Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 19 Mehefin 2019.
Mae dim oriau ac oriau wythnosol neu ddyddiol gwarantedig byr yn golygu nad oes sicrwydd incwm ar sail wythnosol neu fisol. Mae hyn yn arwain at broblemau ariannol difrifol pan nad oes llawer o oriau, os o gwbl, yn cael eu gweithio mewn unrhyw wythnosau. A'r peth pwysig yw: peidiwch byth â bod yn sâl, oherwydd pan fyddwch yn sâl byddwch yn mynd yn ôl naill ai i'ch lleiafswm o un awr neu ddim oriau, a'r banc bwyd yw'r unig obaith o gael bwyd.
Mae defnyddio staff a gyflogir drwy asiantaeth yn golygu mai'r asiantaeth sydd â'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau cyflogaeth. Ar ôl 12 wythnos yn yr un rôl yn gweithio i'r un cyflogwr, mae hawl gan weithwyr asiantaeth i gael yr un amodau cyflogaeth a gwaith â staff parhaol. Yn hollbwysig, fodd bynnag, nid oes gan weithwyr asiantaeth hawl i gael budd-daliadau megis tâl salwch galwedigaethol, tâl dileu swydd ac yswiriant iechyd, yr hawl i wneud cais am ddiswyddo annheg, a rhybudd diswyddo lleiaf lle byddant yn gweithio. Mae hyn yn golygu bod staff asiantaeth yn llawer haws i'w diswyddo na staff a gyflogir yn uniongyrchol oherwydd eu bod yn cael eu cyflogi gan yr asiantaeth, nid y cwmni lle maent yn gweithio. A hefyd, mae'r 12 wythnos yn bwysig iawn, oherwydd ar ôl 11 wythnos os byddwch yn eu symud ymlaen a'u bod yn dychwelyd bythefnos yn ddiweddarach, mae'r 12 wythnos sy'n rhaid i chi ei weithio i gael yr hawliau hynny'n ailddechrau unwaith eto gyda'r diwrnod cyntaf.
Mae ailenwi'r isafswm cyflog yn gyflog byw wedi achosi peth dryswch yn amlwg, gan fod cyflog byw cenedlaethol eisoes wedi'i gyfrifo gan y Living Wage Foundation. Ar hyn o bryd, mae bron i 6 miliwn o weithwyr yn y DU yn cael llai o gyflog na'r cyflog byw fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation. Credaf fod yr achos dros dalu o leiaf y cyflog byw go iawn, fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation, i bawb yn ddadl wirioneddol gref. Nid wyf yn credu ei bod hi'n gwneud synnwyr fod y Llywodraeth yn gorfodi isafswm cyflog nad ystyrir ei fod yn ddigon i allu byw arno, a bydd ei ailenwi'n gyflog byw yn arwain at ddrysu rhyngddo a'r cyflog byw go iawn, a dyna pam y credaf fod angen dybryd i bawb gael y cyflog byw fel y'i diffinnir gan y Living Wage Foundation. Nid oes a wnelo hyn â chael ffyrdd o fyw egsotig; mae ond yn golygu eich bod yn gallu byw.
Un o'r problemau mwyaf sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw yw tlodi mewn gwaith, sy'n rhywbeth y byddai'r cyflog byw yn helpu i fynd i'r afael ag ef, ac un o broblemau mwyaf Llywodraeth San Steffan yw talu budd-daliadau mewn gwaith, rhywbeth unwaith eto y byddai talu cyflog byw yn helpu i'w ddatrys. Credaf fod gan y Llywodraeth ddyletswydd foesol i sicrhau safon byw sy'n weddus i bawb.
Gwyddom hefyd ein bod yn gwneud yn dda iawn o ran nifer y bobl sy'n ddi-waith, ond os oes gennych rywun sy'n gweithio 40 awr ac yna fod dau berson ar gontractau 15 awr yn dod yn ei le, ac un person ar 10 awr, rydych wedi sicrhau bod dau yn fwy o bobl yn cael eu cyflogi, sy'n dda o ran diweithdra, ond yn hytrach na chael un gweithiwr sy'n cael ei dalu'n gymharol dda, mae gennych dri gweithiwr ar gyflog isel iawn, ac mae hynny'n effeithio nid yn unig ar y bobl, mae'n effeithio ar y budd-daliadau y maent yn eu cael, ac mae hefyd yn effeithio ar dderbyniadau treth y Llywodraeth yn San Steffan.
Mae manteision hefyd i gyflogwyr yn ôl adroddiad y Living Wage Foundation. Mae cyflogwr cyflog byw yn sicrhau bod yr holl gyflogeion yn cael y cyflog byw fan lleiaf; mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n gweithio ar sail reolaidd ar eich safle i gontractiwr neu is-gontractiwr, fel glanhawyr neu staff diogelwch. Mae cyflogwyr cyflog byw yn nodi bod morâl yn well, trosiant staff yn is, llai o absenoldeb, mwy o gynhyrchiant a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid.
Rhaid i ni anelu i greu economi cyflog uchel a sgiliau uchel, a byddai dod yn wlad cyflog byw yn un cam pellach ar hyd y ffordd honno. 'Ni allwn ei fforddio a bydd yn arwain at lai o swyddi' yw'r ddadl a ddefnyddiwyd yn erbyn pob newid blaengar, o ddiddymu caethwasiaeth i'r isafswm cyflog. 'Na, ni allwn ei fforddio, bydd yn arwain at fethdaliad.' Pan oeddem yn ymladd am yr isafswm cyflog, un o lwyddiannau mawr Tony Blair a'r Llywodraeth Lafur yn 1997, rwy'n cofio pobl yn dweud, 'O, bydd yn rhaid inni ddiswyddo pobl; bydd yn rhaid i ni dorri staff', fel pe bai cyflogi pobl yn weithred ddyngarol y byddai cyflogwyr yn ei gwneud, ac y byddent yn rhoi'r gorau i'w gwneud am y byddai'n rhaid iddynt dalu mwy. Yr hyn a ganfuwyd mewn gwirionedd oedd bod mwy o bobl yn cael eu cyflogi am fod gennych fwy o arian yn yr economi leol, ac roedd yn cynyddu galw.
Enillasom y frwydr dros yr isafswm cyflog; ni chollwyd y swyddi. Efallai ei fod wedi lleihau gwerthiant y ceir mwyaf crand, ond rhoddodd arian ym mhocedi pobl a bu'n help mawr i economïau lleol. Os ydym yn talu mwy o arian i bobl sy'n gymharol dlawd, maent yn ei wario'n lleol. Os ydych yn talu mwy o arian i bobl sy'n gyfoethog iawn, maent yn tueddu i'w wario mewn mannau eraill. Mae gwir angen inni ddod yn wlad cyflog byw, ond mae angen mwy na hynny. Credaf y byddai bod yn wlad cyflog byw yn gwneud Cymru'n wlad decach, ac mae hwn yn bolisi y gallai pob un ohonom sy'n byw yng Nghymru fod yn falch ohono ac yn un y dylem ni fel sosialwyr, ar ein hochr ni, ymgyrchu drosto.
Camau gweithredu y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith, ac rwyf wedi gofyn am hyn o'r blaen a byddaf yn gofyn amdanynt eto, a byddaf yn dal i ofyn amdanynt: sicrhau bod pob gweithiwr sector cyhoeddus a gyflogir gan gyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn cael y cyflog byw go iawn; gwneud talu'r cyflog byw go iawn yn rhagamod ar gyfer contractio gyda chyrff sector cyhoeddus a ariennir drwy Lywodraeth Cymru, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol; gwneud talu'r cyflog byw go iawn yn rhagamod i grantiau a benthyciadau i gwmnïau preifat; gwahardd contractau camfanteisiol gan gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'u contractwyr a'u his-gontractwyr. gwneud cymorth ariannol i gwmnïau, yn grantiau a benthyciadau, yn ddibynnol ar gontractau nad ydynt yn gamfanteisiol.
Dim ond at ryw bwynt y bydd hyn yn mynd â ni, ond mae'n mynd â ni'n bell—. Ni ddylem annog a chefnogi cyflogau tlodi. Ni ddylem annog a chefnogi camfanteisio.
Yr hyn sydd ei angen arnom, fodd bynnag, yw mwy o swyddi ar gyflogau uwch. Mae economi Cymru yn hynod o wan. Rwyf wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru droeon ein bod yn brin iawn o sectorau cyflog uchel a phan gawn adroddiadau'n dod i mewn yn nodi lle rydym yn wan, mae'n dweud pethau fel 'TGCh', ac mae'n dweud pethau fel 'bancio ac yswiriant', ac mae'n dweud pethau am wasanaethau proffesiynol—y meysydd ar y brig gyda chyflogau uchel.
