Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 19 Mehefin 2019.
Rwy'n datgan buddiant, yn amlwg, gan fy mod yn bartner mewn busnes ffermio. Weinidog, un o'r pethau sydd mor rhwystredig, yn aml iawn, yw'r cymhlethdod, yn benodol, ynghylch y cynlluniau grantiau coetir sydd ar gael. O ystyried bod llawer o drafod wedi bod yn y Siambr hon heno—y prynhawn yma, dylwn ddweud—ynglŷn â chynyddu'r defnydd o goetiroedd, a allwch ymrwymo'r adran i edrych ar sut y gellid symleiddio'r cynllun hwnnw er mwyn ei wneud yn llawer cyflymach o ran prosesu ceisiadau fel ei fod yn annog mwy o gyfranogiad? Gwn eich bod wedi agor cyfnod newydd yn ôl ym mis Ebrill ar gyfer hyn, ac rwy'n deall ei fod yn arian cyhoeddus a bod yn rhaid i'r archwilio a'r atebolrwydd fod yn gadarn, ond pan fydd gan fusnesau gyfnodau bach o amser, yn amlwg, ar gyfer plannu coed, mae angen iddynt fod yn hyderus y gellir prosesu'r grantiau y maent yn ymgeisio amdanynt yn brydlon. Yn sicr, mae etholwyr wedi dweud wrthyf fod y broses hon yn lletchwith iawn, yn fiwrocrataidd iawn, ac yn eu hatal rhag gwneud ceisiadau mewn gwirionedd.