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau y bydd disgwyl i awdurdodau lleol lynu wrthynt pan fyddant yn ymrwymo i drefniant o'r fath, neu'n tynnu eu hunain allan o drefniant o'r fath. Ond ni allaf bwysleisio digon, Llywydd, fod hyn yn cael ei wneud ar y cyd â llywodraeth leol. Mae'n rhywbeth y maen nhw'n dymuno ei gael cymaint ag y dymunwn ni, a bydd yn symleiddio i ddinasyddion Cymru y ffordd y caiff eu gwasanaethau eu darparu.