Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 19 Mehefin 2019.
Tybed pa rôl y mae'r Gweinidog yn gweld tai modiwlar yn ei chwarae yn diwallu anghenion o fewn ardaloedd awdurdodau lleol? Roeddwn yn falch iawn o allu ymuno â hi yn ddiweddar ym Maes Glas yn Ynysawdre i edrych ar fenter Cymoedd i'r Arfordir gyda thai modiwlar ar y thema honno o dai am oes y gellir eu haddasu a'u newid wrth i'r blynyddoedd fynd heibio. Nawr, mae'r gwaith hwnnw'n cael ei ddatblygu gan gwmni o Bort Talbot, Wernick, sy'n newydd i'r farchnad breswyl hon ond sydd â hanes hir ym maes adeiladu modiwlar. A tybed faint yn fwy y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud ag ansawdd, cartrefi am oes a bodloni'r anghenion cyflenwi enfawr sydd gennym gyda gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol, ac adeiladu swyddi lleol, rhaid dweud, ym Mhort Talbot ac yn lleol gyda mi.