– Senedd Cymru am 3:20 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Eitem 5 yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am wella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Caiff ein gweledigaeth ni o ran gwasanaethau plant ei hamlinellu'n glir yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', ac yn ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Rwy'n credu bod consensws trawsbleidiol cryf ymysg aelodau'r Siambr hon fod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod plant sy'n cael profiad o ofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael i'w galluogi nhw i ffynnu mewn amgylchiadau diogel a mwynhau'r un cyfleoedd ag y byddai unrhyw blentyn arall yn eu disgwyl.
Rwy'n credu hefyd bod consensws y dylai plant, os oes modd, gael cymorth i fod gyda'u teuluoedd biolegol. Mae ein Prif Weinidog wedi tynnu sylw at y ffaith bod nifer cynyddol y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn faes blaenoriaeth ar gyfer camau ataliol. Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn am osod disgwyliadau clir i leihau nifer y plant mewn gofal, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu lleoli y tu allan i'w sir, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu lleoli y tu allan i Gymru, yn ogystal â lleihau nifer y plant sy'n cael eu symud oddi wrth rieni sydd ag anabledd dysgu.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 6,405 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru ar 31 o fis Mawrth 2018. Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 34 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Mae adroddiad diweddar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi na ellir priodoli'r cynnydd hwn yn unig i gyni. Cyfradd y plant sy'n derbyn gofal fesul 10,000 o'r boblogaeth yng Nghymru yw 102. Serch hynny, mae hyn yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau yng Nghymru, o 50 fesul 10,000 o'r boblogaeth ar ei isaf, hyd 191 fesul 10,000 o'r boblogaeth ar ei uchaf. Ac er bod amddifadedd yn ffactor pwysig yn yr amrywiad hwn, ceir amrywiadau hefyd o ran ymarfer. Ni ellir goddef y gwahaniaeth hwn rhwng ardaloedd na'r cynnydd cyffredinol, ac mae'r awdurdodau lleol eu hunain wedi cydnabod y pwysau sy'n cael ei roi ar wasanaethau plant ac ar y llysoedd teulu.
Mae bron 25 y cant o'r plant sy'n derbyn gofal yn cael eu lleoli y tu allan i'w sir a 5 y cant yn cael eu lleoli y tu allan i Gymru. Er bod rhesymau da yn aml dros eu lleoli y tu hwnt i'r ardal—er enghraifft, yr angen am leoliadau arbenigol neu gyda ffrindiau a'r teulu ehangach—rydym yn awyddus i ystyried a ellid lleoli cyfran o'r plant hyn mewn modd mwy priodol yn nes at eu cynefin. Bydd y disgwyliadau arfaethedig o ran lleihau hyn yn ymestyn dros gyfnod o dair blynedd, gyda gwerthuso a monitro'n digwydd yn rheolaidd, yn chwarterol ac ar ddiwedd pob blwyddyn.
Rwy'n cydnabod bod yr agenda hon yn un heriol. Er hynny, o ystyried y pwysau a roddir ar awdurdodau lleol a'r llysoedd teulu mewn oes lle mae adnoddau yn prinhau, mae'n rhaid i ni gymryd camau a fydd yn helpu i leihau mewn modd diogel nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, gan alluogi ail-fuddsoddi mewn adnoddau i atal a chefnogi canlyniadau cadarnhaol i blant sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn gwbl glir, drwy weithredu mewn dull sy'n rhoi diogelwch yn gyntaf yma yng Nghymru, nid oes dim yn bwysicach na'r angen i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Ac rwyf wedi ymrwymo i weithio mewn modd cydgynhyrchiol ag awdurdodau lleol i ddatblygu disgwyliadau o ran lleihau sydd wedi cael eu teilwra'n benodol i bob awdurdod lleol, a'u teilwra i'w poblogaethau a'u demograffeg nhw.
Cafodd y dull hwn o weithredu ei groesawu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sydd wedi ymrwymo i weithio gyda ni ar yr agenda hon. Gan weithio mewn ffordd gydgynhyrchiol, sefydlwyd grŵp technegol, gydag uwch gynrychiolwyr o Lywodraeth Leol a'r trydydd sector. Datblygwyd fframwaith ar gyfer trafodaeth a thempled ar gyfer adrodd cyn i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gael ymweliad gan dîm bychan i ymgysylltu â phlant sy'n derbyn gofal. Helpodd y fframwaith i bennu'r agenda a sicrhau bod trafodaeth yn digwydd yn gyson ym mhob awdurdod lleol, gan ganolbwyntio ar sut y maen nhw'n rheoli eu gwasanaeth, eu dull o ymdrin â risg, a'u dull o reoli mynediad i ofal a gadael gofal. Cwblhawyd pob un o'r 22 ymweliad ym misoedd Ebrill a Mai. Roedd y tîm ymgysylltu yn edmygu maint y gwaith sy'n cael ei wneud ledled Cymru i gefnogi plant a theuluoedd ac i osgoi'r angen am ymyrraeth statudol, a chafodd y trafodaethau a gynhaliwyd gydag awdurdodau lleol dderbyniad da.
Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar yr angen am gyfrifoldeb ar y cyd dros wasanaethau plant ar lefel gorfforaethol i helpu i wella canlyniadau i blant. Anogwyd yr awdurdodau lleol i ddangos sut y maen nhw'n rheoli'r busnes gwasanaethau plant, gan gynnwys gwybodaeth am y fframwaith ymarfer y maen nhw'n ei weithredu, data am y gwasanaethau a ddarperir i blant a theuluoedd, monitro perfformiad ac olrhain. Anogwyd awdurdodau lleol i fod yn uchelgeisiol wrth ddatblygu eu cynlluniau o ran disgwyliadau lleihau. Cyhoeddwyd y neges yn glir am yr angen i weithredu i ailgydbwyso'r system, gan ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar i gefnogi buddiannau plant a theuluoedd. Wrth i'r swyddogion fynd o amgylch Cymru, mynegwyd pryderon ynglŷn â chanlyniadau posibl methiant wrth fodloni'r disgwyliadau. Rhoddwyd sicrwydd i'r awdurdodau lleol nad oedd cosbi'n cael ei ystyried.
Fodd bynnag, fe ddaw canlyniadau amlwg yn sgil peidio â gweithredu. Er nad yw ystadegau swyddogol ar niferoedd y plant sy'n derbyn gofal ar gael ar gyfer 2018-19 tan fis Tachwedd, cyfeiriodd yr awdurdodau lleol at y ffigurau cynnar, fel y rhai ym mis Mawrth 2019, sy'n dangos cynnydd arall o bosib yn nifer y plant sy'n derbyn gofal o oddeutu 470, gan arwain at gyfradd o 109 i bob 10,000 o'r boblogaeth. O gymharu hyn â gwledydd eraill y DU, yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft, mae'r gyfradd yn is o lawer, sef 71 fesul 10,000, er gwaethaf y ffaith ei bod yn fwy difreintiedig yno nag yng Nghymru, yn gyffredinol. Ar sail y tueddiadau presennol, os na chymerwn ni unrhyw gamau gweithredu, bydd y niferoedd yn parhau i gynyddu 6 y cant ar gyfartaledd bob blwyddyn.
Yn dilyn yr ymweliadau, rhoddodd pob awdurdod lleol ei gynlluniau ar gyfer disgwyliadau o ran lleihad erbyn 31 Mai. Mae 16 o awdurdodau lleol wedi gosod nodau i leihau niferoedd y rhai sy'n derbyn gofal, sy'n golygu gostyngiad o 4 y cant ar gyfartaledd ym mhob un o'r tair blynedd nesaf. Mae trafodaethau ar y gweill gyda'r awdurdodau hynny sydd heb ymrwymo eto i ostyngiadau. Roedd ymweliadau pellach yn cael eu cynllunio i helpu'r awdurdodau hynny i ddatblygu eu disgwyliadau nhw o ran lleihad. Mae angen eglurhad hefyd ar y cynlluniau a gyflwynir o ran yr hyn sy'n digwydd y tu allan i'w sir, y tu allan i Gymru ac yn achos plant a symudir oddi wrth rieni sydd ag anabledd dysgu. Er bod awdurdodau lleol wedi dweud wrthym fod plant yn cael eu lleoli mewn modd priodol, fe'u hanogir i ddangos eu cynlluniau ar gyfer dod â phlant yn nes i'w cynefin.
Mae awdurdodau lleol wedi tynnu sylw'n gyson at y ffaith bod gan y farnwriaeth, y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru a byrddau iechyd hefyd waith allweddol o ran cefnogi cynlluniau ar gyfer disgwyliadau lleihad. Rydym yn pryderu, er enghraifft, fod nifer y plant sydd wedi cael eu lleoli gyda rhieni dan orchymyn gofal wedi cynyddu yn sylweddol dros y tair blynedd diwethaf. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gyda'r farnwriaeth a CAFCASS Cymru i ddeall yr amharodrwydd i ddefnyddio gorchmynion goruchwylio, adran 76 a gweithredu'r egwyddor na ddylid rhoi gorchymyn.
