Hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:41, 26 Mehefin 2019

Wel, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i'r Llywodraeth. Mae hwn yn gwestiwn i'r Gweinidog Addysg, mewn gwirionedd, ond mae hwn yn bwnc rŷn ni wedi trafod eisoes. Wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol bod yna ddau gyngor lle mae hwn yn rhywbeth maen nhw'n ei drafod ar hyn o bryd. Mae'n bwysig dwi'n meddwl fod pobl yn deall bod yna ymgynghoriad yn mynd ymlaen ynglŷn ag a ddylai fod yna gost i bobl fynd i'r chweched dosbarth yn rhai o'r ysgolion yma, a dwi'n meddwl ddylen ni annog pobl i ymateb i'r ymgynghoriad yna, achos dyna'r ffordd orau efallai i ddwyn perswâd ar rai pobl sydd efallai yn dal â meddwl agored ynglŷn â beth ddylai ddigwydd yn y dyfodol.