Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 26 Mehefin 2019.
Rwy'n ddiolchgar iawn, Weinidog, eich bod wedi cyfeirio at y ffaith y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â RhCT yn 2022; bydd yn gyfle allweddol i adeiladu ar y 28,000 o siaradwyr Cymraeg sydd eisoes yn Rhondda Cynon Taf. A chredaf ei fod yn gyfle pwysig i adfer iaith mewn rhan wirioneddol bwysig o Gymru, oherwydd, os ydym am fod yn genedl ddwyieithog, bydd angen i ni weld y cynnydd mwyaf yn yr ardal hon ac ardaloedd eraill tebyg. Mae hefyd yn gyfle ar gyfer adfywio economaidd, hyrwyddo twristiaeth a diwylliant yr ardal. A gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r cyngor, sydd â chynllun eisoes i ddatblygu eu strategaeth hyd at 2022, fel y gellid sicrhau'r budd mwyaf posibl o'r cyfle gwych hwn.