Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 25 Mehefin 2019.
Mae'n ymddangos yn rhyfeddol ac yn anghyson mai dim ond ychydig wythnosau sydd ers i'r lle hwn gefnogi galwadau i ddatgan argyfwng hinsawdd, y senedd gyntaf yn y byd i wneud hynny, ac eto mae rhai Aelodau yma yn galw am adeiladu ffordd fawr newydd am resymau economaidd. Er gwaethaf sut y gwnaethoch chi bleidleisio yn y ddadl frys ar newid yn yr hinsawdd, ni allwch chi wadu y byddai adeiladu ffordd o'r maint hwn yn achosi llawer iawn o ddifrod i'r amgylchedd ac yn annog mwy o ddefnydd o geir a fyddai, pa un a fyddant yn cael eu pweru gan drydan neu danwydd ffosil, yn cynyddu llygredd. Rwy'n deall bod tagfeydd eu hunain yn cynyddu llygredd, ond ni fyddai'r ffordd liniaru hon yn aros yn rhydd o dagfeydd yn hir, ac wedyn beth? Adeiladu ffordd arall ac un arall ar ôl hynny. Ble mae'r diwedd?
Nid prinder ffyrdd yng Nghymru yw'r broblem. Y broblem yw bod gormod o deithiau mewn car mewn rhai mannau ar rai adegau. Rydym ni i gyd yn derbyn bod tagfeydd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Ond nid yw'r rhwydwaith ffyrdd yn crebachu, y ddibyniaeth gynyddol ar ddefnyddio ceir sy'n achosi'r problemau. Nid yw'n gymhleth iawn i ganfod beth sy'n achosi'r broblem. Fodd bynnag, mae angen meddwl o'r newydd ynghylch sut i ddatrys y broblem. Mae'n ddrwg gen i, ond rwy'n siŵr nad oes unrhyw fanteision economaidd sy'n cyfiawnhau colli ardaloedd amgylcheddol pwysig am byth, y duedd barhaus i darmacio ar draws Cymru a difetha'r wlad i genedlaethau'r dyfodol. Mae angen i unrhyw un sy'n galw am adeiladu'r ffordd hon ddweud wrth y cyhoedd yng Nghymru faint o fudd economaidd y maen nhw'n ei hystyried yn ddigonol i gondemnio cenedlaethau'r dyfodol i fyw mewn jyngl concrid a tharmac llawn llygredd lle na allan nhw anadlu'r aer na gweld unrhyw goed na chlywed adar yn canu.
Nid wyf yn amau na all y Llywodraeth hon wneud llawer mwy i leihau tagfeydd, boed hynny drwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, sicrhau bod cysylltiadau digidol cyflym iawn yn cael eu cyflwyno'n briodol, cymell cwmnïau i fabwysiadu trefn weithredu wasgarog ac ati, ond nid yw'r methiant i wneud hynny hyd yma yn cyfiawnhau galwadau i fynd ati'n ddiddychymyg i adeiladu mwy o brif ffyrdd. Pan adeiledir ffyrdd i liniaru tagfeydd, am gyfnod byr bydd yn gweithio'n iawn, ond nid yw cynllunwyr yn ddigon dygn wrth archwilio dewisiadau eraill i fynd i'r afael â thagfeydd. Mae gwrthod adeiladu mwy o ffyrdd sy'n costio gormod, yn ariannol ac yn amgylcheddol, yn golygu y bydd yn rhaid dod o hyd i ddewisiadau mwy synhwyrol a chynaliadwy, ac mae llawer o arian ar gael i ymchwilio i'r dewisiadau mwy synhwyrol a fydd yn helpu i leihau ein hôl troed carbon, dewisiadau na fyddant angen llurgunio ein tir hardd yn barhaol.
Mae'n bryd rhoi terfyn ar anrheithio tirwedd ein gwlad a'n hamgylchedd naturiol, dinistrio ein bywyd gwyllt a llygru ein haer yn sgil prosiectau adeiladu anferth pan allai'r problemau gael eu datrys mewn ffyrdd eraill. Felly, rwy'n cefnogi penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i ddiystyru ffordd liniaru'r M4. Mae rhai yma, fodd bynnag, a fyddai, pe baent yn cael eu ffordd yn dymuno gweld ffordd yn cael ei hadeiladu nad oes fawr o gyfiawnhad drosti ac a fyddai'n achosi niwed anadferadwy i amgylchedd Cymru dim ond i sgorio ychydig o bwyntiau gwleidyddol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn mabwysiadu agwedd fwy synhwyrol tuag at adeiladu ffyrdd.
Ar nodyn terfynol, mae Americanwyr brodorol yn dweud mai dim ond pan fydd yr afon olaf wedi'i gwenwyno a'r goeden olaf wedi ei thorri y bydd pobl yn sylweddoli na allwch chi fwyta arian. Felly, meddyliwch yn ddwys cyn dechrau siarad am adeiladu ffyrdd ychwanegol. Diolch.