Ansawdd Aer

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 2 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:06, 2 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Llywydd, nid wyf i wedi gweld manylion cynigion y cyngor sir, ond ni fu unrhyw oedi yn yr ystyr eu bod nhw wedi cael eu cyflwyno yn unol â'r amserlen yr oedd y Gweinidog wedi ei phennu, ac rydym ni wedi symud ar unwaith i wneud y cynlluniau hynny yn destun craffu annibynnol. Felly, byddwn yn aros i weld beth mae'r cynlluniau'n ei ddweud. Byddwn yn aros i weld beth fydd gan y trefniadau craffu i'n cynghori ni ar ansawdd y cynlluniau hynny, ond roeddwn i eisiau rhoi sicrwydd i'r Aelod lleol—a rhoddaf yr un sicrwydd i Mohammad Asghar—nad y cyllid fydd y rhwystr i weithredu'r cynlluniau hynny cyn belled â'u bod yn gwrthsefyll y gwaith craffu.