Bydd awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad cenedlaethol dysgu a chefnogi gan gymheiriaid ym mis Hydref er mwyn dysgu am y negeseuon allweddol a ddaw o'r gwaith hwn. Bydd awdurdodau lleol yn cael eu hannog i gydweithio a rhannu arferion gorau a fydd yn helpu i leihau'r amrywiaeth yn y niferoedd ledled Cymru. Mae'r ymarfer hwn yn cyd-fynd â'r gweithgarwch sy'n parhau yn sgil y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant a'i grŵp cynghori gweinidogol, y mae David Melding AC yn ei gadeirio yn fedrus ac yn llwyddiannus, yn enwedig y canolbwyntio ar ffrwd waith 1, ynghylch atal ac ymyrraeth gynnar a lleihau'r angen am ofal mewn modd diogel. Gyda'i gilydd, mae hyn yn dangos ein hymrwymiad cadarn i ailgydbwyso'r system ar gyfer plant sy'n derbyn gofal fel y gellir rhoi'r cymorth cywir i alluogi teuluoedd i gefnogi eu plant eu hunain, a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y plant hynny sydd mewn gofal.
Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad, ac rwyf i hefyd am gadarnhau'r gred, eich bod yn llygad eich lle, fod consensws trawsbleidiol cryf ymysg aelodau'r Siambr hon fod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod y gofal y mae plant yn ei gael o'r ansawdd gorau. Er hynny, yn eich dwylo chi y mae'r awenau o ran pwerau, ac felly roeddwn i'n darllen eich datganiad gyda chryn ddiddordeb. Mae angen mesurau ar frys, gan fod Cymru wedi gweld cynnydd o 34 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal dros y 15 mlynedd diwethaf. Yn 2017, cafodd 23 o gynlluniau gofal a chymorth eu rhoi ar waith gan y gwasanaethau i blant bob dydd. Ar gyfartaledd, roedd plentyn neu unigolyn ifanc yn cael ei dderbyn i'r system gofal yng Nghymru bob pedair awr. Felly, fel y cytunwch, rwy'n siŵr, mae'n frawychus bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi cyrraedd cyfradd o 109 fesul 10,000 o'r boblogaeth, gan syrthio y tu ôl i wledydd eraill y DU.
Felly, cwestiwn rhif 1. Lleolir dau ddeg a phump y cant o blant y tu allan i'w sir, a 5 y cant y tu allan i Gymru. Nawr, rydych chi wedi dweud eich bod eisiau edrych i weld a oes modd lleoli cyfran o'r rhain yn nes i'w cynefin. Felly, gan hynny, a wnewch chi egluro pa gamau yr ydych yn eu cymryd i gyflawni hyn, ac a wnewch chi osod nod a therfyn amser, inni gael gweld gostyngiad yn y niferoedd?
Cwestiwn 2. Rydych wedi ymrwymo i weithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu disgwyliadau o ran lleihad, wedi cael eu teilwra i'w poblogaethau a'u demograffeg nhw. Er hynny, dim ond 16 o awdurdodau o'r 22 sydd wedi gosod nodau i leihau'r niferodd yn eu poblogaeth nhw sy'n derbyn gofal. Felly, mae'n debyg mai'r cwestiwn yw: pam felly, a phryd y dylem ni ddisgwyl gweld nodau'n cael eu gosod ar gyfer y chwe awdurdod lleol arall? Fel y cytunwch, rwy'n gobeithio, mae angen inni weld pob cyngor yn gweithio tuag at leihad, ac os nad oes nod, tybed pa mor llwyddiannus fydd y cynlluniau ar gyfer disgwyliadau o ran lleihad.
A'm cwestiwn olaf i, Dirprwy Weinidog. Gwyddom fod awdurdodau lleol yn allweddol i fynd i'r afael â'r argyfwng o ran plant sy'n derbyn gofal yma yng Nghymru. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol dan bwysau ariannol enfawr. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod adran gwasanaethau plant Cyngor Ynys Môn wedi gorwario ei chyllideb 2018-19 gan £1,830,000, yn bennaf oherwydd cynnydd sydyn yn nifer y plant sy'n cael eu derbyn i ofal, a lleoliadau costus y tu allan i'r sir ar ben hynny. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i'n hawdurdodau lleol ni, sy'n dweud mai materion cyllid yw'r rhwystr i leihad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal? Ac a wnewch chi egluro faint o blant eto yr ydych yn disgwyl iddyn nhw ddod o dan gylch gwaith system gofal sydd mewn trafferthion eisoes? A hefyd, ar adeg yr ydym yn gweld y fath argyfwng o ran plant sy'n derbyn gofal, a llawer o bwysau ar ein hadrannau gofal cymdeithasol, a oes gwir achos dros ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol?
Rwy'n diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiynau hynny. Rydym ni'n dod â'r datganiad hwn gerbron y Siambr hon heddiw oherwydd ein bod yn bryderus iawn ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y plant mewn gofal, a chredaf fy mod i wedi rhestru'r ffyrdd yr ydym ni'n gobeithio mynd i'r afael ag ef. Mae hi'n iawn; bu cynnydd o 34 y cant dros y 15 mlynedd diwethaf, ac ni allwn ni ganiatáu i hyn barhau. Ni allwn ni ganiatáu i hyn barhau er mwyn y plant, a dyna'r holl reswm pam rydym ni'n gwneud hyn—rydym ni am roi'r plant yn gyntaf. A gwyddom, pryd bynnag y bo hynny'n bosibl, ein bod yn dymuno i'r plant gael aros yn eu cartrefi eu hunain. Felly dyna'r rheswm pam y gwnawn ni hyn.
O ran y ffaith bod 25 y cant y tu allan i'r sir, a rhai ohonyn nhw y tu allan i'r wlad hefyd, mae'n amlwg ei bod hi'n well o lawer i'r plant pe gellid eu lleoli nhw'n nes at eu teuluoedd, ac yn agos at eu rhwydwaith o wasanaethau lleol. Mae'r cyswllt yr wyf i wedi ei gael gyda phlant sydd mewn gofal—un o'r prif bethau y maen nhw'n ei ddweud yw eu bod nhw'n awyddus i gadw cysylltiad, yn enwedig gyda'u brodyr a'u chwiorydd. Y cyfan y maen nhw'n ei ddymuno yw cael gweld eu brodyr a'u chwiorydd. Ac os ydych chi'n eu lleoli nhw ymhell i ffwrdd, mae hynny'n anodd iawn. Felly, rydym yn annog awdurdodau lleol i ddatblygu cyfleusterau yn eu hardaloedd nhw eu hunain, ar sail ranbarthol, fel y gall rhai o'r plant hyn sy'n mynd y tu allan i Gymru, gyda lleoliadau costus iawn, gael eu lleoli o fewn y wlad—y wlad hon, yng Nghymru. Bu rhai datblygiadau da iawn yn hynny o beth. Mae'r byrddau partneriaethau rhanbarthol yn gwneud hynny ar hyn o bryd, ac rydym wedi rhoi symiau o arian iddyn nhw i wneud hynny'n benodol. Felly, rydym yn symud i'r cyfeiriad hwnnw.
Pam 16 awdurdod yn unig? Mae dau ddeg a dau o awdurdodau wedi cytuno gyda'n hamcanion ni. Mae dau ddeg a dau o awdurdodau yn cefnogi'r agenda yr ydym ni wedi ei phennu, ond dim ond 16 o awdurdodau sydd wedi gwireddu'r gostyngiad y bydden nhw'n ei ddymuno. Ac rydym ni'n falch iawn bod yr awdurdodau hynny wedi ymateb yn y ffordd y maen nhw, gan ddefnyddio ffyrdd synhwyrol iawn o atal plant rhag cael eu rhoi mewn gofal ac adsefydlu plant mewn ffordd gadarnhaol iawn, iawn. O ran y rhai nad ydyn nhw wedi gwneud hynny, rydym ni'n trafod gyda nhw o hyd. Felly, mae'r drafodaeth honno'n parhau o hyd.
Rwyf i o'r farn fod yna nerfusrwydd sy'n ddealladwy ymysg awdurdodau lleol ynglŷn â chyflwyno'r niferoedd y bydden nhw'n gallu eu lleihau. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd ddeall fod yna nerfusrwydd ynghylch pennu targedau, ac felly rwy'n ddeall yn llwyr sut mae'r awdurdodau lleol yn teimlo. Ond rydym ni'n gweithio gyda nhw, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y chwech arall yn gallu dod ymlaen, ac y gallwn ni weithio gyda nhw i gefnogi sefydlogrwydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal. Oherwydd mae'n rhaid inni weithredu, ac un o'r ffyrdd gorau o wneud hynny yw gweithio gyda'r awdurdodau lleol i ostwng y niferoedd hynny. Felly, rydym ni'n parhau i weithio gyda'r chwe awdurdod lleol nad ydyn nhw, hyd yma, mewn gwirionedd wedi cyflwyno unrhyw niferoedd.
