Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 19 Mehefin 2019.
Ond y ffaith yw ei bod yn ymddangos naill ai nad oes unrhyw ddannedd i'r Ddeddf ei hun, neu nad oes unrhyw ewyllys yn y Llywodraeth i olrhain ei gweithrediad, oherwydd ar ochr draw'r rhanbarth, yn Abertawe, mae Cyngor Abertawe yn bwriadu gwerthu tir ar y blaendraeth er mwyn gwneud elw cyflym, fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, ac nid yw parc eiconig Singleton hyd yn oed yn ddiogel rhag y sgemio a sgilio. Onid yw hyn yn gwbl groes i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, ac a oes digon o gapasiti yn y Llywodraeth i olrhain gweithrediad Deddf cenedlaethau'r dyfodol?