Hybu Twristiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:54, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Rydych yn gwneud pwyntiau pwysig iawn, ac rwyf wedi cael sgyrsiau manwl gyda chadeirydd a phrif weithredwr ac aelodau eraill CNC ynghylch plannu coed, oherwydd—atebais yn fy ateb cynharach i Mike Hedges nad ydym yn plannu digon o goed, ac yn sicr, os ydym yn mynd i liniaru newid hinsawdd yn y ffordd y byddem yn dymuno ei wneud, mae angen i ni sicrhau bod hynny'n digwydd. Felly, rwy'n gwybod bod CNC yn gweithio gydag ysgolion o'r sgwrs ddiwethaf a gefais gyda hwy. Nid wyf yn gwybod a yw'n ymwneud yn benodol â phlannu coed, ond rwy'n credu ei fod yn sicr yn gyfle y gallant ei ddatblygu. Mae CNC yn rheoli 7 y cant o arwynebedd tir Cymru, ac mae'n amlwg fod hynny'n cynnwys llawer o warchodfeydd ac ardaloedd picnic a choetiroedd, felly mae'n gyfle da iawn i fynd allan i'r awyr iach a gwella lles.