Mae'n wair dweud bod yr awdurdodau lleol dan bwysau ariannol mawr. Un o'r pwysau mwyaf, rwy'n credu i Janet Finch-Saunders gyfeirio ato, yw'r swm enfawr o arian y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu am rai o'r lleoliadau hyn y tu allan i'w sir. Felly, un o'r ffyrdd o leihau'r effaith arnyn nhw yw eu helpu i gadw'r plant yn eu cartrefi, yn nes adref, a dyna un o'r rhesymau pam mae'n amlwg ein bod ni wedi rhoi symiau penodol o arian i'r gwasanaethau ar ffiniau gofal. Felly, mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru wasanaeth ar ffiniau gofal erbyn hyn. A gallaf ei sicrhau ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r rhaglen gyni. Rydym wedi cael dadl fawr ynglŷn â hynny yng nghwestiynau'r Prif Weinidog heddiw, ac rydym yn gwybod bod rhywfaint o'r diwygiadau lles a gyflwynwyd yn achosi llawer iawn o galedi. Ond rwyf i'n wir yn credu na allwn ni ganiatáu i'r sefyllfa hon barhau. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn ar hyn er lles y plant.
Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei datganiad. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, hoffwn innau ei sicrhau hi bod y consensws trawsbleidiol ynghylch rhoi ein plant ni yn gyntaf, ynghylch y plant hyn sy'n derbyn gofal, mewn ffordd, ein plant ni fel Cynulliad Cenedlaethol a Senedd genedlaethol—ein bod ni'n teimlo cyfrifoldeb unigol tuag atyn nhw yn unol â'r agenda rhianta corfforaethol lleol. Ond bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol hefyd fod yna rai ohonom ni'n poeni am chwarae gêm rhifau gyda'r mater penodol hwn.
Hoffwn i ddechrau drwy holi ychydig mwy i'r Dirprwy Weinidog am y gwasanaethau ataliol. Roeddech chi'n disgrifio'r ffordd yr aeth y tîm ymgysylltu allan a'u bod nhw'n edmygu'r hyn a welson nhw, ond mae'r sylwadau yr wyf i'n eu cael gan y sector a'r plant a'r bobl ifanc eu hunain yn awgrymu bod rhai o'r gwasanaethau ataliol hynny'n amrywio'n fawr iawn. Mae gwasanaeth ar ffiniau gofal gan bob awdurdod lleol erbyn hyn, ac mae hynny'n amlwg i'w groesawu. Ond hoffwn i glywed ychydig mwy heddiw, Dirprwy Weinidog, am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau cysondeb yn y gwasanaethau hynny, sut y caiff teuluoedd fynd at y gwasanaethau hynny, y mathau o gymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Nid wyf i'n awgrymu bod angen ichi osod rhyw fath o batrwm cenedlaethol, oherwydd efallai nad yw'r hyn sy'n briodol yng Ngwynedd yn briodol ym Mlaenau Gwent, ond mae angen inni gael cysondeb o'r fath.
Byddwn i'n dweud wrthych chi, Dirprwy Weinidog, fod yna berygl, ar un ystyr, o roi'r drol o flaen y ceffyl yn y fan hon; rydych chi'n awyddus i awdurdodau lleol gytuno ar dargedau ar gyfer lleihau niferoedd, ond heb fod â disgwyliadau cenedlaethol o reidrwydd ynghylch y mathau o wasanaethau ataliol, faint o wasanaethau ataliol sydd eu hangen i wneud y gostyngiad hwnnw'n rhywbeth sy'n ystyrlon. Oherwydd, er fy mod i'n hynod o falch eich clywed yn dweud bod y Llywodraeth yn cymryd yr agwedd fod diogelwch yn dod yn gyntaf, rwy'n cymryd bod hynny'n golygu—ac efallai y gwnewch chi gadarnhau hynny i ni—na fyddech chi byth yn disgwyl i awdurdod lleol beidio â chymryd plentyn i mewn i ofal dim ond am fod hynny'n mynd i ddifetha eu targedau nhw pe bydden nhw'n gwneud y ffasiwn beth. Ond tybed a fyddech chi'n cydnabod, Dirprwy Weinidog, fod yna berygl o osod cymhellion gwrthnysig yn y system. Gwyddom fod pobl yn gwneud yr hyn sy'n cael ei gyfrif. Ac os yw nifer y plant neu ganran yn ôl y boblogaeth—neu sut bynnag y caiff hynny ei fesur—yn cael ei gyfrif, ac nid nifer y plant sy'n cael mynediad effeithiol at wasanaethau ar ffiniau gofal, yna mae'n debyg iawn mai'r perygl yw y bydd pobl yn gwneud yr hyn sy'n cael ei gyfrif, ac os mai dim ond niferoedd y plant—.
Rwy'n ofidus ynglŷn â'r achosion ymylol hynny, a bod yn onest, Dirprwy Weinidog. Rwy'n ofidus y gallai fod pwysau ar weithwyr cymdeithasol ar y rheng flaen. Rydym ni ein dwy wedi gweithio yn y maes, mae'r ddwy ohonom yn gwybod sut beth yw rheolwyr yn dweud wrthych chi, 'Wel, wyddoch chi, a yw hyn mor ddifrifol â hynny?' oherwydd mae'r gwasanaeth hwn yn orlawn, neu 'Nid oes arian wedi'i ddyrannu inni ar gyfer hyn.' Felly, byddwn i'n ceisio rhyw sicrwydd—a dyma eich cyfle i ailadrodd, efallai, yr hyn yr ydych wedi ei ddweud eisoes—na fyddech chi byth yn disgwyl i awdurdod lleol beidio ag amddiffyn plentyn unigol oherwydd ei fod yn mynd i ddrysu'r ffigurau. Rwy'n siŵr nad yw hynny'n ddisgwyliad gennych chi o gwbl, ond rwy'n gobeithio y byddech chi'n cydnabod bod pwysau o'r fath yn bodoli.
Roeddwn i'n falch o'ch clywed yn dweud yn eich datganiad y byddech chi'n ystyried poblogaeth a demograffeg y sir. Er enghraifft, nid wyf i'n siŵr—ac fe fyddai hi'n ddiddorol gwybod—a yw siroedd llai o faint yn ddaearyddol yn cael mwy o leoliadau y tu allan i'r sir? Efallai y bydd yn haws dod o hyd i leoliad yn y sir os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf nag ydyw os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol ym Merthyr Tudful yn syml oherwydd maint y boblogaeth yr ydych chi'n ymdrin â hi. Felly, mae eich clywed chi'n dweud y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r gwahanol heriau sy'n wynebu'r awdurdodau lleol amrywiol yn achos rhyddhad i mi. Byddwch yn ymwybodol, drwy'r sgyrsiau hynny ac, rwy'n siŵr, drwy sylwadau uniongyrchol, fod gan rai o'r awdurdodau lleol yn y gogledd, er enghraifft, broblemau gwirioneddol o ran poblogaethau dros dro—y bydd teuluoedd yn dod i'r amlwg sydd eisoes mewn helbulon mawr iawn, ac efallai nad oes ganddyn nhw amser i roi cyfle i'r rheini gael y gwaith ataliol mewn da bryd. Felly, hoffwn pe gallech ein sicrhau ni y bydd y mathau hynny o faterion unigol ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu hystyried, os ydych chi'n bwriadu dilyn y targedau hyn.
Hoffwn i ofyn hefyd pa adnoddau ychwanegol a allai fod ar gael i awdurdodau lleol, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau ataliol. Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd. Dywedodd rhywun wrthyf unwaith—a hoffwn i'n fawr pe na fyddai'n wir—nad oes modd ennill llawer o bleidleisiau gyda mater plant sy'n derbyn gofal. Nid oes llawer o bobl, pan fyddan nhw'n penderfynu pwy i bleidleisio o'i blaid mewn etholiad awdurdod lleol, yn rhoi'r ystyriaeth bennaf i'r swm y mae'r awdurdod yn ei wario ar wasanaethau ataliol i blant. Felly, tybed a wnewch chi roi rhywfaint o ystyriaeth, yn y tymor hwy yn y broses gyllidebu, i rai adnoddau a ddiogelir efallai ar gyfer y maes penodol hwn o waith—ar gyfer camau ataliol, ar ffiniau gofal, ac un cam yn ôl.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Dirprwy Lywydd am ei goddefgarwch. Rwy'n dymuno codi un neu ddau o bwyntiau yn fyr iawn. Mae'n edrych arna i dros ei sbectol yn y ffordd honno sydd ganddi, a gwyddom ein bod mewn trybini pan fydd hynny'n digwydd inni.
Iawn. Siapiwch hi.
