Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 26 Mehefin 2019.
Wrth gwrs, rydym yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n ymwneud â hawliau dynol yn Tsieina, yn enwedig ar hyn o bryd gyda'r sefyllfa yn Hong Kong, a hefyd gyda'r lleiafrifoedd ethnig, o ran Mwslimiaid Uighurs. Felly, roedd y rheini'n faterion byw, ac yn wir, codais fater hawliau dynol gyda'r dirprwy bennaeth yn y cinio gyda'r nos.