Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Gweinidog, diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno eich datganiad ar yr adroddiad hwn. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn dda iawn. Roeddwn i'n falch iawn o weld ei fod yn glir, ei fod yn gryno, fod ganddo gyfres o amcanion sydd wedi'u diffinio'n dda, a'i fod yn sôn mewn gwirionedd am y ffordd y gallwn ni ei fonitro a mesur y canlyniadau. Mae'n berl prin, ac rwy'n falch iawn o allu gofyn ychydig o gwestiynau i chi am hyn.
Mae'n sôn am y ffaith mai gennym ni y mae'r lleiaf o welyau gofal critigol fesul pen o'r boblogaeth o'i gymharu â'r rhan fwyaf o ardaloedd eraill, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi efallai amlinellu sut yr ydych chi'n gweld y gwelyau gofal critigol ychwanegol hyn yn cael eu datblygu a sut y byddwch chi'n eu clustnodi fel nad ydyn nhw'n dod yn welyau ôl-driniaeth aneth—. Ni fedraf ddweud y gair; fe wnaf i eu galw nhw'n welyau PACU. Oherwydd rwy'n sylwi ei bod yn eithaf clir ynghylch nifer y gwelyau a ddylai fynd i ba ardal, pa fwrdd iechyd, ond unwaith eto, mae'n golygu sicrhau bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Pe byddwn i'n darllen yr adroddiad cyfan hwn, yn syml iawn, byddwn yn dweud, 'Adroddiad gwych, dadansoddiad gwirioneddol dda, ond sut ydym ni'n sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd, a ninnau'n gwybod bod y byrddau iechyd o dan bwysau aruthrol a phan ein bod yn gwybod bod targedau ac amcanion yn cael eu haddasu, eu newid, ac y gall ystadegau ddweud bron iawn unrhyw beth? Oherwydd, pe gellid cyflawni hyn, byddai'n gam enfawr ymlaen.
Sylwaf fod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi awgrymu, ar ôl i hyn ddod i fodolaeth a'i fod yn symud ymlaen, y dylen nhw gamu'n ôl ac y dylid ei adael i'r grŵp gweithredu ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael ei fesur. Ond, wrth gwrs, un o feirniadaethau mawr y grŵp gweithredu ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael yn 2016 oedd y ffaith eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd cynnig atebion cynaliadwy, ac nad oedd yr ymrwymiad sefydliadol a oedd ei angen ar y system gyfan yn bodoli. Felly, hoffwn wybod beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod y grŵp gweithredu ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael yn gallu monitro'r gwaith parhaus hwn, oherwydd credaf ei bod hi'n dweud cyfrolau ein bod ni wedi gorfod cael grŵp gorchwyl a gorffen i ddweud wrthyn nhw beth ddylen nhw ei wneud, pan, a bod yn blwmp ac yn blaen, y dylen nhw fod wedi gallu meddwl am hynny eu hunain.
A wnewch chi roi trosolwg cyflym inni o ble yr ydych chi'n gweld y bydd yr arian, gan ei fod yn dweud yn glir iawn yn y fan yma y dyrennir arian i fyrddau iechyd yn rhinwedd eu swyddi fel comisiynwyr, ac eto mae angen iddyn nhw fynd ati ar unwaith i ddefnyddio'r arian hwnnw i ddechrau cael y gwelyau ychwanegol hyn, i ddechrau llunio'r system trosglwyddo oedolion mewn argyfwng maen nhw'n sôn amdani? Sut byddan nhw'n gwneud cais am hynny, a phwy fydd yn penderfynu ar ba un a yw eu cynllun busnes yn ddigon addas ai peidio i gael yr arian i ddal ati a cheisio cyflawni'r amcanion hynny?
A fydd neilltuo arian yn elfen o hynny? O ran adrodd yn dryloyw ar fesurau canlyniadau gofal critigol gyda threfniadau cadarn ar gyfer uwchgyfeirio: a fyddwch chi, y Gweinidog iechyd, hefyd yn cadw llygad ar hyn, neu a fyddwch chi'n rhoi hyn i'r grŵp gweithredu gofal critigol i'w fonitro? Oherwydd hoffwn i gredu na chaiff yr adroddiad hwn, mewn gwirionedd, ei anghofio, ond y byddwch chi mewn gwirionedd, neu y bydd y Llywodraeth, yn cadw golwg manwl arno i wneud yn siŵr bod y pethau hyn yn digwydd. Yr ofn mawr sydd gennyf yw na chaiff llawer o'r argymhellion hyn, sy'n wirioneddol ragorol, eu cyflawni yn syml oherwydd nad yw'r cyllid yn y lle priodol, nad yw'r sgiliau yn y lle priodol, na fydd y bobl briodol sy'n gwybod sut i newid pethau, a newid pethau yn llwyddiannus, yn gallu cyflawni hyn, yn enwedig ar adeg pan ein bod ni'n gofyn i fyrddau iechyd geisio gweddnewid y ffordd maen nhw'n gweithredu, er mwyn cyflawni'r weledigaeth ar gyfer iechyd, sy'n ffordd arbennig o dda ymlaen yn fy marn i.
Rwy'n credu y bydd fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â sut mae'r cyllid sy'n weddill yn cael ei rannu rhwng Aneurin Bevan, Betsi, Cwm Taf, Hywel Dda a Bae Abertawe. Mae'n sôn am feysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer gwasanaethau gofal critigol, ac, unwaith eto, pwy fydd yn cael y gair olaf ynglŷn â beth yw'r blaenoriaethau cytunedig hynny a pha un a yw'r achos busnes yn dal dŵr wedyn.