Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Wel, mae disgwyliadau'n un peth, Weinidog, ond ym mis Ionawr eleni, dywedodd pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd y byddai unrhyw leihad pellach yn y gyllideb yn golygu na fyddai'n bosibl cael athrawon arbenigol, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Nawr, rydym i gyd yn ymwybodol o bryderon cyffredinol ysgolion ynghylch toriadau i gyllid craidd, ond beth yw ein hymateb i'r honiad penodol hwn ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg a'i oblygiadau i strategaeth 2050?