Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 25 Mehefin 2019.
Diolch am y cyfraniad hwnnw. Rwy'n credu bod Andrew R.T. Davies wedi siarad yn hwy nag a wnes i gyda'r datganiad cychwynnol—[Chwerthin.]—ond mi geisiaf ateb ei holl gwestiynau.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, pan fyddwn ni'n ystyried cost bosib unrhyw newid, nad ydym ni'n colli golwg ar y cyfleoedd economaidd y gellir eu gwireddu. Rwy'n credu ein bod ni'n canolbwyntio'n rhy aml, efallai, ar golli swyddi. Rwyf i o'r farn y gallwn ni ddysgu gwersi. Os edrychwch chi ar y diwydiant glo yn ôl yn yr 1980au, a'r newidiad o hynny, rwy'n credu bod llawer o wersi i'w dysgu, a llawer o bethau y dylem ni eu hosgoi. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ddigon dewr i arwain y ffordd yn hyn o beth.
Rydych chi'n holi am y gost ariannol, ac mae yna rywbeth yr ydym ni'n edrych arno; rwy'n credu bod y Trefnydd wedi ateb yn ei datganiad busnes, gyda'i Gweinidog cyllid, ei bod yn amlwg bod datgarboneiddio yn rhywbeth y mae'n holi pawb amdano wrth inni ddechrau ar broses y gyllideb—wel, rydym wedi ei dechrau, rydym wedi cael y cyfarfod dechreuol, ac, yn amlwg, caiff hyn ei ddwysáu yn ystod toriad yr haf. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud yn fy natganiad gwreiddiol: mae'n rhaid i bob Gweinidog edrych ar ei bolisïau a'i gynigion o ran datgarboneiddio a newid hinsawdd, ac, yn amlwg, bydd yn rhaid symud arian o fewn portffolio pob Gweinidog.
Rwy'n credu hefyd, pan dderbyniais i gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ynglŷn â'r nod o 95 y cant—mae hynny'n dibynnu ar gadw'r sail ddiwydiannol sydd gennym a'i datgarboneiddio, yn hytrach na symud yr allyriadau dramor, ac rwy'n falch eich bod chi'n croesawu hynny, oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn bod yn gyfrifol yn fyd-eang.
Roeddech chi'n sôn am gynllun 10 pwynt argyfwng hinsawdd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'r penawdau. Yn amlwg, cawsom yr adroddiad hwnnw'r wythnos diwethaf. Credaf i ni ei gael tua 24 awr cyn iddo gael ei wneud yn gyhoeddus, ac, yn sicr, mae hi o'r un farn â ni, ac rwy'n croesawu ei chyfraniad hi i'r ddadl hon yn fawr. Rwy'n credu y byddai hyn yn beth da i bob corff cyhoeddus. Rwyf wedi bod yn falch iawn, ers inni gyhoeddi'r argyfwng hinsawdd, ers inni ddatgan yr argyfwng hinsawdd, fod cynifer o awdurdodau lleol wedi ymuno â ni. Ac maen nhw'n dweud mai'r rheswm am hynny yw bod Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd y maen nhw wedi ei dilyn.
Ddydd Iau diwethaf, aeth y Prif Weinidog a minnau i swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru yma yng Nghaerdydd ar gyfer cyflwyniad ar yr hyn y maen nhw wedi ei wneud ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi a datgan yr argyfwng hinsawdd. Ac roedden nhw'n dweud bod hynny wedi gwneud iddyn nhw edrych ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud mewn gwirionedd. Maen nhw wedi arwain y ffordd o ran y prosiect Carbon Positif. Nid wyf yn gwybod a yw fy nghydweithwyr yn ymwybodol ohono; mae'n werth edrych arno. Felly, rwy'n credu ei bod yn galondid gweld cyrff cyhoeddus yn arbennig felly yn edrych ar yr hyn y gallan nhw ei wneud, a hefyd y sector preifat a busnesau. Ac rwy'n credu mai yn y datganiad ddydd Mawrth diwethaf y soniais i fy mod i wedi mynd at y cyngor economaidd a gaiff ei gadeirio gan fy nghydweithiwr Ken Skates, oherwydd roedd busnes yn gofyn yn benodol a fyddwn i'n fodlon mynd, iddyn nhw gael siarad am eu hymateb i'r argyfwng hinsawdd a newid hinsawdd.
Roeddech chi'n gofyn cryn dipyn o gwestiynau ynghylch cynhyrchu ynni, a chyn hynny, pan oedd cynllunio yn fy mhortffolio i—ac rwyf i o'r farn bod fy mhortffolio i'n ddigon mawr, a chredaf mai da o beth yw fy mod i'n gallu gweithio ar y cyd â Julie James fel Gweinidog tai a chynllunio. Llywodraeth fach sydd gennym ac rydym ni'n cydweithio'n dda iawn ar draws y Llywodraeth. Ond un o'r pethau olaf a wnes i cyn i gynllunio gael ei hepgor o'r portffolio hwn oedd ystyried gwneud yn siŵr bod cymwysiadau a thrwyddedau tanwydd ffosil ar waelod isaf yr hierarchaeth ynni, a'n bod ni'n canolbwyntio i raddau helaeth ar brosiectau ynni adnewyddadwy. Erbyn hyn, mae mwy na 67,000—cefais fy synnu'n fawr gan y nifer—o brosiectau ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru. Ac, erbyn hyn, mae 22 y cant o'r trydan—wel, yn ôl yn 2017 yw hyn—yng Nghymru wedi ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Ac rydych chi'n gofyn a ddylem ni warchod ein hynni ein hunain, ynteu a ddylem ni fod yn ystyried allforio. Rwy'n credu, wrth inni symud ymlaen, efallai y gwelwn ni wahaniaeth ac addasiad o ran hynny.
