Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 25 Mehefin 2019.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, chwe wythnos yn ôl, dywedasoch na fyddai eich Gweinidog yn cael unrhyw anhawster yn cyhoeddi'r adroddiad ar Kukd.com. Er gwaethaf eich sicrwydd i'r Siambr hon, nid yw'r adroddiad wedi cyrraedd fy nwylo i, gan fod eich Gweinidog yn dweud nad yw'r caniatâd priodol wedi ei roi. Beth yw'r caniatâd y mae angen ei roi, a phryd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi?