Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 19 Mehefin 2019.
Rydych yn gwneud pwynt da iawn. Yn amlwg, roedd y cwestiwn hwn yn ymwneud yn benodol â'r grant busnes i ffermydd, ac fel y dywedais yn fy ateb i Rhun ap Iorwerth, holl bwynt y cynllun hwn oedd ein bod wedi sicrhau ei fod mor hawdd a syml â phosibl. Roeddwn o'r farn ein bod wedi llwyddo i wneud hynny. Yn amlwg, mae'r mater a godwyd gan Rhun yn dangos nad oedd mor syml a hawdd ag y buaswn wedi gobeithio. Yn sicr, o ran grantiau eraill, bellach—mae angen i ni edrych ar sicrhau eu bod mor hawdd a syml â phosibl. Ac os yw Brexit yn darparu unrhyw gyfleoedd, yn amlwg, gan fod gennym ein polisi amaethyddol ein hunain ac rydym yn diwygio'r system daliadau, credaf fod hynny'n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Oherwydd fel y dywedwch, os yw'n gyfnod bach iawn ar adeg brysur iawn o'r flwyddyn, mae angen i ni sicrhau y gall pawb ymgeisio amdano mor syml â phosibl. Rwy'n falch eich bod wedi adleisio'r pwynt a wneuthum o ran y defnydd mwyaf effeithiol o arian cyhoeddus.