Hoffwn i glywed barn y Gweinidog heddiw ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus ehangach fwy eang, nid gwasanaethau cymdeithasol yn unig, yn cymryd o ddifrif eu cyfrifoldeb dros blant sy'n derbyn gofal. Rwy'n meddwl am y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau addysg—rydym ni'n gwybod fod yna rai problemau gwirioneddol yn parhau gyda gwahaniaethu'n digwydd mewn ysgolion i blant sy'n derbyn gofal—ac o ran tai. A yw'r Gweinidog yn teimlo y gallai fod yn amser priodol i ystyried deddfu ar yr agenda rhianta corfforaethol? Gwn fod hyn yn rhywbeth sy'n cael ei ystyried gan y grŵp cynghori Gweinidogol, ond weithiau mae angen inni fod yn gadarn iawn gyda sefydliadau ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl.
Rwy'n pryderu, ac rwy'n siŵr eich bod chwithau, Dirprwy Weinidog, am blant sydd mewn gofal yng Nghymru o'r tu allan i Gymru, mewn nifer mawr iawn a chynyddol o gartrefi plant preifat. Nawr, yn amlwg, nid yw'r plant hynny'n blant i ni fel y mae ein plant ni ein hunain sy'n derbyn gofal, ond tra eu bod nhw gyda ni, y ni sy'n gyfrifol amdanynt. Rwy'n poeni'n fawr am ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn rhai o'r cartrefi hynny. Tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn werth inni ystyried darparu gwasanaeth eiriolaeth ar gyfer pob un o'r cartrefi hynny, ac y byddai hynny'n amod ar y cartrefi hynny'n cael eu cofrestru, fel ein bod yn cael rhywfaint o sicrwydd bod unigolyn annibynnol yn mynd i'r cartrefi hynny, gan weld sut mae'r plant yn dod yn eu blaenau, a bod llais i'w gael yno i'r plant hynny pe byddai angen—cynnig o eiriolaeth ragweithiol. Ac yn olaf, a wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd inni y bydd hi, yn y gwaith hwn drwyddo draw, yn rhoi sylw manwl iawn i'r bobl ifanc sydd yn y system ar hyn o bryd ac i'r lleisiau sydd â phrofiad o fod mewn gofal? Diolch i chi eto, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n diolch i Helen Mary Jones am y rhestr faith o gwestiynau. Rwyf am geisio ymdrin â rhai ohonyn nhw o leiaf. Rwy'n awyddus i ateb yr un pwysicaf, sef wrth gwrs nad ydym ni'n disgwyl i unrhyw blentyn beidio â chael ei gymryd i mewn i ofal os ydyw mewn perygl o gael ei esgeuluso neu ei gam-drin. Rydym yn eiddgar i wneud hyn mewn modd diogel, ac rydym yn dymuno gwneud hynny, fel y dywedais i eisoes, er lles y plant, a dyna'r rheswm y tu ôl i'r datganiad hwn heddiw.
Y pwynt arall yw nad oes neb yn gorfodi unrhyw dargedau ar neb arall. Bydd yr awdurdodau lleol yn cyflwyno eu targedau eu hunain. Felly, os ydyn nhw'n cyflwyno'r targedau, byddan nhw'n ystyried y ddaearyddiaeth, y maint, ac fe fyddan nhw'n cyflwyno targedau. Ac fel yr wyf i'n ei ddweud, mae'r rheini sydd wedi cyflwyno targedau wedi cyflwyno ffyrdd ystyrlon iawn o allu lleihau'r niferoedd, ac wedi sefydlu cynlluniau i atal nifer penodol o blant rhag dod i mewn, ac ar gyfer ailuno plant eraill lle credant fod hynny'n bosibl. Rwyf i o'r farn fod 16 allan o 22 yn rhif gweddol dda, mewn gwirionedd, ar gyfer y rhai sydd wedi cyflwyno'r targedau hyn ac wedi eu hystyried nhw'n ofalus iawn. Ond nid ydym yn dymuno eu gorfodi na phennu cosbau; y cyfan y mae hyn yn ei wneud yw ceisio sicrhau strwythur cyffredinol i geisio atal y cynnydd hwn yn nifer y plant sy'n cael eu derbyn mewn gofal, fel y bydd pawb, rwy'n siŵr, yn cytuno nad honno yw'r ffordd orau o wneud pethau. Felly, mae'n rhaid inni wneud rhywbeth i geisio atal hyn, a chan geisio gwneud hyn mewn ffordd sy'n gweithio ar y cyd, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol i roi'r cymorth y gallwn ni i'w helpu i gyflawni—dyna'r rheswm y gwnawn ni hyn.
Felly, nid wyf i'n credu y dylai'r Aelod ofidio am y defnydd o ffigurau, oherwydd nid yw'n ffordd o orfodi awdurdodau lleol i gyflwyno nifer o ffigurau. Nid honno yw'r ffordd yr ydym ni'n gwneud hyn. Mae'n cynnig cyfle iddynt gyflwyno'r ffigurau y maen nhw'n credu y gallen nhw eu lleihau'n ddiogel, a gweithio gyda nhw a cheisio eu helpu nhw i gyflawni hynny. Felly rwy'n credu mai dyna'r peth pwysicaf o'r holl bethau a ddywedwyd ganddi, gan fy mod i'n deall, oherwydd fel y dywedodd hi, roeddwn innau'n gweithio yn y maes hefyd, ac felly'n gwybod am y pwysau sydd ar awdurdodau lleol. Ond yn sicr, nid oes unrhyw fodd y gellid gadael unrhyw blentyn heb ddiogelwch am y rheswm hwn. Felly, rwy'n credu mai dyna oedd y prif bwynt, ac rwy'n awyddus i dawelu ei meddwl hi a cheisio ei hargyhoeddi o hynny.
O ran y pwyntiau eraill, yn gyflym iawn, o ran yr amrywiaeth ledled y wlad, ydw, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno. Oherwydd, fel y dywedais, y gwasanaethau ar ffiniau gofal, rydym wedi rhoi £5 miliwn o fuddsoddiad rheolaidd i'r gwasanaethau ar ffiniau gofal, ac mae dros 3,600 o blant wedi cael cymorth hyd yn hyn i aros o fewn yr uned deuluol. Dyna'r ffigurau am 2017-18. Felly, mae hwnnw'n gynnydd da, ac mae'n amlwg bod llawer o ffyrdd eraill yr ydym ni'n rhoi cymorth, drwy Teuluoedd yn Gyntaf, drwy Dechrau'n Deg. Ond wrth gwrs, dim ond mewn nifer cyfyngedig o ardaloedd y ceir hynny, ac yn sicr rydym yn ystyried hwn yn faes blaenoriaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi hyn yn un o'i brif flaenoriaethau, ac rwy'n credu ei bod yn glodwiw iawn fod y Prif Weinidog wedi rhoi hyn ar ben ei agenda ef: gadewch inni geisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal, a rhoi cyfle iddyn nhw fyw gyda'u teuluoedd, os gallwn ni roi'r tamaid bach ychwanegol hwnnw o gymorth. Felly mae'r cyfan wedi ei anelu at hynny er mwyn gwella cyfleoedd bywyd i blant.
Ac yna rwyf eisiau codi'r pwynt olaf a wnaethoch chi, o ran y pryder am sefydliad preifat lle mae llawer o blant o'r tu allan i Gymru wedi cael eu lleoli. Unwaith eto, rwy'n credu bod hwnnw'n destun pryder enfawr, oherwydd er mai ni sy'n gyfrifol am ein plant ni sy'n byw yng Nghymru, mae'r plant hynny'n cael eu lleoli ymhell oddi wrth eu teuluoedd, felly nid oes ganddyn nhw'r mathau hynny o wiriadau ar yr hyn sy'n digwydd. Felly, yn sicr, credaf y gallem ni gael trafodaeth eto ar yr hyn y gellid ei wneud i geisio edrych ar y sefydliadau hynny.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Yr wythnos diwethaf, ar y cyd â phawb arall ar y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fe ymwelais i â'r uned troseddwyr ifanc yng ngharchar y Parc. Roedd yn beth da imi gael fy atgoffa o'r angen i wella'r canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal, pe byddai eisiau hynny, gan fod 40 y cant o'r bobl ifanc a oedd yno wedi derbyn gofal. Felly, rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gefnogi'n gryf iawn yn y Siambr hon.
Mae'n rhaid imi ddweud, er hynny, fy mod i'n anesmwyth iawn gyda'r syniad o bennu targedau neu ddisgwyliadau am leihad, neu beth bynnag y dymunwch chi eu galw nhw, yn y maes hwn, am y rhesymau y mae Helen Mary Jones newydd eu mynegi. Rwy'n credu bod yna berygl bob amser o gymhellion gwrthnysig a mesur yn unig yr hyn a gyfrifir. Roedd yr adolygiad o'r argyfwng gofal yn y DU 2018 yn nodi nad oedd unrhyw esboniad syml am y niferoedd cynyddol o blant sy'n derbyn gofal. Felly rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud fy mod i a'r pwyllgor yn bryderus hefyd ei bod yn annhebygol y ceir unrhyw ateb syml ychwaith, a dyna pam mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, at Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ac at y comisiynydd plant yn mynegi rhai pryderon ac yn holi ymhellach ynglŷn â'r mater hwn.
