Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Yn wir, mae'n braf nodi'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, oherwydd nid oes amheuaeth, petai'r doll teithwyr awyr yn cael ei datganoli, a bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfle hwn i leihau neu yn well fyth, diddymu'r doll, fe fyddai'n rhyddhau gwir botensial Maes Awyr Caerdydd drwy wella gallu Llywodraeth Cymru i ddenu cwmnïau hedfan newydd yn sylweddol, a thrwy hynny o bosibl hwyluso cynnydd mawr yn nifer y teithwyr a fyddai'n defnyddio'r maes awyr.
Datganolwyd y dreth teithwyr awyr i Ogledd Iwerddon ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol drwy Ddeddf Cyllid y DU 2012, tra bo Deddf yr Alban 2016 yn darparu ar gyfer datganoli'r doll yn llawn i'r Alban. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau nad oes cyfiawnhad dros gael ein trin yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ac rydym ni ar y fainc hon yn cefnogi'r safiad hwnnw'n llawn.
Y broblem i Gymru yw safbwynt y DU o ran gwarchod statws Maes Awyr Bryste. Nid yw'r ddadl hon yn dal dŵr mwyach, gan fod gweithrediadau Bryste wedi ehangu'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, llawer mwy na rhai Caerdydd. Nid oes ond rhaid inni edrych dros Afon Hafren tuag at goridor yr M49 i weld yr effaith ehangach y gall defnydd estynedig o faes awyr ei gael ar yr economi. Mae cyfnewidfa gwbl newydd yn cael ei hadeiladu i greu mynediad i barc busnes mawr, y disgwylir iddo ddarparu miloedd o swyddi lleol. Fel y nodwyd yng nghynllun gweithredu economaidd Cymru, mae gwella cysylltedd Cymru â gweddill y DU ac yn rhyngwladol yn allweddol i ddatblygu economi Cymru.
Mor bell yn ôl â 2014, fel y cyfeiriodd Andrew R.T. Davies, argymhellodd adroddiad Silk hefyd y dylid datganoli'r doll teithwyr awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol i ddechrau. Ond er i Andrew R.T. Davies ddweud nad oedden nhw'n sôn am deithiau safonol, fe wnaethon nhw ddweud mewn gwirionedd:
dylai datganoli holl gyfraddau toll teithwyr awyr i Gymru fod yn rhan o waith Llywodraeth y DU ar drethi hedfan yn y dyfodol.
Nawr, o gofio bod adroddiad Silk wedi ei gyhoeddi bum mlynedd yn ôl, rwy'n credu ei bod hi bellach yn bryd cael datganoli llawn. Rydym ni yn y Blaid Brexit yn cymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad yn llawn ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r pwerau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod yn cefnogi'r doll hon ar y sail y bydd Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i'w diddymu neu ei lleihau'n sylweddol, oherwydd dyna fydd hyn yn ei wneud i economi Cymru, a dyna'r holl syniad dros ddatganoli hyn i Lywodraeth Cymru.