Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 25 Mehefin 2019.
Llywydd, dwi'n edrych i bob bwrdd iechyd i fod yn agored ac yn dryloyw pan fyddan nhw'n ymateb i gwyno. Ambell waith mae pethau yn gymhleth. Dwi ddim yn gyfarwydd â'r manylion yn yr achos y mae Llyr Gruffydd wedi cyfeirio ato y prynhawn yma. Ambell waith mae pethau nad ydym ni'n eu gwybod, a dim ond pobl sy'n delio â'r manylion sy'n ddigon cyfarwydd â beth sydd wedi mynd ymlaen i ddod i gasgliadau. Fel mae'r Aelod wedi ei ddweud, mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu ato fe yn barod am yr achos, ac, os oes mwy i'w ddweud, dwi'n siŵr y bydd ymateb arall ar ei ffordd iddo fe ar ôl y cwestiwn y prynhawn yma.