1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 25 Mehefin 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, chwe wythnos yn ôl, dywedasoch na fyddai eich Gweinidog yn cael unrhyw anhawster yn cyhoeddi'r adroddiad ar Kukd.com. Er gwaethaf eich sicrwydd i'r Siambr hon, nid yw'r adroddiad wedi cyrraedd fy nwylo i, gan fod eich Gweinidog yn dweud nad yw'r caniatâd priodol wedi ei roi. Beth yw'r caniatâd y mae angen ei roi, a phryd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi?
Wel, mae'r adroddiad ar y camau olaf o gael y caniatâd hwnnw. Llywydd, wrth gwrs, mae'n rhaid i adroddiadau sy'n mynd i'r parth cyhoeddus yn y pen draw gael caniatâd. Mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n gywir. Mae'n rhaid i wasanaethau cyfreithiol eu cymeradwyo i sicrhau nad oes rhwystrau cyfreithiol i gyhoeddi. Dyna weithdrefnau arferol ac anochel Llywodraeth mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Dilynwyd y weithdrefn honno ers i mi siarad ar lawr y Cynulliad ddiwethaf. Rydym ni'n agos at ddiwedd y broses honno, ac, ar ôl iddi gael ei chwblhau, bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi.
Wel, mae hyn wedi bod ar y gweill ers tair blynedd erbyn hyn, Prif Weinidog, a dylem ni gael gweld yr adroddiad hwnnw cyn gynted â phosibl.
A thra ein bod ni'n sôn am ddefnydd Llywodraeth Cymru o arian trethdalwyr, fel y gwyddoch, Prif Weinidog, mae gan gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd Cymru darged buddsoddiad o £100 miliwn i ddenu a thyfu busnesau gwyddor bywyd sydd wedi'u lleoli, neu a fydd yn cael eu lleoli, yma yng Nghymru. Rwy'n cytuno'n llwyr bod y gronfa hon yn arloesol ac yn helpu i ddod â swyddi crefftus i Gymru. Fodd bynnag, gobeithiaf y gwnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, yn fy mhryder ynghylch sut y mae'r gronfa yn cael ei rheoli. Ers 2016, rheolwyd y Gronfa gan gwmni rheoli cronfeydd a redir gan Arix Bioscience plc, sydd wedi gwneud naw buddsoddiad hyd yma. Fodd bynnag, adroddwyd bod chwech o'r buddsoddiadau hynny wedi eu gwneud i gwmnïau lle mae Neil Woodford yn gyfranddaliwr. Mae'n peri pryder hefyd fod Mr Woodford yn un o brif gyfranddaliwr Arix Bioscience, gyda chyfran o 24 y cant yn y cwmni. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol i bobl fod yn gyfranddalwyr yn y cwmni sy'n rhannu arian trethdalwyr ac yn y cwmnïau sy'n elwa? Ac a ydych chi'n rhannu fy mhryderon bod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ymchwilio i'r unigolyn hwn erbyn hyn? A pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei fuddsoddi'n briodol?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau trwy groesawu'r hyn a ddywedodd Paul Davies am natur a phwrpas y gronfa. Mae'r gronfa wedi bod yn arloesol ac, oherwydd ei bod yn arloesol, mae hi wedi bod yn destun gwaith craffu rheolaidd a sylweddol iawn—adolygiad llawn gan Swyddfa Archwilio Cymru, adolygiad canol tymor annibynnol, cyfres o adroddiadau ar gynnydd a dewisiadau gan Fanc Datblygu Cymru. Mae hefyd, wrth gwrs, yn gronfa reoledig; mae'n cael ei rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Nawr, os oes gan arweinydd yr wrthblaid bryderon penodol, dylai eu codi. Ac os ydyn nhw yn bryderon penodol, byddwn yn ymchwilio iddynt. Os ydyn nhw yn bryderon cyffredinol, sy'n taflu baw gan gysylltu enwau unigolion, pethau blaenorol sydd wedi digwydd a phethau nad oes a wnelon nhw ddim â'r gronfa, yna nid wyf i'n credu bod unrhyw beth yn yr hyn a ddywedodd heddiw y gallaf i weld ei fod yn ddigon penodol i ymchwilio iddo. Os oes ganddo bryderon penodol, rydym ni'n agored i glywed y rheini wrth gwrs, ac, wrth gwrs, bydden nhw'n cael eu hymchwilio. Mae ymddygiad cyffredinol y gronfa bob amser wedi bod yn destun craffu annibynnol gan y sefydliadau sydd gennym ni yma yng Nghymru ac ar lefel y DU, ac nid yw'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol erioed wedi mynegi pryder am ymddygiad y gronfa.
