Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:42, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r adroddiad ar y camau olaf o gael y caniatâd hwnnw. Llywydd, wrth gwrs, mae'n rhaid i adroddiadau sy'n mynd i'r parth cyhoeddus yn y pen draw gael caniatâd. Mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n gywir. Mae'n rhaid i wasanaethau cyfreithiol eu cymeradwyo i sicrhau nad oes rhwystrau cyfreithiol i gyhoeddi. Dyna weithdrefnau arferol ac anochel Llywodraeth mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Dilynwyd y weithdrefn honno ers i mi siarad ar lawr y Cynulliad ddiwethaf. Rydym ni'n agos at ddiwedd y broses honno, ac, ar ôl iddi gael ei chwblhau, bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi.