Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 26 Mehefin 2019.
Un o'r ffyrdd dŷn ni'n mynd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg, wrth gwrs, yw drwy addysg, a sicrhau bod pobl yn gallu dysgu'r Gymraeg a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r pethau dwi wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf, a dwi wedi gweld hyn yn fy etholaeth fy hun, yw dyw cynghorau lleol ddim yn fodlon talu am drafnidiaeth ar gyfer y plant sydd eisiau mynychu ysgolion Cymraeg a'u galluogi nhw i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dwi'n falch iawn gweld bod y Gweinidog Addysg yn ei lle ar gyfer y sesiwn yma y prynhawn yma. Ac a oes yna fodd i chi, Gweinidog, Gweinidogion, gydweithio gyda'ch gilydd i sicrhau bod pob un person a phob un plentyn yn gallu mynychu ysgolion Cymraeg, os dyna yw eu dewis, lle bynnag maen nhw'n byw yn ein gwlad?