Cysgu Allan

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

1. Beth yw effaith polisi Llywodraeth Cymru o ran lleihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru? OAQ54119

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, nid yw effaith cyni cyllidol hirfaith yn fwy amlwg mewn unrhyw fan nag yn y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Gellir gweld effaith polisïau Llywodraeth Cymru o ran atal, darparu gwasanaethau newydd a mwy o weithio mewn partneriaeth ledled Cymru.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae Cymru wedi dioddef cyni cyllidol Llywodraeth y DU ers tua naw mlynedd erbyn hyn, ac mae ei effaith gyfunol ar ein cymunedau a'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw yn fwy a mwy niweidiol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae ciwiau mewn banciau bwyd a phobl sy'n cysgu ar y stryd mewn pebyll a drysau yn dangos y dioddefaint a achosir. Mae llawer o'm hetholwyr i wedi dychryn ac yn ddig mai dyma gyflwr y wlad pan fo'r DU yn dal i fod yn un o'r economïau mwyaf yn y byd. Prif Weinidog, cyn y newid y mae ei angen yn ddirfawr i Lywodraeth y DU, a Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog, beth mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud [Torri ar draws.] i fynd i'r afael â sefyllfa lle mae cysgu ar y stryd yn mynd yn fwy a mwy cyffredin, a hynny'n cynnwys pobl â diagnosis ac anghenion cymorth cymhleth, a allai fod wedi cael eu methu gan y system eisoes?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:31, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, hoffwn ddiolch i John Griffiths am hynna a chytuno'n llwyr ag ef ynghylch natur frawychus yr effeithiau y mae cyni cyllidol yn eu hachosi yn ein cymunedau erbyn hyn. Ailddarllenais dros y penwythnos, Llywydd, yr adroddiadau y mae pwyllgor John Griffiths wedi eu llunio ar ddigartrefedd, ac maen nhw'n cynnig manylion manwl iawn am yr effaith y mae toriadau i fudd-daliadau a thoriadau i wasanaethau yn ei chael ym mywydau pobl ledled Cymru. Fel Llywodraeth, byddwn yn cymryd cyngor y grŵp gweithredu sydd wedi ei sefydlu, dan gadeiryddiaeth prif swyddog gweithredol Crisis, i sicrhau bod gennym ni bopeth y gallwn ni ei wneud ar waith wrth i ni fynd i mewn i ail hanner y flwyddyn hon. Byddwn yn parhau i fuddsoddi'r £20 miliwn ychwanegol yr ydym ni wedi ei ganfod yn ein cyllidebau sy'n crebachu'n barhaus i wneud mwy ym maes digartrefedd. Byddwn yn hyrwyddo Tai yn Gyntaf fel model, sy'n tynnu ynghyd y ddwy agwedd a nodwyd gan John Griffiths yn ei gwestiwn atodol—yr angen am fwy o lety, ond, ar yr un pryd, am y gwasanaethau cymorth sy'n ymateb i'r anghenion cymhleth y mae llawer o bobl sy'n canfod eu hunain yn cysgu ar ein strydoedd wedi eu caffael yn ystod y daith anhygoel o anodd honno. Bydd yr holl bethau hynny yn cael eu gwneud gan y Llywodraeth Cymru hon yma yng Nghymru er mwyn lliniaru effaith cysgu ar y stryd ar draws ein gwlad.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:33, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb i John Griffiths ynglŷn â digartrefedd. Efallai y byddwch yn ymwybodol fy mod i wedi codi'r mater hwn o'r blaen yn y Siambr hon, ynghylch sut y gallai podiau digartref leihau cysgu ar y stryd yng Nghymru. Ym mis Chwefror eleni, gosodwyd podiau i ddarparu llety brys dros nos i bobl ddigartref yng Nghasnewydd gan yr elusen Amazing Grace Spaces. Ers hynny, maen nhw wedi helpu chwech o bobl ddigartref oddi ar y strydoedd ac wedi cael eu canmol fel achubwyr bywydau. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod y podiau hyn yn cynnig ateb arloesol sydd wedi helpu i achub bywydau yng Nghasnewydd, ac y dylid eu darparu ar gyfer y bobl ddigartref hynny nad ydyn nhw, am ba reswm bynnag, yn dymuno defnyddio hosteli? Mae gennym ni bron i 2,000 o bobl ddigartref yng Nghymru ar hyn o bryd—llai na 2,000—felly mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i gynnig llety iddyn nhw, ac rwy'n siŵr y bydd eich Llywodraeth chi yn chwilio am atebion yn y Siambr hon yn hytrach nag ar yr ochr arall i'r sianel.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:34, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am hynna, ac yn wir rwy'n cydnabod ei fod wedi codi'r materion hyn o'r blaen ar lawr y Cynulliad. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo i ddulliau arloesol o fynd i'r afael â phroblem digartrefedd, ond y llwybr ar gyfer digartrefedd yw'r angen i ddarparu mwy o gartrefi parhaol ledled Cymru. Ac er y gall atebion arloesol fod o gymorth yn y presennol, yr ateb hirdymor i fynd i'r afael â'r problemau tai yr ydym ni'n eu hwynebu ar draws y wlad yw mwy o gartrefi parhaol, buddsoddiad yn y cartrefi newydd hynny, diogelu ein stoc tai cymdeithasol, a gwneud yn siŵr bod gan bob teulu gartref gweddus lle y gallan nhw ffynnu.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:35, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, ai polisi Llywodraeth Cymru yw cymryd yr eiddo bydol oddi wrth pobl ddigartref, gan eu gadael heb ddim o gwbl ac yn agored i'r elfennau? Ac, os nad dyna'r polisi, a wnewch chi gondemnio eich cydweithwyr yn y Blaid Lafur yng Nghyngor Caerdydd am wneud yn union hynny?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Nid dyna bolisi'r Llywodraeth hon, Llywydd, ac nid dyna bolisi Cyngor Caerdydd ychwaith.