6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dysgu Hanes Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:05, 19 Mehefin 2019

Hoffwn i, cyn dechrau, ddiolch ar ddechrau'r drafodaeth yma i ambell i berson. Diolch i Suzy Davies am gefnogi a hybu'r ddadl. Dwi'n edrych ymlaen at glywed eich sylwadau cloi chi'n nes ymlaen. A diolch i'r rheini a ddaeth ac a gyfrannodd i seminar diweddar wnes i ei gynnal fan hyn yn y Senedd ar hanes Cymru yn y cwricwlwm newydd. Fe gawsom ni drafodaeth ddifyr a chynhyrchiol gan arbenigwyr yn y maes, a chlywed cyflwyniadau gan Eryl Owain, o Ymgyrch Hanes Cymru, Euryn Roberts, hanesydd o Brifysgol Bangor, Martin Johnes, hanesydd o Brifysgol Abertawe, ynghyd ag athrawon ac eraill. Buaswn i hefyd yn leicio diolch i'r rheini sydd wedi dangos diddordeb mawr yn y ddadl yma heddiw yma. Mae'n amlwg bod yna dân yn y bol i gael trafod y pwnc yma, a dwi'n gwybod bod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi cynnal balot i weld pa bwnc ddylai gael sylw ganddyn nhw, ac roedd hanes Cymru ymhell ar y brig. Felly, dwi'n edrych ymlaen at weld argymhellion y pwyllgor yn dilyn ei ymchwiliad.

Mae'n amserol cynnal y ddadl yma heddiw yma oherwydd bod cwricwlwm Cymru'n cael ei ail-gynllunio. Mae'r cwricwlwm yn cylchdroi o amgylch sgiliau yn hytrach na chynnwys. Mae yna gryfder yn hynny o beth, ond mae o'n gallu codi problemau, ac mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny. Mae hanes—yn hytrach na hanes Cymru—yn cael ei enwi mewn rhestr o bynciau sydd i'w dysgu o dan y pennawd 'dyniaethau', sef un o'r ardaloedd dysgu a phrofiad newydd. Mae'r dyniaethau'n cynnwys daearyddiaeth, hanes, addysg grefyddol, cymdeithaseg ac yn y blaen. Maen nhw wedi'u plethu i'w gilydd, ac felly dydy cwricwlwm Donaldson ddim yn gosod unrhyw sylfaen ar gyfer dysgu hanes Cymru fel y cyfryw. A beth sy'n fy mhoeni i am hyn ydy, wrth beidio â chynnwys hanes Cymru o fewn y fframwaith, does yna ddim seilwaith na sicrwydd y byddai hanes Cymru a digwyddiadau hanesyddol o fewn hanes Cymru yn cael eu cynnwys mewn gwersi wrth ddilyn y cwricwlwm newydd. Mae angen troi hynny ar ei ben, ac fe all y cwricwlwm fod yn gyfle arbennig i sicrhau nad yw unrhyw ddisgybl yn colli'r cyfle i ddysgu am hanes Cymru.

A dwi'n awgrymu gwelliant bach syml: dwi'n awgrymu bod 'hanes' yn y rhestr yna o bynciau yn cael ei newid i 'hanes Cymru a'r byd' fel bod ein hasesiad a'n hastudiaethau o hanes y byd yn dod o lens ein persbectif Cymreig. Mae dysgu am hanes Cymru yn allweddol ar gyfer ein cenedlaethau nesaf a'u gwneud nhw'n ddinasyddion gwybodus ac ymgysylltiedig, sef un o ddibenion mawr y cwricwlwm newydd. Yn bresennol, mae yna ofyniad yn y cwricwlwm drafft am ddimensiwn Cymreig, a hynny'n rhedeg drwyddo fo, ond dydy hwnnw ddim yn ganolog i'r cwricwlwm ac mae o'n un llinyn o nifer. 

Yr egwyddor tu ôl i'r cwricwlwm newydd ydy rhoi rhyddid i athrawon i fod yn greadigol pan yn dysgu eu pwnc, ac, yn sicr, mae hynny'n ganmoladwy ac yn dangos cydnabyddiaeth o allu ein hathrawon ni, ond mae perig i argymhellion y Llywodraeth arwain at anghysondeb, ac fe fyddai arferion da sy'n cael eu gweithredu mewn mannau ar hyn o bryd ddim yn cael eu lledu. Felly, mae angen manylder ar sut y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu, ac yn enwedig o gofio'r toriadau sydd yn digwydd i gyllidebau ysgolion. 

