5. Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

– Senedd Cymru am 4:10 pm ar 25 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:10, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw—Julie Morgan.

Cynnig NDM7078 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:10, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Y bwriad yw y bydd y Rheoliadau diwygio hyn yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2019. Nawr, mae'r gwelliannau hyn wedi'u cyflwyno yn ymateb i faterion y soniodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol amdanyn nhw yn eu hadroddiad craffu technegol ar reoliadau'r gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig. Diben y rheoliadau diwygio yw cywiro ac nid ydynt ond yn ceisio mynd i'r afael â'r mân faterion a godir yn yr adroddiad. Nid ydynt yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r rheoliadau gwasanaethau eirioli.

Mae'r diwygiadau yn gwneud y newidiadau canlynol: cywiro cyfeiriad yn rheoliad 6(4)(c) fel ei fod yn darllen 'Rhan 2' yn lle 'Rhan 3', yn cywiro cyfeiriad yn rheoliad 7(3)(c) fel ei fod yn darllen 'Rhan 2' yn lle 'Rhan 3', ac yn cywiro cyfeiriad yn rheoliad 15(1)(d) fel ei fod yn darllen 'comisiynwyr gwasanaethau' yn hytrach nag 'awdurdodau comisiynu'. Cafodd y rheoliadau gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig eu hunain eu cyflwyno yn rhan o'n pecyn deddfwriaethol i weithredu gofynion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn llawn. Eu nod yw sicrhau bod darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n cael eu rheoleiddio yn cyflawni'r safon ofynnol o ofal a chymorth fel bod lles a diogelwch pobl yn cael eu cynnal.

Mae'r gofynion yn y rheoliadau gwasanaethau eirioli yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau sy'n gysylltiedig â nhw a bod y gwasanaethau hyn yn canolbwyntio ar y person. Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi'r gofynion o ran diogelu, staffio a llywodraethu'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu. Mae'r rheoliadau diwygio sydd ger eich bron yn gwneud mân gywiriadau technegol angenrheidiol i reoliadau'r gwasanaethau eirioli er mwyn iddyn nhw weithredu'n llawn yn unol â'r bwriad, a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:12, 25 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr ar gyfer y ddadl, ac felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.