Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:35, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog, ond rydym yn dal i weld cynghorau'n methu ystyried y Ddeddf yn iawn mewn rhai ardaloedd. A gaf fi gyfeirio at enghraifft yn fy rhanbarth i, ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Yn ddiweddar, cafwyd ymgynghoriad ar fysiau mewn perthynas â chael gwared ar wasanaethau. Roedd adroddiad i'r cabinet a oedd yn argymell y toriadau wedi methu cynnal asesiad cydraddoldeb nac asesiad o'r effaith ar genedlaethau'r dyfodol. Dywedasant y byddent yn gwneud y ddau beth ar ôl yr ymgynghoriad cyn i'r penderfyniad terfynol gael ei gymeradwyo. Hynny yw, ar ôl i benderfyniad gael ei wneud. Enghraifft arall, felly, yn yr un awdurdod, Pen-y-bont ar Ogwr—gwerthu'r unig gae chwarae a oedd yn gwasanaethu ystâd o dai cyngor er mwyn codi tai. Onid yw'r rhain yn enghreifftiau o awdurdodau lleol yn methu meddwl yn wahanol?