Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 25 Mehefin 2019.
Cwnsler Cyffredinol, fel menyw WASPI fy hun, gallaf i ddweud wrthych chi na chefais i wybod erioed am y newidiadau yn fy mhensiwn i, a chefais i wybod dim ond o ganlyniad i sylw ffwrdd-â-hi gan ffrind. Nid yw fy achos i yn unigryw o bell ffordd, ac mae cannoedd o fenywod Cymru yn yr un cwch. Roeddwn i hefyd yng nghyfarfod Port Talbot, ynghyd â chi a David Rees. Roedd y cyfarfod hwnnw'n dyst i faint o bobl oedd yno. Ni chawsom ni unrhyw lythyr, dim pecyn gwybodaeth, dim esboniad. Felly, Cwnsler Cyffredinol, a fyddwch chi yn llais i fenywod Cymru a siomwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth y DU? Diolch.