Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Hoffwn gyfrannu'n fyr at y ddadl hon. Fel eraill, rwy'n croesawu'n fawr y cynnig y mae'r Llywodraeth a'r gwrthbleidiau wedi'i roi ger ein bron y prynhawn yma, ac rwy'n falch iawn o gymeradwyo a chefnogi hynny. Credaf y dylem ni hefyd groesawu gwaith y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Nawr, rwy'n derbyn bod gennyf rywfaint o ddiddordeb yn y mater hwn, ond mae'n un o offerynnau Tŷ’r Cyffredin a system San Steffan sydd wedi bod yn gyson gefnogol i waith y lle hwn ac sydd wedi cydnabod sut y mae arnom ni angen a sut y gallwn ni ddatblygu craffu a democratiaeth sefydliadol ar draws y Deyrnas Unedig.
Nawr, credaf y dylem ni fod yn datganoli'r dreth benodol hon oherwydd credaf y dylem ni sicrhau bod datganoli strwythurol yn cael ei gydlynu. Dydw i ddim yn un o'r bobl hyn sy'n credu y dylem ni ddatganoli unrhyw fater penodol oni bai fod rhywbeth yr ydym ni eisiau ei wneud yn arbennig gyda'r mater hwnnw yn wahanol i'r hyn a wneir yn Lloegr. Nid wyf erioed wedi bod yn un o'r datganolwyr hynny sydd eisiau diffinio'r hyn yr ydym ni yma yng Nghymru fel rhywbeth gwahanol i'r hyn a geir dros Glawdd Offa.
Credaf y dylem ni gael cydlyniad yn y setliad. Credaf fod y setliad, ar hyn o bryd, yn setliad diffygiol. Nid oes ond rhaid ichi wrando ar unrhyw ddadl am drafnidiaeth i weld hynny. Dyna ichi'r problemau sydd gennyf ynghylch y rheilffordd o Lynebwy i Gaerdydd, sy'n faterion sy'n cael eu hanwybyddu gan yr adran drafnidiaeth yn Lloegr, ac nid oes gan y Llywodraeth yn y fan hon ddigon o bwerau i fwrw ymlaen â materion fel y byddem yn dewis ei wneud. Mae problem strwythurol yn y fan yna o ran y setliad, a chredaf fod problem strwythurol yma o ran y setliad hefyd. Credaf, os byddai Llywodraeth Cymru—a Llywodraeth Cymru yw'r unig awdurdod sydd â'r gallu i reoli polisi trafnidiaeth yng Nghymru yn briodol, felly os yw am wneud hynny mewn modd cydlynol yna mae'n rhaid iddi gael y pwerau i gyflawni'r polisi hwnnw, beth bynnag yw'r polisi hwnnw. Ac mae toll teithwyr awyr yn rhan o hynny. Mae'n rhan o gyfres o bwerau gwahanol a ddylai fod ar gael i'r Llywodraeth i'w galluogi i gyflawni polisi cyfannol.
Felly, credaf y dylem ni gefnogi gwaith y pwyllgor dethol yn y mater hwn, a chredaf y dylem ni gefnogi barn hirsefydlog Llywodraeth Cymru bod hwn i'w ddatganoli yn rhan o fframwaith cyllidol ehangach, a fydd yn sefydlu perthynas ariannol wahanol iawn rhwng gwahanol sefydliadau'r Deyrnas Unedig. Rydym ni eisoes wedi gweld y ddadl hon yn cael ei chyflwyno'n gydlynol gan Silk a gan Holtham. Mae'r ddau wedi bod yn glir iawn iawn petaem yn ceisio datganoli materion trethiant yna dylem wneud hynny, nid yn dameidiog ond er mwyn cyflwyno setliad sefydlog pryd gall y Llywodraeth yn Lloegr ac yma yng Nghymru gyflawni eu polisi mewn ffordd gyfannol. Rydym ni eisoes wedi gweld y methiant hwn gyda'r system farnwrol, lle mae cyfiawnder troseddol eto'n cynrychioli rhan o setliad diffygiol.
Gobeithiaf y byddwn, wrth ddatrys y materion hyn, yn gallu cyrraedd sefyllfa pryd y bydd gennym ni setliad sefydlog a chydlynol cyn imi ymddeol neu cyn i fy etholwyr benderfynu ei bod yn bryd imi ymddeol. Gobeithiaf, wrth fwrw ymlaen â'r mater hwn, y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd safbwynt mwy cyflawn ynghylch y materion hyn. Nid wyf i'n siŵr os ydw i'n rhannu optimistiaeth Andrew R.T. Davies a Nick Ramsay y bydd Prif Weinidog newydd y DU yn ddiweddarach eleni yn arwain at ganlyniad mor hapus, ond yr hyn yr wyf yn gobeithio y byddwn yn gallu ei wneud—ac mae cyn Brif Weinidog Cymru wedi siarad yn glir am hyn, mae Prif Weinidog newydd Cymru wedi siarad yn hynod o argyhoeddiadol am hyn hefyd—yw cyrraedd sefyllfa lle mae'r setliad yn gweithio ac nad y setliad bellach yw'r pwynt trafod, ond mai sut rydym ni'n gweithredu'r setliad a'r dewisiadau polisi sydd gennym fydd maes y drafodaeth, a dyna sut y dylai unrhyw ddemocratiaeth weithredu'n briodol. Felly, nid wyf eisiau dechrau dadl, ac rwy'n gobeithio na fyddwn yn cymylu'r ddadl y prynhawn yma gyda chwestiynau ynghylch sut y byddai'r Llywodraeth yn gweithredu'r trethiant hwn. Mae hynny'n fater ar gyfer maniffestos, etholiadau a dadleuon gwleidyddol yn y fan hon. Yr hyn y mae'r lle hwn yn gyfrifol am ei wneud—ac fe wnaethom ni fethu gyda phroses Deddf Cymru y tro diwethaf oherwydd y syrthni yn Whitehall wrth gyflawni setliad datganoledig sy'n ein galluogi i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n gobeithio nawr y byddwn ni, drwy'r adroddiad hwn ac adroddiadau eraill, yn gallu sicrhau bod gennym ni setliad datganoledig sy'n galluogi'r ddwy Lywodraeth i gyflawni eu polisi.