Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Caiff ein gweledigaeth ni o ran gwasanaethau plant ei hamlinellu'n glir yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', ac yn ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Rwy'n credu bod consensws trawsbleidiol cryf ymysg aelodau'r Siambr hon fod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod plant sy'n cael profiad o ofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael i'w galluogi nhw i ffynnu mewn amgylchiadau diogel a mwynhau'r un cyfleoedd ag y byddai unrhyw blentyn arall yn eu disgwyl.
Rwy'n credu hefyd bod consensws y dylai plant, os oes modd, gael cymorth i fod gyda'u teuluoedd biolegol. Mae ein Prif Weinidog wedi tynnu sylw at y ffaith bod nifer cynyddol y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn faes blaenoriaeth ar gyfer camau ataliol. Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn am osod disgwyliadau clir i leihau nifer y plant mewn gofal, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu lleoli y tu allan i'w sir, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu lleoli y tu allan i Gymru, yn ogystal â lleihau nifer y plant sy'n cael eu symud oddi wrth rieni sydd ag anabledd dysgu.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 6,405 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru ar 31 o fis Mawrth 2018. Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 34 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Mae adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi na ellir priodoli'r cynnydd hwn yn unig i gyni. Cyfradd y plant sy'n derbyn gofal fesul 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru yw 102. Serch hynny, mae hyn yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau yng Nghymru, o 50 fesul 10,000 o'r boblogaeth ar ei isaf, hyd 191 fesul 10,000 o'r boblogaeth ar ei uchaf. Ac er bod amddifadedd yn ffactor pwysig yn yr amrywiad hwn, ceir amrywiadau hefyd o ran ymarfer. Ni ellir goddef y gwahaniaeth hwn rhwng ardaloedd na'r cynnydd cyffredinol, ac mae'r awdurdodau lleol eu hunain wedi cydnabod y pwysau sy'n cael ei roi ar wasanaethau plant ac ar y llysoedd teulu.
Mae bron 25 y cant o'r plant sy'n derbyn gofal yn cael eu lleoli y tu allan i'w sir a 5 y cant yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru. Er bod rhesymau da yn aml dros eu lleoli y tu hwnt i'r ardal—er enghraifft, yr angen am leoliadau arbenigol neu gyda ffrindiau a'r teulu ehangach—rydym yn awyddus i ystyried a ellid lleoli cyfran o'r plant hyn mewn modd mwy priodol yn nes at eu cynefin. Bydd y disgwyliadau arfaethedig o ran lleihau hyn yn ymestyn dros gyfnod o dair blynedd, gyda gwerthuso a monitro'n digwydd yn rheolaidd, yn chwarterol ac ar ddiwedd pob blwyddyn.
Rwy'n cydnabod bod yr agenda hon yn un heriol. Er hynny, o ystyried y pwysau a roddir ar awdurdodau lleol a'r llysoedd teulu mewn oes lle mae adnoddau yn prinhau, mae'n rhaid i ni gymryd camau a fydd yn helpu i leihau mewn modd diogel nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, gan alluogi ail-fuddsoddi mewn adnoddau i atal a chefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn gwbl glir, drwy weithredu mewn dull sy'n rhoi diogelwch yn gyntaf yma yng Nghymru, nid oes dim yn bwysicach na'r angen i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Ac rwyf wedi ymrwymo i weithio mewn modd cydgynhyrchiol ag awdurdodau lleol i ddatblygu disgwyliadau o ran lleihau sydd wedi cael eu teilwra'n benodol i bob awdurdod lleol, a'u teilwra i'w poblogaethau a'u demograffeg nhw.
Cafodd y dull hwn o weithredu ei groesawu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sydd wedi ymrwymo i weithio gyda ni ar yr agenda hon. Gan weithio mewn ffordd gydgynhyrchiol, sefydlwyd grŵp technegol, gydag uwch gynrychiolwyr o Lywodraeth Leol a'r trydydd sector. Datblygwyd fframwaith ar gyfer trafodaeth a thempled ar gyfer adrodd cyn i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gael ymweliad gan dîm bychan i ymgysylltu â phlant sy'n derbyn gofal. Helpodd y fframwaith i bennu'r agenda a sicrhau bod trafodaeth yn digwydd yn gyson ym mhob awdurdod lleol, gan ganolbwyntio ar sut y maen nhw'n rheoli eu gwasanaeth, eu dull o ymdrin â risg, a'u dull o reoli mynediad i ofal a gadael gofal. Cwblhawyd pob un o'r 22 ymweliad ym misoedd Ebrill a Mai. Roedd y tîm ymgysylltu yn edmygu maint y gwaith sy'n cael ei wneud ledled Cymru i gefnogi plant a theuluoedd ac i osgoi'r angen am ymyrraeth statudol, a chafodd y trafodaethau a gynhaliwyd gydag awdurdodau lleol dderbyniad da.
Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar yr angen am gyfrifoldeb ar y cyd dros wasanaethau plant ar lefel gorfforaethol i helpu i wella canlyniadau i blant. Anogwyd yr awdurdodau lleol i ddangos sut y maen nhw'n rheoli'r busnes gwasanaethau plant, gan gynnwys gwybodaeth am y fframwaith ymarfer y maen nhw'n ei weithredu, data am y gwasanaethau a ddarperir i blant a theuluoedd, monitro perfformiad ac olrhain. Anogwyd awdurdodau lleol i fod yn uchelgeisiol wrth ddatblygu eu cynlluniau o ran disgwyliadau lleihau. Cyhoeddwyd y neges yn glir am yr angen i weithredu i ailgydbwyso'r system, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar i gefnogi buddiannau plant a theuluoedd. Wrth i'r swyddogion fynd o amgylch Cymru, mynegwyd pryderon ynglŷn â chanlyniadau posibl methiant wrth fodloni'r disgwyliadau. Rhoddwyd sicrwydd i'r awdurdodau lleol nad oedd cosbi'n cael ei ystyried.
Fodd bynnag, fe ddaw canlyniadau amlwg yn sgil peidio â gweithredu. Er nad yw ystadegau swyddogol ar niferoedd y plant sy'n derbyn gofal ar gael ar gyfer 2018-19 tan fis Tachwedd, cyfeiriodd yr awdurdodau lleol at y ffigurau cynnar, fel y rhai ym mis Mawrth 2019, sy'n dangos cynnydd arall o bosib yn nifer y plant sy'n derbyn gofal o oddeutu 470, gan arwain at gyfradd o 109 i bob 10,000 o'r boblogaeth. O gymharu hyn â gwledydd eraill y DU, yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft, mae'r gyfradd yn is o lawer, sef 71 fesul 10,000, er gwaethaf y ffaith ei bod yn fwy difreintiedig yno nag yng Nghymru, yn gyffredinol. Ar sail y tueddiadau presennol, os na chymerwn ni unrhyw gamau gweithredu, bydd y niferoedd yn parhau i gynyddu 6 y cant ar gyfartaledd bob blwyddyn.
Yn dilyn yr ymweliadau, rhoddodd pob awdurdod lleol ei gynlluniau ar gyfer disgwyliadau o ran lleihad erbyn 31 Mai. Mae 16 o awdurdodau lleol wedi gosod nodau i leihau niferoedd y rhai sy'n derbyn gofal, sy'n golygu gostyngiad o 4 y cant ar gyfartaledd ym mhob un o'r tair blynedd nesaf. Mae trafodaethau ar y gweill gyda'r awdurdodau hynny sydd heb ymrwymo eto i ostyngiadau. Roedd ymweliadau pellach yn cael eu cynllunio i helpu'r awdurdodau hynny i ddatblygu eu disgwyliadau nhw o ran lleihad. Mae angen eglurhad hefyd ar y cynlluniau a gyflwynir o ran yr hyn sy'n digwydd y tu allan i'w sir, y tu allan i Gymru ac yn achos plant a symudir oddi wrth rieni sydd ag anabledd dysgu. Er bod awdurdodau lleol wedi dweud wrthym fod plant yn cael eu lleoli mewn modd priodol, fe'u hanogir i ddangos eu cynlluniau ar gyfer dod â phlant yn nes i'w cynefin.
Mae awdurdodau lleol wedi tynnu sylw'n gyson at y ffaith bod gan y farnwriaeth, y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru a byrddau iechyd hefyd waith allweddol o ran cefnogi cynlluniau ar gyfer disgwyliadau lleihad. Rydym yn pryderu, er enghraifft, fod nifer y plant sydd wedi cael eu lleoli gyda rhieni dan orchymyn gofal wedi cynyddu yn sylweddol dros y tair blynedd diwethaf. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gyda'r farnwriaeth a CAFCASS Cymru i ddeall yr amharodrwydd i ddefnyddio gorchmynion goruchwylio, adran 76 a gweithredu'r egwyddor na ddylid rhoi gorchymyn.
Bydd awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad cenedlaethol dysgu a chefnogi gan gymheiriaid ym mis Hydref er mwyn dysgu am y negeseuon allweddol a ddaw o'r gwaith hwn. Bydd awdurdodau lleol yn cael eu hannog i gydweithio a rhannu arferion gorau a fydd yn helpu i leihau'r amrywiaeth yn y niferoedd ledled Cymru. Mae'r ymarfer hwn yn cyd-fynd â'r gweithgarwch sy'n parhau yn sgil y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant a'i grŵp cynghori gweinidogol, y mae David Melding AC yn ei gadeirio yn fedrus ac yn llwyddiannus, yn enwedig y canolbwyntio ar ffrwd waith 1, ynghylch atal ac ymyrraeth gynnar a lleihau'r angen am ofal mewn modd diogel. Gyda'i gilydd, mae hyn yn dangos ein hymrwymiad cadarn i ailgydbwyso'r system ar gyfer plant sy'n derbyn gofal fel y gellir rhoi'r cymorth cywir i alluogi teuluoedd i gefnogi eu plant eu hunain, a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y plant hynny sydd mewn gofal.