Mae gennyf i rai cwestiynau penodol yr hoffwn i eu gofyn i chi. Y cyntaf yw holi am adroddiad thematig Arolygiaeth Gofal Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal, na ddaeth o hyd i dystiolaeth fod plant sy'n cael eu derbyn mewn gofal na ddylen nhw fod mewn gofal. Felly, byddai'n ddiddorol cael gwybod pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i'r gwaith hwnnw wrth fwrw ymlaen â hyn. Mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu atoch chi, fel y dywedais i, ac nid wyf am ofyn y cwestiynau a oedd yn y llythyr i gyd, oherwydd rydym am aros am ymateb ysgrifenedig gan y Prif Weinidog. Ond rwyf i am ofyn eto pwy yn union sy'n gyfrifol am asesu risg y targedau hyn. Mae'r cyfrifoldeb yn cael ei roi ar awdurdodau lleol, sydd â'r ddyletswydd statudol hefyd o gadw plant yn ddiogel, ac nid wyf i o'r farn fod yna unrhyw bennaeth gwasanaethau plant yn y wlad sy'n codi yn y bore ac yn meddwl, 'Gadewch inni dderbyn mwy o blant mewn gofal.' Felly, hoffwn ofyn i chi, yn benodol, am hynny a'r hyn fydd swyddogaeth Llywodraeth Cymru wrth fonitro'r targedau hynny neu beth bynnag y byddan nhw'n cael eu galw.
Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych wedi ei ddweud am gyd-gynhyrchu, er mai'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, o'r hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yn hyn, nid yw'r gweithredu yn y maes hwn yn awgrymu unrhyw gyd-gynhyrchu yng ngweithrediadau rhai o'r awdurdodau, ac mae hynny'n bryder ac yn rhywbeth y byddwn i'n dymuno mynd ar ei ôl. Roeddech chi'n cyfeirio at y ffaith bod hwn yn un o brif ymrwymiadau'r Prif Weinidog. Hoffwn i ofyn a oes asesiad o'r effaith ar hawliau plant wedi cael ei wneud ynglŷn â'r ymrwymiad hwn, ac os felly, a gaiff hwnnw ei gyhoeddi?
Ac yn olaf, o ran y lleoliadau y tu allan i'r sir, y tu allan i'r wlad, unwaith eto, nid oes neb yn dymuno gweld plant yn cael eu lleoli ymhell oddi wrth eu cynefin a'u cydnabod. Ond cyn belled ag yr wyf i'n deall y sefyllfa, nid oes gennym ni'r lleoliadau amgen ar gyfer rhai o'r plant hyn. Nid oes gennym ddigon o leoliadau diogel, nid oes gennym ddigon o gymorth diogelwch isel, neu ddigon o gefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol. Ac ni all hyn fod yn fater i awdurdodau lleol yn unig; mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain arno, oherwydd ni allan nhw gynllunio ar gyfer hynny ar eu liwt eu hunain. Felly, hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Holwyd y Gweinidog iechyd ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf yn y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y lleoliadau hynny ar gael, i osgoi gorfod anfon plant mor bell o'u cynefin? Diolch.
Rwy'n diolch i Lynne Neagle am y cwestiynau hynny. Rwyf innau hefyd wedi ymweld â'r uned troseddwyr ifanc yng ngharchar y Parc, ac rwy'n credu bod y ffaith bod 40 y cant o'r bobl ifanc a leolwyd yno yn arfer derbyn gofal yn rheswm pendant pam mae'n rhaid inni wneud rhywbeth ynglŷn â hyn. A dyna pam rydym ni'n cymryd camau, am yr union reswm hwnnw, oherwydd dyna ganlyniad y system ofal yr ydym ni wedi bod yn ei rhedeg hyd yn hyn. Felly, rwy'n teimlo'n ymroddedig iawn i geisio atal peth fel hyn rhag digwydd. Ac, mewn gwirionedd, dyna pam rydym ni'n gwneud yr hyn a wnawn ni.
Gwn fod Lynne Neagle yn dweud ei bod yn anesmwyth ynglŷn â gosod targedau neu ddisgwyliadau o ran gostyngiadau—beth bynnag fo'r mynegiant a ddefnyddiwn. Ac unwaith eto, fel y gwnes i gyda Helen Mary Jones, hoffwn ei sicrhau hi y bydd yr awdurdodau lleol yn gosod y targedau hyn—maen nhw'n gosod eu targedau eu hunain. Rydym am fynd atyn nhw i'w cefnogi nhw a thrafod hynny gyda nhw. A holl ddiben gwneud hyn yw ei wneud mewn ffordd gyd-gynhyrchiol. Rwy'n credu ei bod hi ymhellach yn ei datganiad wedi dweud ei bod yn teimlo nad oedd hyn wedi cael ei wneud mewn ffordd gyd-gynhyrchiol. Felly byddwn i'n falch iawn pe gallai hi egluro hynny'n fanylach, oherwydd, yn sicr, y bwriad fu i swyddogion o Lywodraeth Cymru weithio gyda'r awdurdodau lleol mewn modd cyd-gynhyrchiol ar gyfer cyflwyno rhywbeth sy'n dderbyniol ar y cyd. A chyda'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol, mae hynny wedi digwydd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe byddai hi'n trafod hynny gyda mi.
Yn yr adroddiad ar yr argyfwng o ran gofal, ie, yn hollol, gwn nad oes unrhyw esboniad syml ynghylch pam y cafwyd y cynnydd mawr yn nifer y plant sy'n cael eu derbyn mewn gofal. Ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno fod yna doreth o resymau, gan gynnwys cyni a thlodi a llawer, llawer o bethau na allwch chi eu cyfyngu nhw i un peth. Nid oes ateb syml, fel y mae hi'n dweud. Felly, yr hyn y gallwn ni ei wneud yw gwneud ein gorau i atal hynny rhag digwydd drwy wneud popeth o fewn ein gallu i atal y plant sy'n cael eu derbyn i ofal, eu hatal rhag dod i mewn, a helpu rhai o'r plant eraill i gael eu hailuno â'u teuluoedd, i'w hatal rhag ailymuno â gofal. Er enghraifft, o ran adnoddau ychwanegol—y credaf iddi sôn amdanyn nhw ymhellach ymlaen—rydym wedi rhoi'r £2.3 miliwn hwn i'r gwasanaethau mabwysiadu. Mae hyn yn eithriadol o bwysig a chafwyd croeso iddo gan y sector, gan gydnabod yr angen dirfawr am roi cymorth ar ôl mabwysiadu er mwyn atal ailymuno â'r system gofal, sy'n digwydd weithiau pan fydd rhieni sy'n mabwysiadu yn ymgymryd â phlant anufudd ac anystywallt iawn. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gam enfawr a gafodd ei gydnabod o'r diwedd a bod arian wedi cael ei wario a bod arian i gefnogi'r gwasanaethau mabwysiadu.
I fwrw ymlaen ymhellach gyda'i chwestiynau hi, pwy oedd yn gyfrifol am yr asesiad o'r risgiau, wel, mae'r awdurdodau lleol yn asesu risg drwy'r amser wrth wneud pethau. Nid ydym yn ceisio cymryd unrhyw beth oddi ar yr awdurdodau lleol; rydym yn awyddus i helpu i'w cefnogi nhw i gyflawni'r nod ledled Cymru, sef ceisio lleihau nifer y plant sy'n dod i mewn. Rydym wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn ymweld yn rheolaidd ac yn monitro'n rheolaidd. Rwy'n codi cyd-gynhyrchiad eto. Efallai y gallwn i gael trafodaeth â hi ynglŷn â sut y byddai hi'n gweld asesiadau o'r effaith ar hawliau plant a sut y byddai hi'n gweld y rhain yn gweithredu mewn amgylchiadau fel hyn.
Ac, yn sicr, mae awdurdodau lleol yn lleoli plant y tu allan i'r sir a thu allan i'r wlad am nad oes lleoedd ar gael yng Nghymru o gwbl. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yw ceisio sicrhau bod yr agenda blant ar agenda'r byrddau partneriaeth rhanbarthol er mwyn datblygu cyfleusterau yng Nghymru, a hefyd y gronfa ICF, sy'n cael ei defnyddio hefyd i ddatblygu cyfleusterau. Mae gan rai rhanbarthau gynlluniau y cytunwyd arnyn nhw i geisio llenwi'r bylchau sy'n sicr yn bodoli. Mae hi'n hollol iawn: mae'n rhaid inni ddarparu mwy o adnoddau. Rydym yn darparu adnoddau drwy'r byrddau hyn. Mae rhai rhanbarthau eisoes wedi cychwyn arnyn nhw.
Felly, nid wyf yn credu y dylem ofidio'n ormodol am y rhifau. Ymdrech gyffredinol yw hon, sef ein bod ni'n ceisio lleihau nifer y plant sydd mewn gofal, a chredaf mai'r hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw edrych ar hyn mewn ffordd gyffredinol o ran ceisio cael ysgogiad yn y maes hwn, sydd fel rwy'n dweud yn prysur waethygu.
