1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 3 Gorffennaf 2019.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am achrediadau cyflog byw yn y sector addysg yng Nghymru? OAQ54164
Diolch i chi, Mick. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gyflogwyr cyflog byw, gan gynnwys y sector addysg. Yn ogystal ag awdurdodau lleol, rwyf wrth fy modd fod pob sefydliad addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru yn gyflogwyr cyflog byw erbyn hyn a'u bod yn gweithio tuag at achrediad ffurfiol o'r statws hwnnw.
Diolch am yr ateb hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddech yn croesawu'r ffaith mai Prifysgol De Cymru yw'r dau ganfed cyflogwr yng Nghymru i weithredu'r cyflog byw. Yn amlwg, rydym eisiau gweld mwy o sefydliadau'n cael yr un lefel o achrediad, ond a fyddech hefyd yn cytuno â mi fod mwy o waith i'w wneud o hyd, hyd yn oed gyda'r achrediadau hynny, i sicrhau bod meysydd gwaith a gwasanaethau o fewn y sefydliadau hynny, a allai gael eu rhoi ar gontract allanol neu eu hisgontractio weithiau, yn elwa o'r un achrediadau cyflog byw hefyd?
Wel, rydych yn llygad eich lle, Mick. Er mwyn cael achrediad o'r math y dyfarnwyd i Brifysgol De Cymru yn ddiweddar, mae'n rhaid rhoi'r cyflog byw ar waith ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol a gweithgarwch sy'n cael ei roi ar gontract allanol. Heb hynny, ni ellir ennill achrediad.
Mae aelodau Prifysgolion Cymru eisoes wedi ymrwymo i dalu cyflog byw y Living Wage Foundation i bob aelod o staff a gyflogir yn uniongyrchol, ac maent eisoes wedi dechrau'r broses o weithredu'r cyflog byw ar draws eu gweithgareddau addysg uwch sydd wedi cael eu rhoi ar gontract allanol. Fel y dywedais, mae pob sefydliad yn y broses o gael eu hachredu'n ffurfiol am y cyflawniad hwnnw ar hyn o bryd, ac rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Prifysgolion Cymru a'r sector yn ehangach i sicrhau'r ymrwymiad hwn. Y sector addysg uwch yng Nghymru fydd y rhan gyntaf o dirwedd addysg uwch y Deyrnas Unedig i gyflawni'r nod hwn.
Weinidog, croesewais eich ymateb i Mick Antoniw ynglŷn ag awdurdodau lleol ledled Cymru. Cyngor Sir Fynwy oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf i gyflawni'r statws o dalu'r cyflog byw i'w holl staff. Fel y dywedasoch, dylai cynghorau fod yn gwneud hyn, dylai cyrff cyhoeddus fod yn gwneud hyn, a'r sector addysg yn ogystal. Felly, a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut rydych yn annog y sector addysg yng Nghymru i ddilyn yr esiampl a osodwyd gan y mwyafrif o awdurdodau lleol yn awr, a sut rydych yn gwneud yn siŵr fod yr achrediadau cyflog byw hyn yn digwydd a'u bod yr un mor ddylanwadol ag y byddem yn ei honni?
Mae fy llythyr cylch gwaith dyddiedig 2019-20 i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn nodi fy mod yn disgwyl cael cadarnhad eleni y bydd pob prifysgol yng Nghymru wedi derbyn eu hachrediad yn ffurfiol. Ac rwyf wedi ceisio gwneud cynnydd yn hyn o beth lle gallaf o fewn fy adran. Felly, er enghraifft, staff y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr sy'n gweithredu'r system benthyciadau i fyfyrwyr ar ran Llywodraeth Cymru o'r swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno—rydym hefyd wedi gallu negodi cynnydd gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i sicrhau bod yr holl staff yno'n cael cyflog byw go iawn ac yn cael cyflogau sy'n cyd-fynd yn well â swyddogion Llywodraeth Cymru, sy'n digwydd bod yn gweithio yn yr un adeilad mewn gwirionedd. Mae ein galluogi i wneud hyn yn mynd i'r afael â rhai o'r problemau sy'n ymwneud â recriwtio a chadw'r staff hynny, felly nid yw hynny ond yn enghraifft arall o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud o fewn addysg er mwyn sicrhau, os ydych yn rhan o'r genhadaeth genedlaethol, ym mha ffordd bynnag yr ydych yn rhan o'r genhadaeth genedlaethol, y byddwch yn cael eich gwobrwyo'n deg.