Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Prif Weinidog, i ymhelaethu ar gwestiwn Rhianon Passmore, byddwn yn llwyr gefnogi'r penderfyniad gan gyngor Caerffili i brynu 23 o'r cartrefi yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y llygredd aer yn Hafodyrynys. Fodd bynnag, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, gwrthododd y cyngor gynlluniau i ddymchwel y tai ac, yn hytrach, hoelio eu gobeithion ar gyfer mynd i'r afael â llygredd aer ar geir yn troi'n lanach ac yn wyrddach yn y blynyddoedd i ddod. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder ynghylch yr oedi o ran gwneud penderfyniad i ddymchwel y tai hyn a achoswyd gan gyngor Caerffili yn osgoi ei gyfrifoldebau i bobl sy'n byw yn y gymuned hon? Diolch.