Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Diolch am yr ateb hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddech yn croesawu'r ffaith mai Prifysgol De Cymru yw'r dau ganfed cyflogwr yng Nghymru i weithredu'r cyflog byw. Yn amlwg, rydym eisiau gweld mwy o sefydliadau'n cael yr un lefel o achrediad, ond a fyddech hefyd yn cytuno â mi fod mwy o waith i'w wneud o hyd, hyd yn oed gyda'r achrediadau hynny, i sicrhau bod meysydd gwaith a gwasanaethau o fewn y sefydliadau hynny, a allai gael eu rhoi ar gontract allanol neu eu hisgontractio weithiau, yn elwa o'r un achrediadau cyflog byw hefyd?