Rydym ni'n croesawu'r datganiad hwn a wnaed yma heddiw. Yn amlwg, mae angen i bethau newid. Fel y dywedwyd mewn datganiadau eraill o'r blaen, mae'n ymddangos bod nifer y plant dan oruchwyliaeth awdurdodau lleol yn codi bob blwyddyn, a hoffwn i wybod beth, yn eich barn chi, yw'r rhesymau am y cynnydd hwn sy'n peri pryder. Rydych chi eisoes wedi nodi cyni a thlodi, ond mae llawer, llawer o gwestiynau eraill y mae angen eu gofyn. A yw hyn yn arwydd, er enghraifft, o ddiffyg sgiliau rhianta? A yw rhieni'n mynd yn iau ac yn methu ymdopi? Ynteu a ydym ni'n disgwyl safonau uwch gan rieni nag oeddem ni, dyweder, 15 i 20 mlynedd yn ôl? Fy nealltwriaeth i yw bod y cynnydd hwn yn amlwg yn digwydd ledled y DU ac nid yn unig yma yng Nghymru. Byddwn i'n croesawu eich sylwadau ynglŷn â'r pwynt hwnnw.
Rydym ni yn y sefyllfa hon heddiw, ac o ran y plant hynny sydd eisoes yn derbyn gofal, fe fyddan nhw wedi dioddef camdriniaeth neu esgeulustod ac mae'n debyg y bydd ganddyn nhw anghenion penodol y mae angen mynd i'r afael â nhw o ran addysg, datblygiad a chymorth emosiynol. Efallai y bydd ganddyn nhw hefyd fwy o waith i'w wneud i gyrraedd yr un man â'u cyfoedion o gefndiroedd teuluol traddodiadol. Bydd angen llawer o gymorth hefyd ar unrhyw rieni maeth neu ddarpar rieni sy'n mabwysiadu i sicrhau bod y lleoliad yn llwyddiannus. A yw'r cymorth hwnnw ar gael ac a yw'n gweithio? Mae'n rhaid ei bod yn dorcalonnus i'r plentyn a'r teulu os yw'r lleoliad yn methu. A oes unrhyw ffigurau ar gael ar gyfer plant sy'n dychwelyd i leoliad gofal ar ôl eu lleoli gyda theulu?
Rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid canolbwyntio nawr ar atal ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol symud oddi wrth adweithio i atal ac ymyrryd yn gynnar. Rwy'n eich llongyfarch chi a'n gwasanaethau cymdeithasol am y newid hwn yn y dull o weithredu. Eto i gyd, bob wythnos yn y Siambr hon rydym yn clywed pa mor anodd yw hi ar ein hawdurdodau lleol, heb ddigon o gyllid na digon o adnoddau. A ydych chi'n hyderus bod gan y staff proffesiynol y gallu a'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y newid hwn yn digwydd, a'r niferoedd staff, y staff cymorth a hefyd y cymorth emosiynol sy'n angenrheidiol i ymdrin â rhai materion anodd? Rwy'n poeni'n wirioneddol y gallem fod yn disgwyl gormod mewn rhy ychydig o amser ac na fyddwn ni, yn y pen draw, yn gweld y canlyniadau y mae eu hangen nhw arnom ni ar gyfer y plant dan sylw, ac mae'n rhaid canolbwyntio ar hynny.
Yn olaf, hoffwn i godi mater gorchmynion gwarchodaeth arbennig. A oes gennych chi unrhyw ffigurau ynghylch a yw'r defnydd o'r rhain yn cynyddu? A yw'r plant sy'n destun y gorchmynion hyn yn parhau i gael eu hystyried yn rhai 'sy'n derbyn gofal'? Os na, sut y cofnodir eu canlyniadau nhw? Diolch, Gweinidog.
Ie, wel, mae'r Aelod yn amlwg yn llygad ei lle ynghylch y niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn, ac ydy, yn sicr mae hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae'r tueddiad ar i fyny. Ac mae'r rhesymau am hynny'n gymhleth iawn yn fy marn i. Rwy'n credu eu bod yn cynnwys tlodi ac amddifadedd, ac effaith rhaglen gyni Llywodraeth y DU—nid wyf yn credu y gallwn ni ddiystyru bod hynny'n cael effaith ar ein teuluoedd mwyaf bregus, ond nid wyf i'n credu mai hwnnw yw'r darlun cyfan.
Nid oes amheuaeth bod awdurdodau lleol dan bwysau. Mae'r system llysoedd teulu dan bwysau sylweddol ac, yn sicr, mae rhai o'r arferion sydd wedi codi yn y llysoedd teulu wedi cynyddu nifer y plant sy'n aros mewn gofal. Roeddwn i'n sôn yn gynharach yn y datganiad am duedd fawr, tuedd gynyddol, i roi gorchmynion gofal a lleoli'r plant yn eu cartrefi. Felly, mae'r plant dan orchymyn gofal ond maen nhw'n cael eu lleoli gartref, ac rwy'n credu bod gennym tua 1,000 o blant fel hyn yng Nghymru, sy'n byw gyda'u teuluoedd ond sydd mewn gwirionedd dan orchymyn gofal. Ond hoffwn roi teyrnged i'r hyn y mae'r awdurdodau lleol yn ei wneud, a hynny dan bwysau mawr, oherwydd maen nhw'n gwneud gwaith aruthrol ac yn diogelu plant sy'n agored i niwed ac yn cefnogi teuluoedd. Ond mae'r rhesymau'n gymhleth iawn, rwy'n credu, fel y dywedodd Lynne Neagle. Ceir amrywiaeth eang o resymau, ac mae'n rhaid inni geisio gweithio arnyn nhw fel y gallwn ni.
Yn sicr, mae angen rhoi cymorth i rieni maeth a rhieni sy'n mabwysiadu, oherwydd maen nhw'n gwbl allweddol yn y system hon. Roeddwn i'n sôn yn gynharach am y £2.3 miliwn a roddwyd i'r gwasanaeth mabwysiadu, a hynny i helpu i gefnogi rhieni sy'n mabwysiadu fel ein bod ni'n ceisio osgoi plant yn cael eu haildderbyn i ofal. Oherwydd gyda phlant sydd wedi cael eu niweidio yn y fath fodd ac sydd wedi bod drwy'r fath gyfnodau adfydus, beth bynnag a wna'r rhiant sy'n mabwysiadu, yn aml bydd angen cymorth ychwanegol. Ac felly mae hynny, bellach, yn fater o hawl, sef y gwasanaeth ôl-fabwysiadu. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam mawr ymlaen.
Nid wyf i'n credu y gallwn ddweud ein bod ni'n disgwyl gormod gan yr awdurdodau lleol, oherwydd bywydau ein plant ni yng Nghymru sydd yn y fantol. Felly mae'n rhaid inni fod yn uchelgeisiol ac mae'n rhaid inni eu helpu nhw i fod yn uchelgeisiol. Digon hawdd yw dweud drwy'r amser, 'Cyni sydd ar fai, mae pawb dan bwysau, ni allwn wneud dim byd, a bydd mwy o blant eto'n dod i dderbyn gofal.' Ond mae'n rhaid i rywun geisio gwneud rhywbeth, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn inni geisio gwneud rhywbeth ar lefel lywodraethol. Felly, dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud drwy fwrw ymlaen â hyn.
Mae'r Gweinidog wedi bod yn ddigon caredig i gyfeirio at fy ngwaith i yn cadeirio'r grŵp cynghori gweinidogol, ac rwy'n atgoffa'r Aelodau nawr am fy safle i yno.
Dirprwy Weinidog, rwy'n credu ei bod yn bwysig—rydym wedi clywed cwestiynau a sylwadau craff iawn, ac mae'n anochel eu bod nhw wedi ystyried yr heriau. Ond dylem atgoffa pawb fod canlyniadau da yn digwydd pan fyddwn ni'n llwyddo gyda gofal. Mae yna bobl sy'n ofalwyr maeth, pobl yn rhedeg cartrefi preswyl, gweithwyr cymdeithasol a phobl sy'n rhan o'r system iechyd ac yn y cynghorau hefyd, yn wleidyddol, sydd mewn gwirionedd yn gwneud penderfyniadau da iawn ac yn darparu gofal o ansawdd uchel hefyd, yn amlwg, yn y sefyllfa gyffredinol hon yr ydym ni ynddi. Ac nid wyf i o'r farn y gallwn ni anwybyddu'r ffaith ein bod ni, yn yr 20 mlynedd o ddatganoli, wedi dyblu nifer y plant, yn fras, sy'n cael eu derbyn mewn gofal. Ac nid ydym wedi gwneud hynny mewn ffordd a gynlluniwyd—fe ddigwyddodd hynny. Mae'r Aelodau eisoes wedi dweud bod hyn wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r DU hefyd. Ond mae angen inni edrych ar y cydbwysedd presennol ac a ydym ni'n gwneud pethau'n iawn—a ydym ni'n symud yn fwy tuag at addysgofal a hynny hyd yn oed yn fwy cynnar yn y cylch, pan fydd angen i deuluoedd gael yr ymyrraeth gynnar a'r gefnogaeth honno gyda sgiliau rhianta, er enghraifft, fel y soniodd Mandy yn gynharach?
