Ystyriaethau Amgylcheddol yn y System Gynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:58, 19 Mehefin 2019

Diolch i chi am yr ateb, achos dyna yw'r theori, ond rwy'n credu bod y practis damaid bach yn wahanol, oherwydd gan fod y Prif Weinidog wedi dweud yn glir mewn perthynas â'i benderfyniad ynglŷn â'r M4 fod y pwysau mae e wedi'i roi ar ystyriaethau amgylcheddol yn wahanol i'r pwysau roddwyd ar yr ystyriaethau hynny gan yr Arolygiaeth Gynllunio, dwi'n meddwl bod hynny yn amlygu anghysondeb pwysig o fewn y gyfundrefn, ac mae rhywun yn cwestiynu faint o benderfyniadau eraill fyddai wedi bod yn wahanol petai'r arolygydd cynllunio efallai wedi rhoi yr un pwys ar ffactorau amgylcheddol ag yn amlwg y mae'r Prif Weinidog a'r Llywodraeth yn ei wneud erbyn hyn. Felly, sut ydych chi'n bwriadu diwygio neu gywiro canfyddiad anghywir, os caf i ddweud, yr Arolygiaeth Gynllunio ar y weighting sydd angen ei roi ar faterion amgylcheddol, yn enwedig, wrth gwrs, yn sgil datgan argyfwng hinsawdd?