Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:38, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd AC ac ategu'r union bryderon y mae wedi eu codi yn y fan yma. Prif Weinidog, yn y datganiad a wnaed gennych pan oeddech chi yn y swydd flaenorol, ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a oedd yn destun mesurau arbennig, ar 9 Mehefin 2015, dywedasoch, mae’r bumed flaenoriaeth, a'r olaf, yr wyf i wedi’i nodi yn dibynnu ar ailgysylltu'r cyhoedd â’r bwrdd, ac ar i'r bwrdd adennill ffydd y cyhoedd.

Nawr, yn fy nhyb i, i fod â ffydd, mae angen proses dryloyw arnoch chi. Nawr, mae'r Gweinidog yn gwbl ymwybodol o achos yr wyf i wedi bod yn ymdrin ag ef, sydd wedi gweld etholwr a oedd—gadewch i ni ddim ond dweud ei fod yn un o'r sefyllfaoedd lle'r aeth rhywbeth o'i le, o'i le'n ofnadwy, yn y bwrdd iechyd. Nawr, mae wedi bod yn aros am oddeutu wyth mis am ymateb i adolygiad o ddigwyddiad difrifol. Nawr, ar ôl cymaint o oedi, byddech chi wedi disgwyl i'r holl ymchwiliadau gael sylw, ac y byddai pen llinyn tryloyw drwy'r holl bwyntiau gwirioneddol a godwyd gan yr etholwr a'i deulu. Fodd bynnag, ar ôl cael ymateb nad yw'n un da iawn, mae'r teulu, a minnau, wedi gorfod troi erbyn hyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, i sicrhau bod modd cael rhyw fath o gamau unioni i'r teulu hwn yr aeth pethau o'i le iddo mewn ffordd drist dros ben. Dylai arwydd o'r fath fod yn arwydd i chi, Prif Weinidog, nad yw eich pumed blaenoriaeth, a'r olaf, yn cael ei chyflawni o hyd. Felly, a wnewch chi esbonio felly pa fesurau y gwnewch chi eu cymryd i sicrhau bod mwy o dryloywder ac, yn wir, mwy o atebolrwydd wrth ymdrin ag unrhyw gŵyn sy'n cael ei gwneud am ansawdd y gofal iechyd y mae claf wedi ei gael mewn bwrdd iechyd yr ydych chi, yn dechnegol, gan mai chi yw'r Prif Weinidog, yn gyfrifol amdano?