2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 26 Mehefin 2019.
3. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i hwyluso'r broses o greu banc cymunedol i Gymru wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ54102
Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r egwyddor o sefydlu banc cymunedol i Gymru. Dyrannodd cyllideb Llywodraeth Cymru adnoddau i gefnogi busnesau newydd. Mater i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth fydd gwneud unrhyw gynnig ynghylch arian sbarduno i fanc cymunedol.
Diolch i chi am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, ym mis Ionawr, fe ddywedoch chi wrthyf bryd hynny fod Llywodraeth Cymru ar gamau cynnar iawn yn y trafodaethau gyda nifer o randdeiliaid a oedd yn awyddus i archwilio dichonoldeb sefydlu banc cymunedol. Yr wythnos diwethaf, ailadroddodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid a oedd hefyd yn paratoi cynllun busnes llawn ar gyfer y farchnad. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â pha symiau o arian a gaiff eu dyrannu o gyllideb y Llywodraeth i greu banc cymunedol. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud ei fod am i'r banc cymunedol fod ar waith cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, sydd, wrth gwrs, lai na dwy flynedd i ffwrdd. A buaswn yn ddiolchgar hefyd pe gallech ddarparu eich asesiad eich hun o bosibl o ba gymhorthdal cyhoeddus y credwch y byddai ei angen i sefydlu banc cymunedol i Gymru, fel yr amlinellir, a hefyd a ydych yn ymwybodol o unrhyw grant neu fenthyciad y gofynnwyd i'r Llywodraeth amdano i sefydlu'r banc cymunedol i Gymru.
Diolch am grybwyll y syniad o fanc cymunedol. Wrth gwrs, rydym yn cefnogi'r egwyddor o sefydlu banc cymunedol, ac mae datblygu hyn yn flaenoriaeth i ni. I roi diweddariad, cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru â rhanddeiliaid posibl yn y trydydd sector a'r sector preifat y llynedd, gan gynnwys y Grŵp Gweithredu Dros Fanc Cyhoeddus i Gymru, ac maent yn ceisio sefydlu banc cymunedol i Gymru. Rydym wedi darparu cyngor ar y broses y byddai angen ei dilyn er mwyn cael gafael ar gyllid sbarduno.
Mae swyddogion bellach yn adolygu cynnig penodol a chais am gyllid sbarduno gan y Grŵp Gweithredu Dros Fanc Cyhoeddus i Gymru, gan weithio ar y cyd â'r sefydliad DU gyfan, y Community Savings Bank Association. Byddai'r Grŵp Gweithredu Dros Fanc Cyhoeddus i Gymru yn defnyddio cyllid sbarduno i gychwyn cyfnod o waith a fyddai'n cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, asesu'r farchnad, a dichonoldeb banc cymunedol i Gymru, a fyddai wedyn yn arwain at gais am drwydded fancio. Gall cais am drwydded fancio gymryd peth amser—dwy flynedd neu fwy, weithiau—er mwyn cwblhau'r gwaith angenrheidiol gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Ond credaf ei bod yn rhy gynnar i nodi faint o arian cyfalaf y byddem yn ei roi tuag at hynny a pha elfen o gymhorthdal y gallai fod ei hangen ar sail barhaus. Ond mae hynny oll yn rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo, ond fel y dywedais, mae'n ddyddiau cynnar iawn o ran cwmpasu'r prosiect a chynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid.