Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 26 Mehefin 2019.
Diolch am eich ymateb. Wrth gwrs, un o gonglfeini ein democratiaeth yma yng Nghymru, ac yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig, yw'r traddodiad balch o barch sydd gennym tuag at hawliau dynol, ac mae'n dda dweud ein bod wedi arwain ar hawliau dynol mewn sawl ffordd ym mhob rhan o'r byd ers blynyddoedd lawer. Yn ddiweddar, cawsoch gyfarfod ag is-bennaeth Tsieina yn ystod ei ymweliad â Chymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld mewn adroddiadau yn y cyfryngau eich bod wedi bod yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig. A allwch ddweud wrthym: a wnaethoch chi drafod camweddau hawliau dynol yn Tsieina gyda'r is-bennaeth? Byddwch wedi gweld bod llawer o gamweddau wedi digwydd yn Tsieina yn hanesyddol, ac rwy'n siŵr ei fod yn gyfle i'w groesawu y byddai pobl wedi disgwyl i chi ei gymryd.