Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch. Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir i dynnu sylw at y ffaith bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ymhlith eraill, ran bwysig iawn i'w chwarae yn diogelu ein hamgylchedd naturiol a chefnogi ein diwydiant twristiaeth. Os cofiaf yn iawn, mae'r llythyr a ysgrifennais at fy nghyd-Aelod, Dafydd Elis-Thomas—mae'n debyg fod 'CNC' wedi ymddangos mwy nag unrhyw air arall. Felly rwy'n gwybod, er enghraifft, eu bod yn ymgynghorai yn y broses gynllunio ynglŷn â'r datblygiadau presennol yng Nghwm Afan yn eich etholaeth. Gwn fod bwriad i ddatblygu canolfan antur Afan. Ond rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd. Rydych chi'n iawn ynglŷn â chymunedau. Mae angen inni weithio gyda chenedlaethau'r dyfodol o fewn canllawiau Deddf cenedlaethau'r dyfodol fel y gall pawb elwa o'n hadnoddau naturiol.