Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 25 Mehefin 2019.
Diolch i'r Aelod am roi'r myfyrdod personol hwnnw o'i phrofiad ei hun, sy'n ein hatgoffa, yn fy marn i, mai profiadau unigol yw'r rhain, yn ogystal â rhannau o ymgyrch ehangach a mudiad cyhoeddus, os mynnwch chi. Dylwn i hefyd gydnabod bod Dai Lloyd hefyd yn y digwyddiad ddydd Sadwrn ychydig wythnosau'n ôl. A gallaf i roi sicrwydd i'r Aelod y byddwn ni'n cymryd pob cam posibl o fewn ein pwerau, ac yn parhau i wneud sylwadau ar ran menywod Cymru.