Prif Weinidog, mae hyn yn ymwneud â bod yn agored ac yn dryloyw a sut y mae eich Llywodraeth yn gwneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd a bod arian ein trethdalwyr yn cael ei fuddsoddi'n briodol. Mae'n gwbl eglur i mi bod eich Llywodraeth wedi methu â gwrando ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn 2016. Dair blynedd yn ôl, dywedodd yr archwilydd cyffredinol, am gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd Cymru, bod agweddau ar ei sefydlu, ei llywodraethu, ei goruchwylio a'i gweithrediad cynnar yn ddiffygiol ac wedi eu cofnodi'n wael ynghylch gwrthdaro buddiannau'r cwmni blaenorol a oedd yn rheoli buddsoddiad, gan anfon arian at gwmnïau yr oedd Syr Chris Evans hefyd yn gyfranddaliwr ynddynt.
Prif Weinidog, unwaith eto, mae'n ymddangos i mi bod eich Llywodraeth yn methu â bod yn dryloyw gyda phobl Cymru. Pam, felly, yn dilyn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, y gwnaeth eich Llywodraeth ganiatáu i Arix Bioscience gymryd trosodd y rheolaeth o fuddsoddiadau gwyddorau bywyd? A pham na wnaeth Cyllid Cymru ddysgu ei wers a chraffu'n drylwyr ar fuddsoddiadau yn y dyfodol? Oherwydd mae'n ymddangos i mi bod eich Llywodraeth yn gwneud yr un camgymeriad unwaith eto.
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn cwyno am fod yn agored ac yn dryloyw ac yna'n bwrw ymlaen i ddyfynnu dogfen a gyhoeddwyd yn gyhoeddus mewn modd mor agored a thryloyw ag y gallwch chi fod. Ac esboniais wrtho'n gynharach y nifer fawr o wahanol ffyrdd y mae'r gronfa honno, mewn ffordd agored, wedi ei harsylwi, wedi bod yn destun adroddiadau a'r gwersi a ddysgwyd yn ystod ei chynnydd. Mae'r holl bethau hynny ar gael i'r cyhoedd. Mae angen i arweinydd yr wrthblaid benderfynu pa gwestiwn y mae eisiau ei ofyn. Dechreuodd drwy ofyn cwestiwn am fod yn dryloyw ac yn agored ac yna dyfynnodd o ddogfen sydd ar gael i'r cyhoedd, felly nid wyf i'n gweld beth yw ei broblem yn hynny o beth. [Torri ar draws.] Yna mae'n awgrymu—gallaf glywed ei ffrind y drws nesaf iddo yn gwneud ei orau i'w helpu i ddod o hyd i'r cwestiwn cywir i'w ofyn. Yna, mae'n credu mai'r cwestiwn cywir i'w ofyn oedd am wersi a ddysgwyd. Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad hwnnw gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac nid yw gweithrediad y gronfa ers yr adeg honno erioed wedi cael ei feirniadu gan yr FCA—yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Felly, fel y dywedais, os oes gan yr Aelod anawsterau penodol gyda'r gronfa y mae'n credu y dylid ymchwilio iddyn nhw, byddan nhw yn cael eu hymchwilio. Os mai'r cwbl y mae'n dymuno ei wneud yw defnyddio awgrymiadau cyffredinol sy'n seiliedig ar ddim byd ond adroddiadau mewn papurau newydd bod rhywbeth wedi mynd o'i le, nid oes dim byd i ymchwilio iddo ac nid oes dim i gefnogi'r sylwadau y mae ef wedi eu gwneud y prynhawn yma.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pam wnaeth y tasglu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i achub Ford Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Hydref 2017 gyfarfod 10 gwaith yn ystod 10 mis cyntaf ei fodolaeth ac yna gyfarfod dim ond unwaith yn ystod yr 11 mis diwethaf, ym mis Mawrth eleni, bron i ddeufis ar ôl i'r cwmni gyhoeddi colli 1,000 o swyddi? Sut y gwnaethoch chi symud o un cyfarfod y mis ar gyfartaledd i oddeutu un cyfarfod y flwyddyn? Nawr, rwy'n deall y ddadl bod llawer mwy o ymgysylltu'n digwydd gyda'r cwmni y tu allan i gyfarfodydd y tasglu. Felly, a allwch chi ddweud yn ystod 2018, yn y cyfnod cyn y cyhoeddiad ym mis Ionawr, sawl gwaith y gwnaeth Gweinidogion gyfarfod gyda swyddogion Ford?
