Ffoaduriaid yng Nghymru

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

3. What assessment has the Counsel General made of the impact that the UK Government's immigration laws will have on how the law operates in relation to refugees in Wales? OAQ54101

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:41, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae integreiddio pobl sy'n chwilio am noddfa yn gyfrifoldeb a rennir, er nad yw'r cyfrifoldeb dros y gyfraith fewnfudo ei hun, wrth gwrs, wedi'i ddatganoli i Gymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Leol a'r trydydd sector yng Nghymru i fonitro effeithiau ac rydym yn codi materion sy'n effeithio ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda Llywodraeth y DU yn rheolaidd.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw. Rwyf wedi cael cyswllt gan fenywod sy'n methu caffael arian cyhoeddus o ganlyniad i'r cyfreithiau mewnfudo. Mae'r Gweinidog, Jane Hutt, yn dweud y gall pobl wneud cais am gonsesiwn trais domestig, ond mae hwnnw ar gyfer pobl sydd ar fisas person priod cyfnod byr yn unig, ac nid yw'n addas i bawb. Oherwydd yr achos penodol hwn, mae llawer o fenywod, mewn rhai achosion, yn cael gwrthod budd-dal tai a chymorth arall. Ac mae sefydliadau fel Cymorth i Fenywod a BAWSO wedi dweud wrthyf fod y deddfau hyn yn ei gwneud hi'n anodd, yn amhosib hyd yn oed, iddynt gefnogi menywod mewn argyfwng, gan gynnwys gwraig yr wyf wedi sôn amdani yn y Siambr hon o'r blaen. Gan nad oedd yn gwybod beth oedd ei statws yn y wlad hon, roedd yn golygu na allai gael mynediad ar unwaith i ganolfan loches ar ôl ffoi oddi wrth ei gŵr oedd yn ei cham-drin. Mae arnaf ofn y bydd hyn yn rhoi mwy o fenywod mewn perygl ac y gallai llawer ohonynt fod mewn sefyllfa argyfyngus iawn hyd yn oed.

Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig gyda'r bwlch yn y sefyllfa fewnfudo yr wyf wedi'i amlinellu i chi o ran y consesiynau? A sut y byddwch yn gallu unioni'r cam hwn mewn cysylltiad â chyllideb Llywodraeth Cymru—h.y. a fyddech yn gallu ariannu llochesau yng Nghymru yn fwy fel nad oes raid iddynt gwestiynu o ble y daw'r wraig pan fydd yn cyrraedd y foment dyngedfennol honno pan fydd yn ffoi o berthynas gamdriniol?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:42, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at fater sy'n amlwg yn bwysig iawn. Rydym am sicrhau, fel Llywodraeth Cymru, bod y rhai y gwrthodir lloches iddynt yn cael cyngor cyfreithiol a tho uwch eu pennau wrth iddynt chwilio am ateb cynaliadwy mewn amgylchiadau a sefyllfaoedd sy'n amlwg yn eithriadol o anodd. Gall hynny gynnwys cynrychiolaeth gyfreithiol, a allai efallai arwain at hawliad newydd, neu ymwneud â phroses o ddychwelyd ffurflenni gwirfoddol. Rydym wedi comisiynu rhywfaint o waith ymchwil yn ddiweddar i ffyrdd o broffesiynoli ac ehangu'r sector cynnal yng Nghymru i wella mynediad ac i wella diogelu yn y cyd-destun hwnnw.

Mae'n sôn yn ei chwestiwn am y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i BAWSO yn benodol er mwyn galluogi menywod a merched duon a lleiafrifoedd ethnig i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Bwriad hynny yw sicrhau na fydd unrhyw ddioddefwyr yn cael eu troi i ffwrdd. Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn gohebu â'r Aelod a bod y materion hyn, fel rhan o'r ohebiaeth reolaidd rhwng y Dirprwy Weinidog a'r Swyddfa Gartref, yn sicr yn faterion y bydd yn parhau i'w codi gyda nhw i sicrhau bod hyn yn parhau ar ein hagenda ni ond hefyd ar un Llywodraeth y DU.