Rwy'n credu mai peth allweddol arall y mae'n rhaid edrych arno yw'r diffyg cysondeb ar draws yr awdurdodau lleol. Nawr, fe ddylai awdurdodau lleol sydd â'r un sefyllfa economaidd gymdeithasol yn fras fod mewn band y gellir ei gymharu ag eraill sydd ynddo o ran cyfran y plant y maen nhw'n eu derbyn i ofal. Ac os oes gwahaniaeth arwyddocaol iawn rhwng siroedd sy'n debyg i'w gilydd, yna credaf fod angen cael esboniad am hynny. Efallai fod yna esboniad, ond mae angen inni ofyn amdano.
Rwy'n credu bod angen mwy o gydweithio gyda'r llysoedd. Mae hynny'n amlwg yn rhan o'r deinamig sydd ar waith yma, ac mae hynny'n cyffwrdd hefyd ag arfer proffesiynol, gyda'r gweithiwr cymdeithasol iawn yn y llys pan glywir yr achos—mae angen gwneud yr holl bethau hyn os ydym yn dymuno cael canlyniad mwy cytbwys ac ymyriadau priodol.
Roeddwn i'n falch hefyd—. Rwy'n credu mai Helen Mary gododd mater rhianta corfforaethol. Dyma'r asiantaethau i gyd; rydych chi wedi cyfeirio at y rhai cyhoeddus—nid wyf i'n gallu cofio'r hyn y maen nhw'n cael eu galw nawr—y byrddau, beth bynnag—y byrddau cyhoeddus rhanbarthol newydd. Mae hwnnw'n fforwm pwysig i ni, rwy'n credu, a'r holl asiantaethau, y llysoedd, yr heddlu, iechyd, addysg, tai—mae angen i'r holl asiantaethau hyn ddod at ei gilydd. Ond mae angen i'r dimensiwn gwleidyddol fod yno—yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond hefyd ein cymheiriaid ar lefel llywodraeth leol, cadeiryddion y pwyllgorau craffu allweddol ac aelodau'r cabinet fel ei gilydd, ac mae angen inni dynnu'r holl wleidyddion sy'n weithredol yn y maes hwn, yn fy marn i, i ryw fath o rwydwaith.
Yn olaf, a gaf i roi gwybod i'r Aelodau, mewn gwirionedd, fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gwneud gwaith ardderchog wrth edrych ar sefyllfa bresennol y plant sy'n derbyn gofal? Ac maen nhw wedi dweud y dylai'r grŵp cynghori gweinidogol wynebu'r cyhoedd yn fwy aml ac, yn wir, rydym ni yn gwneud hynny o ran yr adroddiadau a gyhoeddwyd gennym a'r cofnodion sydd ar y wefan. Ond hefyd, roeddwn i'n falch eich bod chi'n cytuno y dylem ymrwymo i gyhoeddi adroddiad blynyddol a chael dadl flynyddol yn y Cynulliad. Credaf y bydd hynny'n rhan allweddol o sicrhau bod y pwnc pwysig hwn yn parhau i fod yn ganolog ym mlaenoriaethau'r holl bleidiau gwleidyddol sydd yma, ac mae pob un wedi dweud nad yw hwn yn fater sy'n achos rhaniadau—mae yma gonsensws—ond mae angen ei gymhwyso hefyd.
Diolch yn fawr iawn i David Melding am ei gyfraniad, a hoffwn i ddiolch eto am yr holl waith y mae bob amser wedi'i wneud ar hyd y blynyddoedd ac y mae'n ei wneud nawr ar grŵp cynghori'r Gweinidog. Felly, diolch yn fawr iawn am hynny.
Rwy'n credu ei fod yn hollol gywir i ddweud bod y canlyniadau'n dda pan fyddant yn cael y gofal yn gywir, pan fyddwn wedi archwilio pob posibilrwydd o ran y plant yn aros gartref, ac yna rydym eisiau rhoi'r gofal gorau posibl iddyn nhw. Ac os byddwn ni'n cael hyn yn gywir, gwyddom y bydd y canlyniadau'n dda, a gwyddom fod angen inni gynnwys pethau ychwanegol i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl ei fod yn iawn ynglŷn â hynny.
Mae'r ffaith bod y nifer wedi dyblu dros 20 mlynedd, rwy'n credu, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder, oherwydd ni chredaf ein bod ni'n deall yn iawn pam ei fod wedi dyblu dros 20 mlynedd. Fel y dywedwyd yma heddiw, yn yr holl gyfraniadau da iawn sydd wedi bod, mae'n gwbl amhosibl dweud, 'Dyma'r rheswm pam mae hynny wedi digwydd.' Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno'n ofalus iawn.
Rwy'n credu ei fod ef yn iawn i ddweud bod angen mwy o gymorth arnom gyda sgiliau rhianta, a chredaf fod hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n rhoi sylw manwl iddo wrth ystyried dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n ei ystyried ac yn rhoi sylw iddo ledled Cymru gyfan i weld lle mae bylchau o ran helpu gyda sgiliau rhianta. Ond credaf mai un o'r datblygiadau da, y gwn fod David Melding wedi bod ynghlwm wrtho, yw datblygu'r rhaglen fyfyrio. Deallaf fod prosiect myfyrio ym mhob rhanbarth yng Nghymru erbyn hyn, sydd ar gyfer gwraig y cafodd hi un plentyn wedi'i gymryd i ofal, ond bellach mae ganddi'r cyfle i gael help ac i fyfyrio, ac yn dilyn hynny, gymryd y plentyn i ofal. Rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad da iawn. Mae'r diffyg cysondeb mewn gwahanol awdurdodau lleol a pham mae gwahaniaethau rhyngddynt, unwaith eto, yn rhywbeth y dylid ei ystyried.
Yn olaf, mae'r mater hwn am wleidyddion—ie, credaf ei fod yn gyfrifoldeb arnom ni fel gwleidyddion. Mae arweinwyr gwleidyddol mewn awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn rhieni corfforaethol, a gwn fod un o fy rhagflaenwyr yn y swydd hon, Gwenda Thomas, yn sicr wedi cael enw da i'w ddilyn—. Soniwyd wrthyf, pan es i un awdurdod lleol, fod Gwenda Thomas wedi dweud, pan aeth hi i mewn i'r awdurdod lleol hwnnw, ei bod yn disgwyl i'r swyddogion wybod enw pob plentyn a oedd yn derbyn gofal yn yr awdurdod hwnnw. Ac rwy'n credu bod gennym ni swyddogaeth fel gwleidyddion, a gwn fod David Melding wedi dweud yn aml efallai mai ni yw'r neiniau a theidiau, y neiniau a'r teidiau corfforaethol y plant yr ydym ni'n gofalu amdanynt. Ac rwy'n credu bod angen inni gael yr ymwybyddiaeth a'r cyfrifoldeb hwn fel gwleidyddion mai ein plant ni yw'r plant hyn yng Nghymru. A dyna pam y credaf ei bod mor ganmoladwy, mewn gwirionedd, fod y Prif Weinidog wedi rhoi hyn ar frig ei agenda, sy'n golygu bod y gwaith y mae David Melding yn ei wneud, ac mae'r gwaith yr wyf i'n ei wneud yn hanfodol bwysig. Felly, diolch am y sylwadau hynny, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd.
Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud yn barod. Gwyddom fod nifer y plant sy'n derbyn gofal yn cynyddu'n ddi-syfl, ac mae llawer iawn o resymau dros hynny. Ond un o'r niferoedd sy'n sefyll rhywfaint ar wahân yw Powys, lle bu cynnydd o 50 y cant ers Ebrill 2017. Felly, roedd yna 160 o blant ac erbyn hyn, ym mis Mawrth, mae yna 244. Nawr, mae'n gynnydd sylweddol, ac rwy'n siŵr bod rhesymau y tu ôl i hynny. Y rheswm dros ddewis yr un penodol hwnnw, ar wahân i'r ffaith ei fod yn fy ardal i, yw bod adroddiad damniol gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2017, a ddywedodd fod plant y sir yn cael eu rhoi 'mewn perygl '.
