4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Darparu Cymru Carbon Isel

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:46, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n cymryd diddordeb yn y ffaith eich bod chi'n dweud yn gwbl agored fod y Llywodraeth—ceir rhai materion sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi. Felly, mae gorsaf bŵer Aberddawan yn amlwg—ni allwn ei chau; mae'n rhaid i ni aros nes y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn. Ond mae'n dda clywed bod 48 y cant o'n hynni ni eisoes yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac mae'n amlwg y byddai'n ardderchog inni gael gweld llawer mwy o brosiectau yn cael eu harwain gan gymunedau.

Rwy'n awyddus i ddeall sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu annog pobl i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel, oherwydd bob tro y byddaf i'n dianc ar wyliau mae angen imi fynd ar hyd yr A470 ac mae angen imi allu dod yn ôl o'r gogledd. Mae llawer o leoliadau hwylus ar hyd y A470 ar gyfer gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan, ond hyd y gwn i nid oes unrhyw un ar hyn o bryd, sy'n golygu na allaf i ddibynnu ar y math hwn o drafnidiaeth ac na allaf i fuddsoddi mewn cerbyd trydan. Rwy'n falch iawn hefyd o weld nad yw Cymru yn bwriadu gwella ei chyflwr amgylcheddol yn y wlad hon drwy daflu'r baich ar wledydd tlawd, gan leihau ein hallyriadau ni trwy eu hanfon dramor. Credaf fod hyn yn gwbl hanfodol.

O ran garddwriaeth, mae Brexit yn golygu ein bod yn gorfod rhoi mwy o'n sylw i'r cwestiwn o ble rydym yn mynd i brynu'r llysiau a'r ffrwythau yr ydym yn eu mewnforio ar hyn o bryd. Nid wyf yn or-awyddus i glywed bod llysiau mewn tuniau neu lysiau wedi eu rhewi yn cymryd lle llysiau ffres, ond mae hynny'n well na dim. Ond mae'n amlwg bod angen inni dyfu mwy o'n llysiau ni ein hunain. Yn y grŵp trawsbleidiol ar fwyd, fe glywsom fod Castell Howell, un o'r prif ddosbarthwyr bwyd, ond yn prynu 18 y cant o'u cyflenwadau gan gynhyrchwyr Cymru. Felly, rwy'n credu bod llawer y gallwn ni ei wneud i gyfyngu ar ein milltiroedd bwyd, o ran materion diogelwch bwyd sy'n cael eu codi gan Brexit a'r bygythiad o Brexit 'heb gytundeb', ond hefyd er mwyn gwella'n cyflwr amgylcheddol. Os oes gennym fwyd sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol, rydym yn amlwg yn mynd i fod yn defnyddio llawer llai o garbon. Felly, tybed a allai'r Llywodraeth ddweud ychydig mwy am y ffordd yr ydym ni'n mynd i wneud hynny.