Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 19 Mehefin 2019.
Ac eto heddiw rwy'n ansicr a fyddaf yn gallu cefnogi'r cynnig hwn ai peidio, oherwydd credaf efallai nad ydych wedi meddwl drwyddo'n iawn. Fe wrandawaf yn astud ar sylwadau'r Gweinidog ar y mater cyn gwneud fy mhenderfyniad, ond hoffwn dynnu sylw at y pwynt mwyaf amlwg. Mae'n bwynt sensitif iawn, ond yn bwynt y mae angen ei wneud mewn gwirionedd.
Mae'r cynnig yn nodi y dylid addysgu hanes Cymru i bob disgybl ysgol yng Nghymru yn ddieithriad. Nawr, mae hwn yn amlwg yn gynnig cyffredinol sy'n ystyried pobl ifanc fel màs unffurf, a chredaf fod hynny'n afrealistig mewn gwirionedd. Mae'n diystyru’r ffaith bod gennym rai disgyblion yn ein system ysgolion arbennig, nid pob un ohonynt, ond nifer, gydag anableddau dysgu cymhleth iawn. Er enghraifft, cymerwch ddisgybl sy’n ddall ac yn fyddar efallai, gydag anableddau dysgu sydd mor gymhleth fel y gallai cyflwyno sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol fod yn her sylweddol iddynt. I rai, mae eu haddysg yn canolbwyntio ar sgiliau bywyd sylfaenol, ac yn briodol felly. Fel grŵp o wleidyddion, a bron bob un ohonom heb arbenigedd ym maes addysg, a ydym yn mynd i ddweud ein bod yn gwybod beth yw'r ffordd orau o addysgu'r disgyblion sydd â'r anghenion dysgu mwyaf cymhleth? A ydym wedi ymgynghori ag arbenigwyr i weld a fyddai'r dull hwn yn bosibl neu'n fuddiol yn wir? Credaf mai'r ateb yw nad ydym wedi gwneud hynny, ond rwy’n mynd i wrando'n astud ar yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud, a gobeithiaf y bydd yn gallu gwneud sylw ar y pwynt penodol hwnnw.
Nid yw hynny’n gyfystyr â dweud wrth gwrs mai carfan benodol yn unig a ddylai ddysgu hanes Cymru, a buaswn yn dadlau'n gryf na fu hyn yn wir erioed. Mae hanes Cymru bob amser wedi ei wreiddio'n gadarn yn y cwricwlwm cenedlaethol ar draws y cyfnodau allweddol, ac yn fy holl flynyddoedd o addysgu, nid wyf erioed wedi cyfarfod ag athro a fethodd wneud defnydd llawn o bynciau ac astudiaethau achos hanes Cymru yn eu holl wersi. Yn aml iawn y rhain oedd y rhai mwyaf poblogaidd ymysg myfyrwyr hefyd. Felly rwy'n gwrthwynebu sylwadau Siân Gwenllian pan ddywedodd fod miloedd o ddisgyblion yn gadael yr ysgol bob blwyddyn heb ddealltwriaeth lawn o hanes Cymru, a tybed pa dystiolaeth a ddefnyddiodd ar gyfer y sylwadau hynny a ninnau’n gwybod nad yw Estyn erioed wedi gwneud unrhyw feirniadaeth systematig o’r modd y caiff hanes Cymru ei addysgu yn ein hysgolion.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi rôl ein sefydliadau hyfforddi athrawon yn y maes hwn hefyd. Treuliais flynyddoedd lawer yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, gyda Met Caerdydd a chyda’r Drindod Dewi Sant fel mentor ar gyfer myfyrwyr TAR mewn hanes. Yr hyn a welais oedd arferion da yn gyson, gyda nifer fawr o oriau o amser y dosbarthiadau prifysgol yn cael eu neilltuo i sicrhau bod myfyrwyr TAR, yn enwedig y rhai o'r tu allan i Gymru, wedi cwblhau eu cwrs gyda sylfaen drylwyr iawn mewn hanes Cymru ar ôl cael eu hasesu'n drwyadl yn yr ystafell ddosbarth mewn perthynas â chyflwyno hwnnw hefyd. Nid oes unrhyw reswm o gwbl dros awgrymu y bydd dim o hynny’n newid wrth i'r cwricwlwm newydd, 'Dyfodol Llwyddiannus', gael ei gyflwyno, hyd yn oed i'r sylwebydd mwyaf sinigaidd, ac yn anffodus mae'n ymddangos bod gennym rai o'r rheini yn y Siambr heddiw.
Mae'n wir ers amser maith y bydd athrawon yn addysgu'r pynciau y bydd eu myfyrwyr yn cael eu hasesu arnynt. Mae hanes Cymru bob amser wedi'i wreiddio'n gadarn yn y TGAU hanes, ac mae'n nodwedd gymharol gryf mewn meysydd llafur Safon Uwch hefyd, er fy mod yn cytuno y gellid gwneud mwy i'w wneud yn nodwedd fwy amlwg yma. Mae cynnwys y maes llafur diwygiedig ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch i gyd yn dal i fod angen datblygu persbectif Cymreig, ar adegau trwy fodiwlau hanes Cymru unigol ac ar adegau eraill drwy gysylltu hanes Cymru â phersbectif cenedlaethol neu ryngwladol. Cyhyd â bod hanes Cymru yn parhau i fod ar y maes llafur ar gyfer dosbarthiadau lefel arholiad, gallwch fod yn sicr y bydd yn cael ei addysgu, a'i addysgu'n dda—nid yn unig yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5, ond hefyd mewn cyfnodau allweddol cynharach wrth i athrawon baratoi eu disgyblion ar gyfer y dyfodol.
Fodd bynnag, buaswn hefyd yn dadlau'n gryf iawn mai’r cariad a'r brwdfrydedd naturiol dros hanes Cymru ymhlith y rhai yn y proffesiwn addysgu yw ei ased mwyaf, ac rydym yn gwneud cam mawr ag athrawon drwy awgrymu nad ydynt yn meddu ar y brwdfrydedd neu'r sgiliau i ymchwilio a chyflwyno gwersi ar bynciau sydd efallai’n anghyfarwydd. Enghreifftiau o hanes lleol yw'r ffordd orau oll o gael myfyrwyr i ymddiddori mewn pwnc. Mae athrawon yn gwybod hyn, cânt eu hysbrydoli gan hyn, ac maent yn gweithio'n galed iawn i gyflwyno gwersi’n seiliedig ar hyn hefyd. Felly, gadewch i ni ymddiried yn ein gweithwyr proffesiynol, gadewch i ni ymddiried yn ein system arholiadau, a gadewch i ni ymddiried yn ein pobl ifanc hefyd.