Felly, beth sydd angen i ni ei wneud yng Nghymru? Credaf fod angen inni weithio'n agosach gyda'r prifysgolion: Aarhus, er enghraifft, a model y parc busnes, ac mae gan Manheim ganolfan ar gyfer arloesi ac entrepreneuriaeth. Gwyddom eu bod yn gweithio yn y dinasoedd hynny. Nid oes unrhyw rheswm pam na allant weithio yma. Mae'n hawdd dweud, 'O, mae Caergrawnt yn llwyddiannus iawn; mae ganddi barc gwyddoniaeth.' Abertawe, Caerdydd a Chaergrawnt? Na. Ond a allem fod yr un fath â Manheim ac Aarhus? Nid oes unrhyw reswm pam na allem. Manheim yw'r ail ddinas o fewn ei Länder ac Aarhus yw'r ail ddinas yn Nenmarc—nid yn annhebyg i Abertawe.
Er bod y term 'technium' wedi dod yn gyfystyr â methiant, roedd y syniad gwreiddiol o'i ddefnyddio yn Abertawe i ddarparu cyfleusterau ar gyfer cwmnïau newydd a ddoi allan o'r brifysgol yn un da, ond roedd labelu pob ffatri ddatblygedig fel canolfannau technium yn sicr o fethu.
Ceir rhai camau syml a chyflym y gellid eu cymryd i wella economi Cymru: darparu benthyciadau mwy drwy'r banc masnachol i gwmnïau canolig eu maint. Nid ydym yn tyfu cwmnïau o faint canolig i fawr. Yn wir, yr unig gwmni y gallaf feddwl amdano sydd wedi gwneud hynny yn y blynyddoedd diwethaf yw Admiral. Mae gwir angen inni wthio cwmnïau o fod yn ganolig i fod yn fawr, gan fod llawer gormod o gwmnïau canolig eu maint, yn anffodus, yn gwerthu allan.
Gallem ddarparu benthyciadau yn erbyn asedau tramor a gosod contractau Llywodraeth o faint y gall cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru ymgeisio amdanynt. Mae angen i ni ei gwneud yn haws i ficrogwmnïau ehangu. Mae angen inni dyfu mewn sectorau economaidd allweddol. Pam fod Dundee yn gynhyrchydd gemau cyfrifiadurol pwysig? Dyna ddinas arall—rwyf wedi ceisio dewis dinasoedd nad ydynt yn ddinasoedd mawr y byd, ond dinasoedd y mae gennym ni yng Nghymru ddinasoedd tebyg iawn iddynt.
Gellir cynhyrchu gemau cyfrifiadurol yn unrhyw le yn y byd. Daeth Abertay o hyd i gefnogaeth wleidyddol ac ariannol i sefydlu adran newydd a gynigiai'r radd gyntaf yn y byd mewn gemau cyfrifiadurol yn 1997. Erbyn hyn ceir dyrnaid o raddau cysylltiedig, gan gynnwys dylunio gemau a rheoli cynhyrchu, a chwrs BSc diddorol o'r enw 'hacio moesegol'. Caiff cannoedd o raddedigion gemau eu cynhyrchu gan Abertay bob blwyddyn, gan gynnwys David Jones, sylfaenydd DMA Design. Ar ôl Lemmings yn 1991, rhyddhaodd yr argraffiad cyntaf o'r gêm ddadleuol Grand Theft Auto yn 1997. Gwerthwyd miliynau, ac mae fersiynau newydd yn parhau i ddod i frig siartiau'r gemau. Mae galw am wneuthurwyr gemau hyfforddedig yn y diwydiant gemau ym mhob rhan o'r byd. Mae nifer sylweddol ohonynt yn aros yn yr ardal, yn creu gemau ac yn adeiladu cwmnïau newydd gyda thimau y gwnaethant gyfarfod â hwy wrth astudio.
Creu parc busnes tebyg i Aarhus neu ganolfan Manheim ar gyfer arloesi ac entrepreneuriaeth, neu Dundee yn datblygu diwydiannau ar y cyd â'r Brifysgol—nid yw'r rhain yn bethau anodd; dyma sy'n rhaid inni ei wneud os ydym am dyfu ein heconomi. Yr hyn sydd arnom ei angen yw polisïau sy'n gweithio i gefnogi twf cwmnïau yng Nghymru a sefydlu rhai newydd. Nid ydym ni yng Nghymru yn meddu ar lai o sgiliau, entrepreneuriaeth a gallu nag unman arall yn y byd. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw sicrhau y gallwn greu'r cwmnïau hyn yng Nghymru, a gadewch inni sicrhau cyflogau da i bobl a byddai hynny o ddifrif yn hybu ein heconomi. Diolch.