Pwynt pwysig i gadw mewn cof ydy bod dysgu hanes Cymru yn rhan o'r cwricwlwm presennol—i fod. Ond dŷn ni'n gwybod bod miloedd ar filoedd o ddisgyblion wedi bod yn gadael yr ysgol efo dealltwriaeth manwl o hanes yr Almaen Natsïaidd ac enwau chwech gwraig Harri'r VIII, ond nid am hanes eu gwlad eu hunain. Felly, dim deddfwriaeth, dim cynnwys a geiriau cwricwlwm o angenrheidrwydd sydd yn mynd i wneud y gwahaniaeth, ond mae'n bwysig bod hanes Cymru'n cael ei wreiddio yn y ddeddfwriaeth newydd. Ond, fel dwi'n ei ddweud, dydy deddfu ar ben ei hun ddim am greu'r newid dŷn ni am ei weld. Yr un mor bwysig ydy magu arbenigedd o fewn y gweithlu, hyfforddiant priodol, ac, yn bwysig iawn, datblygu adnoddau newydd, cyffrous, gan adeiladu ar yr hyn sydd ar gael yn barod. A rhan o’r broblem ydy'r diffyg gwybodaeth, hyder ac ymwybyddiaeth o fewn ein gweithlu. Efallai nad ydy’r athrawon eu hunain wedi cael cyfle i astudio hanes Cymru yn yr ysgol, ac mae’n rhaid inni dorri ar y cylch yna.

Sôn am yr adnoddau, mae nifer o’r adnoddau yn rhai sydd yn Lloegr-ganolig ac mae yna lawer o adnoddau sydd ddim yn berthnasol, mewn gwirionedd. A beth sydd yn anodd ydy i athrawon gael amser i greu defnyddiau addas ac i ddatblygu syniadau efo athrawon eraill. Mae’r toriadau ar gyllid ysgolion a phrinder staff yn gwneud hynny’n gynyddol anodd, ac mae yna le i brifysgolion hefyd helpu efo’r gwaith o greu’r adnoddau ar y cyd â’r athrawon, ond mae hynna angen ei gefnogi efo arian, ac mae angen rhoi digon o amser i hynny ddigwydd, ac mae angen rhaglen hyfforddiant mewn swydd hefyd, a hynny ar raddfa eang efo cyflwyno’r cwricwlwm newydd.

Mi wnaeth y Prif Weinidog ddweud ddydd Mawrth wrth fy nghydweithiwr Llyr Gruffydd—mi ddywedodd e hyn: bydd hanes Cymru yn rhan ganolog o’r cwricwlwm newydd gydag adnoddau digonol i gefnogi’r gwaith. Gwych. Ond sut mae sicrhau hynny? Mae angen cynllun a ffrydiau gwaith a meini prawf sydd yn mynd i droi’r datganiad yna yn realiti.

Mae hunaniaeth Gymreig yn fyw ac yn iach; mae mwy a mwy o bobl yn falch o’u Cymreictod. Mae pobl yn falch o’u gwreiddiau ac eisiau canfod mwy am bwy ydyn ni fel Cymry. Mae yna ddyletswydd i ymateb i hynny; mae’r dyhead yn amlwg. Rydym ni wedi gweld y diddordeb ymhlith ein pobl ifanc wrth i’r murluniau i gofio boddi cwm Tryweryn godi ar draws y wlad. Ac mae yna ddiddordeb mawr yn y cyfrif Trydar @1919race riots sy’n trydar fel petai ddigwyddiadau terfysgol hiliol y Barri a Chasnewydd ym Mehefin 1919 yn digwydd heddiw. Mi oedd yna gyffro o gwmpas sioe gerdd Tiger Bay, a ddatblygwyd gan Ganolfan y Mileniwm, am hanes dociau amlddiwylliannol a diwydiannol Caerdydd. Tair enghraifft o ddod a’n hanes yn fyw mewn modd creadigol, dirdynnol a real sydd wedi tanio’r awydd yma ym mhobl ifanc i ddysgu mwy. Mae pob cenedl angen gwybod ei stori—beth sydd wedi ei ffurfio, beth yw ei gorffennol.

Dylai pob disgybl dderbyn yr un cyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru yn ei holl ffurfiau a’i ddehongliadau mewn ffordd sy’n eu herio nhw ac yn eu hysbrydoli nhw. Mae yna gyfle gwirioneddol efo’r cwricwlwm newydd ac efo’r gwaith sydd yn digwydd o gwmpas hynny i unioni’r cam. Mae’n bryd i’r genhedlaeth nesaf gael gwybod ein stori ni a’n lle ni yn y byd. Diolch.