Wel, mae'r Aelod yn garedig yn ateb y cwestiwn yn ogystal â'i ofyn. Ei gwestiwn cyntaf i mi oedd pam y gwnaeth gyfarfod 10 gwaith yn gyflym ac yna gyda bwlch rhwng y cyfarfod nesaf. Mae'r cliw, Llywydd, yn y teitl. Tasglu oedd hwn; roedd ganddo dasg ac aeth ati i'w chyflawni'n gyflym, a chyfarfu'n rheolaidd iawn a chynnwys yr holl bobl yr oedd angen iddyn nhw fod yn rhan o'r gwaith o gyflawni ei gylch gorchwyl. Datblygodd gynnig ar gyfer lle gwag ar y safle, a daeth pob un o bartïon y tasglu i'r casgliad wedyn y byddai'n well bwrw ymlaen â'r cynigion hynny y tu allan i'r tasglu ei hun. Dyna'n union yr hyn a ddigwyddodd. Cefais gyfarfod â Ford yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl dod yn Brif Weinidog, a chefais gyfarfod â'r undebau llafur a chyfarfod gyda rheolwyr lleol ar y safle hefyd. Bwriwyd ymlaen â chasgliadau'r tasglu hwnnw mewn cyfres o ffyrdd ac mae ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru, y gweithlu lleol a'r cwmni wedi bod yn gyson drwy'r adeg.
Yn eich rhestr eich hun o apwyntiadau a chyfarfodydd gweinidogol y llynedd, dim ond un cyfarfod sydd wedi'i restru yno gyda Ford yn ystod yr holl flwyddyn hollbwysig honno. Nawr, pan ofynnais yn gynharach y mis hwn a fyddech chi'n hedfan allan i bencadlys y Ford Mortor Company yn Michigan, dywedasoch mai'r cynllun gweithredu yr oeddech chi'n ei ffafrio oedd cyfarfod yn fuan iawn ag uwch wneuthurwyr penderfyniadau Ford Europe, gan mai penderfyniad Ford Europe oedd hwn. A ydych chi wedi cyfarfod wyneb yn wyneb â'r cynrychiolwyr hynny o Ford Europe erbyn hyn? Ac a allwch chi ddweud pam yr ydych chi'n anghytuno â Len McCluskey o Unite pan ddywed bod y penderfyniadau ynghylch Ford UK yn cael eu gwneud yn y pen draw o amgylch y bwrdd yn ystafell y bwrdd yn Detroit?
Llywydd, nid yn unig yr wyf i wedi cael sgwrs uniongyrchol gyda Ford Europe, ond rwyf i hefyd wedi cael sgwrs uniongyrchol gyda chynrychiolwyr Ford yn yr Unol Daleithiau hefyd. Ac roedd honno'n sgwrs a oedd yn cynnwys nid yn unig y staff uchaf ar lefel UDA a'r staff uchaf ar y lefel Ewropeaidd, ond roedd hefyd yn cynnwys Ford UK hefyd. Gall yr Aelod fod yn gwbl sicr bod y Llywodraeth hon yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud ein gorau i roi gyrfaoedd pobl sy'n gweithio yn Ford ar frig ein hagenda, a bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn ymroddedig i ganfod ffyrdd ymlaen lle gall y gweithlu ymroddgar, teyrngar a medrus hwnnw weld dyfodol iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.
O ran yr hyn a fydd yn digwydd nawr, a ydych chi wedi astudio datblygiadau diweddar yn ymwneud â'r ffaith bod Ford wedi cau ei ffatri yn Blanquefort yn Ffrainc a gyhoeddwyd y llynedd, gan golli 850 o swyddi? Canfuwyd prynwr gan Lywodraeth Ffrainc a luniodd becyn buddsoddi, ond rhwystrodd y Ford Motor Company y gwerthiant ar sail fasnachol, gan arwain at golli'r 850 o swyddi hynny. A fyddech chi'n cefnogi polisi o wladoli dros dro os bydd Ford yr un mor rhwystrol yma? Ac er ein bod ni'n gobeithio bod y tasglu newydd a sefydlwyd gennych erbyn hyn yn gallu darbwyllo mwy ar Ford nag yr oedd yr hen dasglu yn gallu ei wneud, pa neges yr hoffech chi ei hanfon at gydbwyllgor negodi cenedlaethol undeb llafur Ford sydd yn cyfarfod heddiw, rwy'n credu, i ystyried gweithredu streic ledled y DU?
