Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch am eich ateb i David Rees yn y fan honno. Rwy'n meddwl sut y gallwch weithio gyda CNC gyda phortffolios eraill o fewn y Llywodraeth yn ogystal â thwristiaeth a lle gall y posibiliadau hyn gydblethu â'i gilydd. Ym mis Ionawr, gofynnais a oeddech yn meddwl bod cyfle i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gydag ysgolion fel y gallai plant a phobl ifanc chwarae rhan yn ailblannu coed yn eu hardaloedd lleol, a chredaf ei fod wedi codi yng nghyd-destun Cwm Afan, a dweud y gwir, oherwydd nid yn unig fod hynny'n helpu lles cymunedau a thwristiaid, a busnesau twristiaeth hefyd yn wir, mae'n mynd yn ôl at gwestiwn Mike Hedges am ddysgu am wyddoniaeth a dal carbon yn ogystal â hanes y cwm hwnnw.
Ar y pryd, fe ddywedoch eich bod yn meddwl ei fod yn syniad da ac y byddech yn siarad â'ch cyd-Aelod Kirsty Williams ynglŷn â hynny. Clywaf eich bod wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Rwy'n meddwl tybed a allai fod yn werth rhoi atodiad i'r llythyr hwnnw er mwyn codi hyn fel posibilrwydd. Diolch.