Roeddech chi'n sôn am goedwigaeth, ac nid wyf eisiau amddiffyn ein diffygion o ran plannu coed. Nid ydym yn plannu digon o goed. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn—fod angen i ni fod yn edrych ar hynny—ac, eto, bydd yn rhaid imi ddod o hyd i arian yn fy nghyllideb i, ac, yn sicr, rwy'n credu, unwaith eto, rwyf wedi sôn o'r blaen yn y Siambr fy mod i'n ystyried gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, gan fod ganddyn nhw dir sy'n barod i'w ailgoedwigo, pa gyllid y gallwn ni ei roi. Fe fyddwch chi'n ymwybodol o ymrwymiad y Prif Weinidog yn ei faniffesto i goedwig genedlaethol, ac rwyf i newydd weld rhai dewisiadau heddiw, a dweud y gwir, y mae angen imi edrych arnyn nhw. Ond, yn amlwg, mae coedwigaeth yn elfen bwysig o'n polisi i reoli tir fel y byddwn ni wedi Brexit, ac fe fyddwch yn ymwybodol y bydd ymgynghoriad ddechrau mis Gorffennaf.
Rwy'n credu eich bod chi'n iawn o ran adeiladu tai. Hoffwn i ehangu ein cynlluniau a'n rhaglenni ôl-ffitio. Rydym wedi cyflawni rhai datblygiadau a gwneud cynnydd sylweddol o ran nifer y tai yr ydym wedi eu hôl-ffitio. Ond unwaith eto, y gyllideb yw'r gyllideb, ac rydym yn rhoi tua £250 miliwn rwy'n credu, ar gyfer ôl-ffitio a'n rhaglenni effeithlonrwydd ynni ni yn ystod oes y Llywodraeth hon. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yn fy marn i—a chredaf fod y Prif Weinidog wedi crybwyll hyn yn ei gwestiynau ef—yw nad ydym ni'n adeiladu tai nawr y bydd angen eu hôl-ffitio ymhen 25 mlynedd neu 20 mlynedd.
Roeddech chi'n sôn am yr adroddiad yr wyf yn credu i David Melding ei gyflwyno. Ac fe wnes i siarad â David ar ôl datganiad yr wythnos diwethaf i ddweud y byddai'n dda iawn gennyf gael clywed ei gynigion ef ar dai di-garbon, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gael cyfarfod yn y dyfodol agos.
Roeddech chi'n holi am y ddau grŵp sy'n cael eu sefydlu. Ni allaf ddweud wrthych chi faint o grwpiau sydd gennyf. Yn sicr, nid oes gennyf 40; nid oes gennyf lawer o grwpiau. Ond rwy'n credu, wrth symud ymlaen, ein bod ni wedi datgan yn glir iawn bod angen i'r cynllun nesaf yr ydym yn ei gyflwyno'r flwyddyn nesaf fod yn un ar gyfer Cymru gyfan, ac mae angen inni gynnwys pawb. Ac, wrth gwrs, mae arbenigwyr ar gael sy'n gallu ein helpu ni yn hyn o beth. Rwyf bob amser yn falch iawn o'r ffaith fod cymaint o bobl yn barod iawn i roi o'u hamser i'n helpu ni yn y Llywodraeth. Roeddwn i'n cyfeirio at y grŵp diwydiant. Mae swyddogion eisoes wedi bod yn ddiwyd wrth eu gwaith yn ymgysylltu â rhanddeiliaid diwydiannol, ac roeddwn i'n sôn am y cyngor economaidd—roedd aelodau'r bwrdd hwnnw wedi gofyn imi fynd yno i siarad am yr heriau a'r cyfleoedd. Felly, mae swyddogion eisoes yn ystyried sefydlu'r grŵp hwnnw. Nid yw wedi cael ei sefydlu eto—fe gaiff ei sefydlu eleni, a bydd yn weithgor ar gyfer Cymru gyfan.
Bydd y grŵp cynghori ar gyfiawnder hinsoddol, a gyhoeddwyd pan lansiodd y Prif Weinidog y cynllun cyflenwi carbon, yn ein cynghori ni ar y trawsnewid o economi sy'n seiliedig ar danwydd ffosil, gan sicrhau—ac mae hyn yn wirioneddol bwysig i'r Llywodraeth ac i minnau—pontio teg a chyfiawn ar gyfer ein cymdeithas gyfan, ac mae hynny'n cynnwys ein holl weithwyr a'n cymunedau.