Defnyddio'r Gymraeg wrth Ddarparu Gwasanaethau Cyhoeddus

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus? OAQ54109

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:19, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Helen Mary Jones am hynna. Mae Safonau'r Gymraeg yn darparu'r sail ar gyfer ehangu'r defnydd o'r Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae 125 o gyrff yn ddarostyngedig i'r safonau hynny ar hyn o bryd.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Yng nghyd-destun y ddadl a gawsom ynghylch y materion hyn yr wythnos diwethaf yn y Siambr, hoffwn wahodd y Prif Weinidog i gofnodi ei ddealltwriaeth eglur iawn nad yw'r ddarpariaeth o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol ddim ond yn golygu bod pobl yn gallu manteisio ar eu hawliau iaith yn unig, mae hefyd yn arwain at ganlyniadau clinigol gwell—mae pobl yn gwella'n gyflymach—ac mae hyn yn arbennig o wir am rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed fel pobl hŷn â dementia.

O gofio bod 90 y cant o'n gofal iechyd yn digwydd yn y sector sylfaenol, a yw'r Prif Weinidog yn derbyn bod angen i'w Lywodraeth fod yn fwy uchelgeisiol nawr o ran yr hyn a ddisgwylir gan ddarparwyr sector sylfaenol, gan dderbyn bod llawer o'r rheini yn ddarparwyr annibynnol a bod perthynas ei Lywodraeth â nhw rywfaint yn wahanol i'r berthynas â'r byrddau iechyd? Ac a allai ymrwymo heddiw efallai i gael sgwrs bellach gyda'r Gweinidog iechyd a Gweinidog y Gymraeg i weld a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i gyflymu'r ddarpariaeth o ofal sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg i'r holl gleifion hynny yng Nghymru sydd ei eisiau, lle bynnag y maen nhw'n byw?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:20, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n falch iawn o gofnodi fy nghred bod darparu gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith y mae'r defnyddiwr yn teimlo'n fwyaf cyfarwydd â hi nid yn unig yn fantais o ran ein dymuniad i weld y Gymraeg yn cael ei hymestyn, ond ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ei fod hefyd yn cael effaith ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir. Ac rydym ni wedi trafod yn y fan yma lawer gwaith ar lawr y Cynulliad hwn pa mor bwysig yw hynny, er enghraifft, mewn gofal seiciatrig, lle mae'r angen i chi fynegi eich meddyliau a'ch teimladau trwy gyfrwng iaith nad yw'n un y byddech chi'n ei defnyddio fel rheol yn ychwanegu lefel wahanol o anhawster i'r canlyniadau diagnostig i'r claf hwnnw. Felly, rwy'n hapus iawn i roi hynny ar y cofnod.  

Rwy'n credu bod y safonau y cytunwyd arnyn nhw yr wythnos diwethaf yn gam sylweddol ymlaen mewn gofal sylfaenol. Mae Helen Mary Jones yn llygad ei lle i ddweud nad oes gennym ni'r un berthynas uniongyrchol; proffesiynau contractwyr yw'r rhain. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio perswâd yn ogystal â dulliau eraill i ddod â'n cydweithwyr ar y daith hon gyda ni, ac rydym ni eisiau gwneud mwy i annog a chefnogi'r arferion hynny sy'n cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau ieithyddol sensitif. Ond a gaf i ychwanegu un peth arall at yr hyn a ddywedodd Helen Mary Jones? Mae adroddiad diwethaf Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn dweud bod gennym ni dasg i'w chyflawni gyda defnyddwyr, oherwydd nid yw pawb sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg yn dewis defnyddio gwasanaeth Cymraeg pan fydd ar gael, ac mae mwy i ni ei wneud o ran ceisio deall pam y gallai hynny fod. Ai diffyg gwybodaeth, ai diffyg hyder, ai diffyg profiad o ddefnyddio'r Gymraeg yn y mathau hynny o gyd-destunau? Felly, wrth i ni ehangu'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen i ni felly weithio gyda siaradwyr Cymraeg i wneud yn siŵr eu bod nhw'n hyderus i fanteisio ar y cyfleoedd hynny sydd ar gael iddyn nhw, ac yna byddwn yn creu cylch hynaws lle bydd y galw am wasanaethau yn tyfu, lle bydd y ddarpariaeth o wasanaethau yn tyfu ochr yn ochr â hynny, a byddwn yn gweld y mathau o ganlyniadau a oedd ymhlyg yng nghwestiwn Helen Mary Jones.