Hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 26 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:39, 26 Mehefin 2019

Wel, diolch yn fawr. Ac, wrth gwrs, dwi'n gobeithio bod pobl yn ardal Rhondda yn edrych ymlaen at y digwyddiad yna. Dwi'n meddwl mai beth sy'n bwysig i'w gofio gyda'r Eisteddfod yw nad gŵyl wythnos yw hi—mae'r paratoadau yn dechrau nawr. A beth sy'n bwysig am yr Eisteddfod yw bod y legacy yn mynd ymlaen ar ôl i'r Eisteddfod adael. Ond mae'n gyfle i ni godi cynnwrf yn yr ardal tuag at yr iaith Gymraeg, a dwi'n falch dros ben bod cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymryd hwn o ddifrif, eu bod nhw wedi croesawu'r Eisteddfod, a'u bod nhw, dwi'n deall, wedi hefyd penodi swyddog i sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy'n datblygu, nid jest yn 2022, ond yn dechrau lot cyn i'r digwyddiad ddigwydd.