Llywydd, bydd Ford yn aelod allweddol o'r grŵp yr ydym ni wedi ei sefydlu i weithio ar yr hyn sy'n digwydd o ganlyniad i'r cyhoeddiad a wnaed. Byddan nhw'n rhan o'r gwaith hwnnw—ac fe roesant y sicrwydd pendant hwn y bydden nhw'n chwarae rhan fawr ac adeiladol o ran helpu i sicrhau beth bynnag y gallwn ar gyfer dyfodol y gweithlu hwnnw. Fy neges i i'r undebau llafur yw'r un yr wyf i eisoes wedi ei rhoi iddyn nhw pan gefais gyfarfod â nhw wyneb yn wyneb—y byddwn yn sefyll ochr yn ochr â nhw i sicrhau bod eu dyfodol yn flaenllaw ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud. A phan fyddaf yn siarad â'r gweithwyr Ford hynny, byddaf yn rhoi sicrwydd iddyn nhw mai eu gyrfaoedd nhw sydd bwysicaf i ni yn hyn i gyd a bod gennym ni fwy o ddiddordeb, yn wahanol i'r Aelod gyferbyn, mewn sicrhau eu gyrfaoedd nhw nag mewn datblygu ei yrfa ei hun.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, cyhoeddodd eich Gweinidog sy'n Ddemocrat Rhyddfrydol ddatganiad ddydd Iau yn gwanhau atebolrwydd ysgolion yng Nghymru ymhellach. Bydd ei mesurau newydd yn dileu'r pwyslais ar y mesur lefel 2 cynhwysol ar gyfer TGAU, er bod y ffin honno rhwng gradd C a D mor bwysig ar gyfer yr ysgol a'r brifysgol, yn enwedig mewn mathemateg a Saesneg, pan fydd pobl yn ystyried cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd targedau â mesuriad penodol yn cael eu dileu ac, yn hytrach, bydd ysgolion yn pennu eu targedau amhenodol eu hunain. Dywedir wrthym fod eich Llywodraeth chi, neu'r elfen Democratiaid Rhyddfrydol o leiaf, yn credu y bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o ymreolaeth i ysgolion wella eu hunain. Onid ydyn nhw hefyd yn rhoi mwy o gyfle i ysgolion ddirywio heb i rieni allu eu dwyn i gyfrif?
Wel, nid yw hynny'n wir o gwbl, Llywydd. Mae'r cynlluniau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu datblygu, ac a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg yr wythnos diwethaf, yn ymwneud â sicrhau bod y ffordd yr ydym ni'n asesu perfformiad ysgol yn cynrychioli perfformiad yr ysgol honno yn ei holl agweddau—ein bod ni'n rhoi mwy o ymddiriedaeth i'r gweithwyr proffesiynol sydd yno yn yr ystafell ddosbarth ac yn arwain yr ysgolion hynny i nodi'r materion sydd bwysicaf yn y cyd-destun lleol hwnnw. Wrth gwrs, bydd gennym ni atebolrwydd o'r tu allan hefyd, ond pobl ar lawr gwlad, yn ein barn ni, sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau unigol hynny am y ffordd y gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf i boblogaethau eu hysgolion. Mae'r cynlluniau sydd gennym ni ar waith yn gwneud hynny, ac nid ydyn nhw am eiliad yn camu yn ôl oddi wrth ein penderfyniad i sicrhau bod addysg i bob un o'n plant yng Nghymru y gorau y gall fod.
Ond os na fyddwch chi'n cyhoeddi'r canlyniadau, os byddwch chi'n trin tablau cynghrair fel ymadrodd budr, os byddwch chi'n dweud wrth bob ysgol i fesur beth bynnag y mae'n dymuno a dwyn eu hunain i gyfrif, sut ar y ddaear y mae rhieni yn mynd i farnu'r hyn y mae ysgolion yn ei gyflawni a gwneud penderfyniadau ynghylch ble maen nhw eisiau i'w plant fynd i'r ysgol? Y ffaith amdani yw bod mesurau atebolrwydd yng Nghymru—. Gadewch i ni ystyried ysgolion cynradd, Kirsty Williams. Trafodwyd hyn gennym ddwy neu dair blynedd yn ôl pan ddywedais fod y mesurau a oedd ar gael i gymharu ysgolion cynradd yn llawer yn llai nag yr oedden nhw yn Lloegr, ac fe wnaethoch dynnu fy sylw, a hynny'n briodol, at y ffaith, mewn gwirionedd, ers 2014, bod Estyn wedi cynyddu'r atebolrwydd hwnnw ac wedi rhoi lefelau 4 a 5 ar gyfer cyfnod allweddol 2 yn ei adroddiad. Yn anffodus, ers diwedd 2017 o leiaf, mae'n ymddangos bod hynny, unwaith eto, wedi peidio â digwydd, ac mae'r mesurau atebolrwydd wedi mynd tuag at yn ôl.
