Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:36, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn ymwybodol o fanylion yr achosion hynny. Roeddwn yn ymwybodol o'r ymgynghoriad ar fysiau; nid wyf yn ymwybodol o fanylion yr achos arall. Os oes gan yr Aelod fwy o fanylion, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr, ond yn anffodus, roedd hynny ar y diwrnod y cyhoeddwyd y byddai safle Ford yn cau, ac yn amlwg felly, newidiodd ein cyfarfod o'r cyfarfod arferol roeddwn i fod i'w gael gydag ef i fod yn gyfarfod argyfwng am Ben-y-bont ar Ogwr. Ond rwyf i fod i'w gyfarfod eto gyda hyn, felly os caf y manylion gan yr Aelod, rwy'n fwy na pharod i drafod yr achos gydag ef.