Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 25 Mehefin 2019.
A minnau'n Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i fynd i'r afael â'r problemau tagfeydd o amgylch Casnewydd. Oherwydd y rhoddwyd y farwol i'r ffordd liniaru bellach, yr ydym ni wedi ei groesawu, mae angen inni edrych ar ffyrdd amgen o fynd i'r afael â'r materion penodol hynny, ynghyd ag uwchraddio ein seilwaith trafnidiaeth i'w wneud yn addas i ni fel cenedl Ewropeaidd yn yr unfed ganrif ar hugain. Ydy, mae'n resyn nad oedd cynllun B wedi'i gyflwyno gan y Llywodraeth, ond nid oes unrhyw fudd o rygnu ymlaen ynghylch hynny—gwell o lawer yw edrych i'r dyfodol. Rhaid i beth bynnag a wneir nesaf fod yn seiliedig ar feini prawf clir ac ar ddatganiad o argyfwng hinsawdd gan y genedl hon. Dylai cynlluniau ar gyfer y dyfodol hefyd arddel egwyddorion Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Fel y mae'r comisiynydd ei hun wedi ei ddweud, yn hanesyddol, mewn achosion fel y rhain, nid yw hi wedi bod yn anghyffredin rhoi blaenoriaeth i fanteision economaidd cynigion, ond dyma un o'r rhesymau pam yr oedd angen deddfwriaeth i unioni'r fantol. Felly, beth am wneud defnydd da o'r Ddeddf honno.
Byddai'r llwybr du wedi methu ar y meini prawf hyn, gan y byddai wedi croesi pedwar safle o bwysigrwydd amgylcheddol a gwyddonol. Byddai wedi bygwth cynefin y garan gyffredin, sydd wedi nythu yn ddiweddar yng ngwastadeddau Gwent am y tro cyntaf ers yr ail ganrif ar bymtheg, a byddai wedi rhyddhau dros 500,000 o dunelli o garbon deuocsid i'r atmosffer. I ychwanegu at hyn, byddai'n amlwg wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn cerbydau ar y ffyrdd, ar adeg pan rydym ni eisiau sicrhau gostyngiad mewn allyriadau trafnidiaeth.
Felly, mae'n amlwg nad ateb sy'n canolbwyntio'n unig ar hwyluso mwy o ddefnyddio ceir yw'r ateb. Rydym ni ym Mhlaid Cymru o'r farn y dylid dilyn strategaeth gyfun, sy'n cynnwys dewisiadau trafnidiaeth aml-ddull, gyda'r bwriad o fynd i'r afael ag anghenion pobl ledled Cymru. Gallai'r strategaeth gyfun hon gyfuno syniadau arloesol megis traffyrdd rheoledig, lle rydym ni'n defnyddio technoleg i ddylanwadu ar lif y traffig; lonydd dyranedig ar gyfer cerbydau amlfeddiannaeth, megis bysiau, y gellir hefyd eu defnyddio fel lôn ar gyfer ceir gyda mwy na nifer penodol o deithwyr; mae angen i ni hefyd ystyried defnyddio ein seilwaith presennol yn ddoethach yn yr ardal. Er enghraifft, mae'r Athro Mark Barry wedi awgrymu patrymau gweithio hyblyg er mwyn helpu i leihau'r tagfeydd yn ystod yr oriau brig traddodiadol. Wedi'r cyfan, fel yr ydym ni wedi clywed lawer gwaith yn y Siambr hon o'r blaen, dim ond 10 y cant o'r traffig dyddiol ar y llwybr dan sylw sy'n achosi'r gwir broblem. Gall cydgrynhoi nwyddau—symud nwyddau i'r rheilffyrdd, neu symud nwyddau yn ystod y cyfnodau tawel—hefyd liniaru ychydig yn ystod y cyfnod hwn o dagfeydd. Fel y gwnaethom ni grybwyll yn ein dadl ein hunain bythefnos yn ôl, gellir dysgu gwersi oddi wrth yr enghraifft yn yr Alban, lle mae Llywodraeth yr Alban yn talu grantiau i gwmnïau sy'n penderfynu cludo nwyddau ar drên, oherwydd mae symud nwyddau oddi ar y ffyrdd yn lleihau nid yn unig tagfeydd, ond hefyd damweiniau traffig ar y ffyrdd.
Nawr, mae cynifer o syniadau arloesol yn cael eu cyflwyno gan aelodau o bob plaid yn y ddadl hon, a dyna'r hyn y dylem ni fod yn canolbwyntio arno nawr; dylem ni fod yn canolbwyntio ar y dyfodol. Dros yr wythnosau nesaf, bydd Plaid Cymru yn sefydlu gweithgor i edrych ar atebion i'r mater hwn ac, fel y mae fy nghyd-Aelod, Rhun, wedi'i ddweud eisoes, byddem yn croesawu'r cyfle i gyflwyno'r canfyddiadau hynny maes o law. Nawr, mae'n amlwg o gyfraniadau o bob rhan o'r Siambr na ellir caniatáu i'r sefyllfa fynd yn waeth—er lles pobl Casnewydd, ond er lles pobl ledled Cymru. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd ar hyn. Diolch.