Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch i chi, Weinidog, ac mewn rhai ffyrdd, mae'r cwestiwn hwn yn dilyn y cwestiwn cynharach gan Rhun, a soniasoch yn gynharach ein bod newydd ddod o ddigwyddiad a drefnwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, a'u bod yn siarad am yr union fater hwn. Ni wnaf ailadrodd yr hyn rydych chi ac eraill eisoes wedi'i ddweud am fanteision addasiadau, ond rydym i gyd yn wynebu'r her o ddarparu'r addasiadau hynny mewn da bryd, ac mae'r coleg brenhinol yn argymell dull o gategoreiddio gwaith addasu sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i'r unigolyn, wedi'u hysgogi gan lefel cymhlethdod anghenion pob unigolyn. Felly, a gaf fi ofyn i chi: a ydych yn cymeradwyo'r canllawiau i gynllunio a darparu addasiadau cartrefi mewn modd gwahanol yng Nghymru i'r coleg brenhinol? Ac a allwch ddweud wrthyf a fyddwch yn gweithio gyda hwy i weld sut y gellir cyflawni'r argymhellion yn eu hadroddiad yn effeithiol?