Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Diolch, Llywydd. Bydd yr Aelodau'n cofio ein bod ni, yn 2016, wedi creu adolygiad seneddol o arbenigwyr annibynnol i archwilio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac fe gafodd yr adolygiad hwnnw, wrth gwrs, gefnogaeth drawsbleidiol. Mae adroddiad yr arolwg seneddol yn disgrifio'r galwadau cynyddol a'r heriau newydd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae'r rhain yn cynnwys mwy o anghenion gofal gan y gall mwy ohonom ni ddisgwyl byw yn hŷn, a'r cynnydd yn nisgwyliadau'r cyhoedd o ran datblygiadau meddygol newydd a rhai sy'n datblygu. Mae'r gwasanaethau gofal critigol wedi teimlo'r heriau hyn yn fawr iawn yn y blynyddoedd diweddar. Mae'n amlwg bod straen sylweddol o fewn gwasanaethau gofal critigol, ac mae hyn wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf hyn, mae pobl â salwch difrifol sydd angen cymorth yn parhau i gael gofal critigol o safon uchel, diolch i ymroddiad y llu o aelodau arbenigol o staff sy'n gweithio mewn amgylchiadau lle mae pwysau mawr.
Fel y nodir yn 'Cymru Iachach', mae gwasanaethau mewn ysbytai megis gofal critigol yn parhau i fod yn rhan hanfodol a gweladwy o'n system iechyd a gofal yn y dyfodol. Fel gyda systemau gofal iechyd eraill, mae angen inni gyflymu'r broses o newid ym maes gofal critigol, gan gynnwys y model darparu ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau priodol yn y man priodol ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael. Dyna pam, ym mis Gorffennaf y llynedd, y cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi rhaglen genedlaethol i edrych yn strategol ar y materion a'r heriau ar gyfer ein gwasanaethau gofal critigol. Yn y datganiad hwnnw, dywedais y bydd ein hymagwedd at ofal critigol yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gyda gweithredu'r cynllun cyflawni ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael. Erbyn hyn, rydym ni'n cymryd mwy o ran ganolog yn y gwaith o gyfarwyddo hyn yn genedlaethol. Sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen, dan gadeiryddiaeth yr Athro Chris Jones, y dirprwy brif swyddog meddygol. Roedd yn cynnwys saith ffrwd waith a oedd yn edrych ar: mapio modelau gwasanaeth, y galw a'r capasiti; gofynion y gweithlu; allgymorth; unedau gofal ôl-anesthesia; cymorth anadlu tymor hir; trosglwyddo cleifion; a mesurau perfformiad.
Yn dilyn argymhellion y ffrydiau gwaith hyn, gwnaed cynnydd ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys: gofal critigol yn dod yn elfen o'r ymgyrch recriwtio 'Hyfforddi. Gweithio. Byw'; tynnu sylw at y cyfleoedd presennol i weithio ym maes gofal critigol yng Nghymru; a chynnwys gweithgarwch gofal critigol yn y dangosfwrdd perfformiad gofal heb ei drefnu o hyn ymlaen. Mae hyn yn helpu byrddau iechyd i reoli eu gwasanaethau yn fwy effeithiol.
Rwy'n falch heddiw o gyhoeddi adroddiad terfynol y grŵp gorchwyl a gorffen. Mae'r adroddiad yn onest am yr heriau y mae gofal critigol yn eu hwynebu, ac mae'n cynnig golwg strategol ar yr hyn sydd angen ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau i bobl sy'n ddifrifol wael yn addas ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â'r prif adroddiad, mae'r adroddiadau gan bob ffrwd waith wedi'u cyhoeddi ar ffurf atodiadau, sy'n nodi argymhellion manylach. Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad, os na fydd arferion derbyn ac atgyfeirio yn newid, sef rhywbeth yr oedd y grŵp yn teimlo nad oedd fawr o gyfle ar ei gyfer, dim ond drwy gynyddu cyfanswm y capasiti gofal critigol y gellir diwallu'r galw cynyddol yn y dyfodol. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn glir bod angen capasiti ychwanegol ar Gymru. Fodd bynnag, rhaid i hyn fod ar y cyd â gwelliannau mewn llwybrau gofal critigol, megis unedau gofal ôl-anesthesia, sy'n cael eu hadnabod yn y gwasanaeth fel PACUs, cymorth anadlu hirdymor, timau allgymorth gofal critigol, a gwell effeithlonrwydd, gan gynnwys lleihau oedi wrth drosglwyddo o ofal critigol a defnyddio cyfuniad sgiliau ein staff yn fwy effeithiol.
Mae angen i ni fynd i'r afael â materion presennol sy'n ymwneud â'r gweithlu, sef cyfuniad sgiliau, recriwtio, cadw a hyfforddi, yn ogystal â chynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â'r sgiliau priodol i ddiwallu anghenion presennol a'r angen yn y dyfodol. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn cydnabod bod y rhaglen genedlaethol yn uchelgeisiol ond, os caiff ei gweithredu'n llawn, bydd yn helpu i sicrhau bod gan Gymru wasanaeth gofal critigol sydd gyda'r gorau yn y DU. Mae staff gofal critigol ledled Cymru yn gweithio mewn amgylchiadau lle mae pwysau mawr, ac mae'r diffyg capasiti drwy'r system wedi gwaethygu hyn. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen yn gobeithio y bydd staff a chleifion yn gweld hyn fel ymrwymiad clir, wedi'i ategu gan argymhellion cadarn ac arian ychwanegol i helpu i gyflwyno rhaglen wella fesul cam.
Er mwyn helpu i roi adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar waith, rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd £15 miliwn ychwanegol o gyllid rheolaidd yn cael ei ddarparu. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi nifer o flaenoriaethau cenedlaethol, megis sefydlu gwasanaeth trosglwyddo ar gyfer oedolion sy'n ddifrifol wael ac uned cymorth anadlu hirdymor. Mae blaenoriaethau lleol, gan gynnwys cynyddu capasiti gofal critigol, y gweithlu, allgymorth a sefydlu unedau gofal ôl-anesthesia, hefyd yn cael eu cefnogi.
Mae angen i ni fod yn glir bod yn rhaid i'r arian ychwanegol hwn gael effaith gadarnhaol sylweddol ar y gwasanaeth a bod ein systemau yn gwella o ganlyniad i'r buddsoddiad a'r ailgynllunio gwasanaethau. I gefnogi hyn, caiff cyfres newydd o fesurau perfformiad sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad eu gweithredu a byddwn yn olrhain perfformiad o ran achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal. Mae gan y gwaith hwn, a gyfarwyddir yn genedlaethol, gysylltiadau pwysig â meysydd datblygol eraill o wasanaethau arbenigol. Mae'r rhain yn cynnwys trawma sylweddol, triniaeth yn dilyn ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, a llawdriniaeth fasgwlaidd. Mae'n bwysig bod y buddsoddiad hwn yn cael ei weld yn y cyd-destun ehangach hwnnw.
Yn olaf, hoffwn ddod â'r datganiad hwn i ben drwy ddiolch i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen yn ogystal â'r gweithwyr a'r rheolwyr gofal iechyd sy'n gweithio, ac yn cydweithio gyda'i gilydd, i drawsnewid ein gwasanaethau gofal critigol mewn ffordd real ac ystyrlon.