Felly, mae pobl yn dibynnu fwyfwy ôl ar y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, lle mae'r cymariaethau'n hollol erchyll. Rydym ni ymhell islaw'r cyfartaledd o ran bob un o'r tri chymharydd, tra bod Lloegr yn uwch na'r cyfartaledd. Rydym ni'n 478 o ran mathemateg, 490 yw'r cyfartaledd ac mae'n 493 ar gyfer Lloegr. O ran darllen, rydym ni ar 477, 493 yw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac mae'n 500 yn Lloegr—ac yn debyg o ran mathemateg. Onid yw'n wir, o dan arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, bod addysg yng Nghymru wedi dirywio ymhellach? Mae'n fwy a mwy anodd i unrhyw un ei ddwyn i gyfrif gan na wnewch chi gyhoeddi'r wybodaeth i ganiatáu iddyn nhw wneud hynny. Onid yw'n risg y bydd pethau'n dirywio ymhellach fyth, gan fod Kirsty Williams yn caniatáu i ysgolion farcio eu gwaith cartref eu hunain?
Diolch, Llywydd. Wel, edrychaf ymlaen at gyfres ddarlithoedd yr Aelod, lle gallwn fwynhau ei farn ar sail fwy hirfaith fyth. Wrth gwrs, mae'n gwneud dau gamddealltwriaeth sylfaenol yn ei gwestiwn. Y cyntaf yw nad oes ganddo unrhyw syniad sut y mae Llywodraeth Cabinet gyfunol yn gweithio. Mae pob aelod o'r Cabinet hwn yn aelod cyfartal o'r Cabinet, ac yr un mor ymrwymedig iddo. Mae ei aelodaeth led-wahanedig o lawer o bleidiau o gwmpas y Cynulliad hwn yn ei roi mewn sefyllfa wael iawn o ran deall yr egwyddor sylfaenol honno.
A bradychodd ei hun, beth bynnag, yn ei frawddegau cyntaf. Bradychodd ei hun gyda'r frawddeg gyntaf honno, oherwydd yr hyn y mae'n credu ynddo, Llywydd, yw marchnadeiddio addysg. Mae'n credu yn y dull tabl cynghrair hwnnw o ymdrin ag addysg lle'r ydym ni'n trin addysg fel nwydd, lle'r ydym ni'n deall dim am ei gwerth, lle nad ydym yn deall o gwbl y ffordd y mae gan rieni ddealltwriaeth well o lawer o'r hyn sy'n digwydd yn eu hysgolion nag y bydd ganddo ef fyth ar eu rhan.
Pan edrychwch chi ar y canlyniadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, nid yn unig o ran y gwasanaeth iechyd a gwerthfawrogiad y cyhoedd o wasanaethau iechyd yng Nghymru, byddwch yn gweld yn y fan honno barn rhieni yng Nghymru ar yr addysg y mae eu plant yn ei chael. Mae'n ddarlun hollol wahanol i'r un y mae ef yn ceisio ei bortreadu, ac mae hynny oherwydd, Llywydd, yn y pen draw, nad oes gan yr Aelod ddim math o syniad o'r ffordd y mae pobl yng Nghymru yn gwerthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus, wedi pleidleisio o blaid y dull gweithredu sydd gennym ni ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Daw ef â meddylfryd hollol wahanol. Wythnosau'n unig sydd wedi mynd heibio ers iddo fy ngwahodd, yn eistedd mewn gwahanol blaid yn y fan yna, i ymuno ag ef i ddathlu bywyd a gwaith Margaret Thatcher—[Torri ar draws.] Wel, rwyf i'n ei gofio.
Pryd oedd hynny?
Rwy'n cofio'r cwestiwn yn dda iawn, hyd yn oed os nad yw ef.
Ar y newid yn yr hinsawdd.
Os nad yw'n deall beth fu'r etifeddiaeth honno yma yng Nghymru, os nad yw'n deall yn union pa mor bell y mae ei farn ar y ffordd y dylid gwneud pethau ar wahân i rai pobl yng Nghymru, nid yw'n syndod i mi ei fod wedi gwneud camgymeriadau mor sylfaenol yn y cwestiynau a ofynnodd i mi y prynhawn yma.