Nawr, gwn eu bod wedi cyhoeddi fframwaith newydd yr wythnos hon, a bod y fframwaith hwnnw'n mynd i gael ei ategu gan fwy o arian, oherwydd yn amlwg roedd rhan o'r mater yn ymwneud â diffyg gwariant ac, felly, diffyg blaenoriaeth yn y maes hwn. Mae hynny'n newyddion da—ac rwy'n mynd i fod yn gadarnhaol yma—fod hynny wedi cael ei gydnabod, hyd yn oed os nad cyngor Powys oedd wedi ei gydnabod ei hun. Felly, mae'n debyg mai'r cwestiwn yma yw: sut yr ydym ni'n mynd i wybod, ymlaen llaw, nid ar ôl i bethau fynd o chwith, bod plant mewn gofal yn uchel nid ar yr agenda hon yn unig ond ar agenda awdurdodau lleol a phobl eraill sydd i fod cyflwyno'r newidiadau hynny yn gadarnhaol ar eu cyfer? Ac a gaf i awgrymu, pe baem yn mynnu bod awdurdodau lleol yn gorfod gwneud datganiad neu gyhoeddiad o fewn eu hawdurdod penodol yn flynyddol a bod yn rhaid i'r adroddiad hwnnw fod yn gyhoeddus, o leiaf y byddai pobl yn cael golwg arno ac efallai y byddai'r cyngor yn cymryd peth perchenogaeth ohono, oherwydd byddai'n rhaid iddo fod yn gynhwysfawr a byddai'n rhaid iddynt ddweud faint o arian yr oeddent yn ei wario arno. A gallai hefyd helpu i ganolbwyntio meddyliau'r holl gynghorwyr a'r rhieni corfforaethol hynny yn yr ardaloedd hynny ynghylch pwysigrwydd gofalu am blant sy'n derbyn gofal.
Yn olaf, mae'n newid gwirioneddol dda hwn gan y Cynulliad nad oes raid i blant sy'n derbyn gofal sy'n gadael gofal dalu unrhyw dreth gyngor. Felly, mae'n gam i'r cyfeiriad cywir a gobeithio y bydd yn helpu rhai i beidio â chael eu hunain yn ôl mewn gofal.
Diolch i Joyce Watson am y sylwadau hynny ac am ei sylwadau am Bowys, lle cafwyd y cynnydd hwn a ddefnyddiodd yn enghraifft. Mae'n cyfeirio at adroddiad yr arolygiaeth gofal, a gallaf ei sicrhau ein bod wedi bod yn cwrdd â Phowys ac yn pwysleisio pwysigrwydd cael y fframwaith newydd hwn, a chredaf mai dyna sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ond credaf ei bod yn iawn wrth geisio pwysleisio y dylai diogelwch plant a phwysigrwydd plant sy'n derbyn gofal fod yn uchel ac ar frig agenda awdurdodau lleol, a byddwn i'n fwy na pharod i drafod â hi unrhyw ffordd y mae'n credu y gellid gweithredu hyn. Ac rwy'n falch iawn ei bod wedi sôn am y dreth gyngor, oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n gam cadarnhaol arall ymlaen, gan fod cryn nifer o gamau cadarnhaol wedi'u cymryd gan grŵp David Melding. A dim ond i ddweud, o ran ymateb i warcheidiaeth arbennig, nad oeddwn wedi ymateb iddo, mae nifer y gwarchodaethau arbennig wedi cynyddu, ydynt.
Ac yn olaf, Neil McEvoy.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog—Dirprwy Weinidog—rwy'n falch iawn o'ch clywed yn sôn am leihau nifer y plant mewn gofal. Mae'r ffaith bod cynnydd o 34 y cant wedi bod mewn 15 mlynedd yn peri pryder mawr. Hoffwn i wybod mwy am yr amrywiadau yr ydych chi'n sôn amdanynt. Os oes yna ardaloedd o Gymru lle mae cyfradd y plant sy'n derbyn gofal bron dair gwaith yn uwch nag yng Ngogledd Iwerddon, yna credaf fod gwir angen inni wybod pam.
Rwy'n pryderu'n fawr am breifateiddio gwasanaethau gofalu am blant. Mae yna gwmnïau preifat yng Nghymru nad ydynt yn croesawu craffu, nad ydynt eisiau i gynghorwyr ymweld â'r cartrefi—yn wir, maen nhw'n gwrthod ymweliadau—ac mae diffyg tryloywder llwyr a chymhelliant enfawr—enfawr—i wneud elw. Mae gen i achos ar fy llyfrau lle mae'r plentyn yn ymbil am gael mynd yn ôl adref—yn ymbil—ond mae'r plentyn hwnnw'n werth £300,000 y flwyddyn yn sicr, a gallai fod yn £0.5 miliwn hyd yn oed; nid ydynt yn barod i'w gadarnhau, oherwydd cyfrinachedd y cleient. Felly, nid yw'r cartref gofal hwnnw byth yn mynd i adael i'r plentyn hwnnw fynd—byth. Allaf i ddim mynd at y comisiynydd plant, oherwydd mae'n achos unigol; allaf i ddim mynd atoch chi—rydw i wedi ceisio, ond mae'n achos unigol, ac—. Efallai y gall y Senedd Ieuenctid helpu, oherwydd mae angen llais ar y plant hyn. A'r achos yr wyf yn sôn amdano—. A minnau'n annibynnol, roeddwn yn ffodus o gael cyllideb fwy; llwyddais i gyflogi gweithiwr cymdeithasol profiadol iawn yn llawn amser, a chymerodd ddau fis o waith i ddod o hyd i'r gwaith papur a chanfod, yn y bôn, na ddylai'r plentyn byth fod wedi cael ei gymryd i mewn i ofal. Cafodd camgymeriadau eu gwneud ac nid oedd gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo. Mae'r achos yn dal i fynd rhagddo.
Ond, i ddychwelyd at y cymhelliad elw, rwyf i o'r farn ei fod yn warthus. Mae'n braf bod llywydd y llys teulu yn gwneud y mater hwn yn brif flaenoriaeth iddo. I mi, mae'n siomedig nad yw chwe awdurdod lleol wedi cyflwyno targedau, felly tybed pa awdurdodau lleol oeddent.
Rwyf eisiau sôn hefyd am ddieithrio plentyn oddi wrth riant. Mae'n effeithio ar gynifer o famau, tadau, teidiau a neiniau a hefyd rieni plant mewn gofal. Unwaith eto, mae'n mynd â ni yn ôl at y cymhelliad o wneud elw. Mae llawer o bobl yn gwneud gwaith rhagorol, ond credaf na allwn anwybyddu'r ffaith bod y plant hyn mewn rhai amgylchiadau'n cynrychioli llawer o arian, ac mae rhieni'n curo ar ddrws fy swyddfa yn dweud wrthyf eu bod yn cael eu dieithrio oddi wrth eu plant. Mae gwir angen ystyried y mater hwn.
Wrth gloi, rwyf eisiau pwysleisio fy mod i'n pryderu'n fawr am y diffyg craffu, y diffyg tryloywder, gyda chwmnïau preifat yn gwneud ffortiwn. Os mai ni yw'r neiniau a'r teidiau corfforaethol, rhowch gyfle inni ofalu am y plant hynny a'u buddion. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae'n anodd iawn iawn ac rydym yn wynebu gelyniaeth eithafol ac, yn wir, gwynion.
Diolch i Neil McEvoy am y sylwadau hynny. O ran gofyn pwy yw'r chwe awdurdod lleol, ni chredaf y byddai'n briodol i mi ddweud pwy oedd yr awdurdodau lleol hynny, oherwydd un o'r pethau yr ydym yn ceisio ei wneud yw gweithio ar y cyd gyda'r awdurdodau lleol ac rwyf eisiau inni weithio gyda'n gilydd. Felly, yn fy marn i, ni fyddai'n ddefnyddiol imi enwi unrhyw awdurdod lleol yma heddiw, ac nid oes gennyf i unrhyw fwriad o wneud hynny.
O ran yr amrywiadau, mae rhai amrywiadau eithaf sylweddol rhwng gwahanol awdurdodau lleol ac mae hynny'n un o'r pethau yr ydym ni'n gobeithio canfod mwy amdano yn yr ymweliadau yr ydym ni'n eu cynnal, ac yn arbennig yn yr ail rownd o ymweliadau. A chredaf y gallwn ganfod a oes materion penodol mewn awdurdodau lleol penodol, ac mae'n bosibl iawn fod hynny'n wir. Felly, rydym yn mynd ati yn y ffordd honno. Gwn iddo sôn am lywydd y llys teulu, ei fod yn falch bod Syr Andrew McFarlane yn cymryd hyn o ddifrif, oherwydd deallaf ei fod wedi dweud ar goedd mai ei brif flaenoriaeth yw deall y cynnydd yn nifer yr achosion gofal. Ac, er nad ydym ni wedi cael unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag ef eto, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cysylltu â Syr Andrew McFarlane i geisio gweithio a mynd at wraidd y cynnydd hwn mewn achosion.
O ran darpariaeth breifat, yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud yw annog darpariaeth gan yr awdurdodau lleol yn uniongyrchol a rhai cyrff di-elw—y sector gwirfoddol—i gynnig darpariaeth. Ond gwn mewn rhai siroedd—ym Mhowys, mi gredaf, y mae'n bosibl bod Joyce Watson yn gwybod—fod—. Credaf ei fod yn wir fod 13 o sefydliadau preifat yno ac nad oes unrhyw blant lleol yn y sefydliadau hynny. Credaf fod hynny'n gywir, ond, yn amlwg, mae hon yn sefyllfa y mae angen inni edrych arni.
Diolch. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.